Fe fydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn prynu safle Wylfa ar Ynys Môn.

Dyna beth mae’r Canghellor Jeremy Hunt wedi cyhoeddi yn ei Gyllideb heddiw (dydd Mercher, 6 Mawrth).

Dywedodd Jeremy Hunt bod y Llywodraeth wedi dod i gytundeb gyda Hitachi, perchnogion Wylfa, i brynu’r safle am £160m.

Roedd Wylfa wedi cyflenwi trydan i filiynau o gartrefi cyn cael ei ddadgomisiynu yn 2015.

Roedd cwmni Hitachi yn mynd i godi atomfa newydd yn Wylfa. Ond yn 2021, wnaethon nhw roi’r gorau i’r cynllun.

Mae Jeremy Hunt yn dweud bod gan Ynys Môn “rôl hanfodol” yn “uchelgeisiau niwclear” y Llywodraeth.

Mae’r Canghellor hefyd wedi dweud y bydd Llywodraeth Cymru yn cael £168m ychwanegol o arian Barnett.

Bydd £10m yn cael ei roi i Venue Cymru yn Llandudno, Sir Conwy.

Bydd Theatr Clwyd yn yr Wyddgrug yn cael £1.6m.

Bydd £5m i Gasnewydd i gefnogi prosiectau diwylliant lleol yn yr ardal.

Bydd Y Rhyl yn cael £20m dros 10 mlynedd.