Mae’r person hynaf yng Nghymru wedi dathlu ei phen-blwydd yn 112 oed.

Mae Mary Keir yn byw yng Nghartref Preswyl Awel Tywi yn Llandeilo. Mae hi wedi byw yno ers 12 mlynedd.

Hi yw person hynaf Cymru. Roedd hi wedi dathlu efo cinio rhost a threiffl sieri ac yna bwffe gyda’r nos.

Roedd disgyblion o Ysgol Ffairfach wedi dathlu gyda hi yn y cartref. Roedd Côr Meibion Dinefwr hefyd wedi mynd i’r cartref i ganu.

Mae Mary Keir yn hoffi cerddoriaeth. Mae hi’n cymryd rhan yn y gweithgareddau, yr adloniant a’r cyfarfodydd yn Awel Tywi.

Roedd hi’n arfer gweithio fel nyrs. Roedd hi’n byw’n annibynnol yn Llansteffan nes ei phen-blwydd yn 100 oed, cyn symud i’r cartref.

Roedd ei mab Robert Keir, a Sian Keir, ei merch-yng-nghyfraith, wedi dathlu ei phen-blwydd gyda hi.

“Mae Mary yn gadarn ei hewyllys a’i phenderfyniad o hyd,” medden nhw.

“Mae hi wedi cael gofal gwych yn Awel Tywi.”