Mae aelodau’r NFU wedi gadael 5,500 pâr o welingtons tu allan i’r Senedd ym Mae Caerdydd.

Dyma faint o swyddi allai gael eu colli oherwydd effeithiau’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, meddai’r NFU.

Mae pob pâr o welingtons yn cynrychioli swydd fyddai’n cael ei cholli os ydy 100% o ffermydd Cymru yn ymuno â’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, meddai’r NFU.

Roedd ffermwyr wedi rhoi’r welingtons tu allan i’r Senedd heddiw (dydd Mercher, Mawrth 6).

Mae’r ymgynghoriad ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn cau yfory (dydd Iau, Mawrth 7).

Mae llawer o brotestiadau wedi bod yn gwrthwynebu’r Cynllun.

Cafodd pob pâr o welingtons eu rhoi i NFU Cymru gan ffermwyr. Byddan nhw’n cael eu rhoi i elusennau yn Affrica pan fydd yr arddangosfa yn dod i ben.

Mae Paul Williams yn aelod o NFU Cymru a threfnydd yr arddangosfa.

Mae’n dweud: “Mae gweld y 5,500 o welingtons hyn ar risiau’r Senedd yn ddarlun pwerus o’r swyddi posibl fydd yn cael eu colli i amaethyddiaeth yng Nghymru os bydd y cynigion hyn yn mynd yn eu blaenau yn eu ffurf bresennol.”

“Yr hyn sy’n gwneud ein diwydiant mor arbennig yw bod ffermio yn fwy na swydd i’r bobol a’r teuluoedd sy’n ei wneud.”

Mae ffermwyr yn dweud y bydd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn effeithio busnesau a chymunedau Cymru.