Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol wedi bod yn cynnal Gŵyl Amdani yr wythnos hon (rhwng 4 ac 8 Mawrth). Mae’r ŵyl yn dathlu darllen.

‘Amdani’ yw’r llyfrau darllen i bobl sy’n dysgu Cymraeg. Dach chi wedi darllen rhai o’r llyfrau? Mae dros 40 o deitlau ar gael erbyn hyn – yn llyfrau, e-lyfrau a llyfrau llafar.

Fel rhan o ŵyl Amdani mae Lingo360 wedi bod yn cyhoeddi dwy stori newyddion bob dydd yn ystod yr wythnos. Felly cylchlythyr ychydig yn wahanol yr wythnos hon sy’n cynnwys dolen i’r holl straeon sydd wedi cael eu cyhoeddi wythnos yma.

Mwynhewch y penwythnos!


Dyma’r penawdau: