Cafodd cystadleuaeth Cân i Gymru ei darlledu nos Wener (Dydd Gŵyl Dewi).

Sara Davies oedd wedi ennill gyda’r gân ‘Ti’.

Ond roedd llawer o bobl yn dweud eu bod nhw ddim wedi gallu pleidleisio am eu hoff gân oherwydd problemau gyda’r llinellau ffôn.

Er mwyn pleidleisio, roedd angen i bobol ffonio rhif yn dechrau gyda 0900. Ond dydy rhai cwmniau ddim yn gadael i gwsmeriaid ddefnyddio llinellau o’r fath.

Mae S4C wedi ymddiheuro i’r rhai oedd wedi cael problemau wrth bleidleisio. Maen nhw’n dweud y byddan nhw’n adolygu hyn erbyn y flwyddyn nesaf.

Ond mae nifer o wylwyr yn dweud bod y gystadleuaeth wedi bod yn “annheg”. Roedd pobl wedi bod yn rhoi negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol yn dweud eu bod nhw’n cael problemau wrth bleidleisio.

Roedden nhw’n dweud bod y problemau yn “hollol warthus”, yn “siomedig” a “trist iawn”. Roedd rhai hefyd wedi cwyno am fod S4C heb ymddiheuro yn ystod y gystadleuaeth.

Yn amlwg fydd y bleidlais heno ddim yn deg yn na fydd,” meddai un ar X.

Roedd 94.5% yn dweud nad oedden nhw wedi gallu pleidleisio, gyda dim ond 5.5% wedi llwyddo.

Mae llefarydd ar ran S4C yn dweud: “Rydym yn gwerthfawrogi’r holl gefnogaeth gan ein gwylwyr ledled Cymru ac yn siomedig bod rhai wedi cael trafferthion wrth geisio pleidleisio.”

Maen nhw wedi ymddiheuro ac yn ymchwilio i beth achosodd y broblem.

“Cafodd dros 17,000 o bleidleisiau eu cyfri, sydd llawer yn fwy na’r cyfanswm y llynedd.

“Fe wnaeth yr enillydd dderbyn rhai miloedd yn fwy o bleidleisiau na’r gân yn yr ail safle,” meddai S4C.

Sara Davies enillodd gyda’r gân ‘Ti’, gyda Kirstie Roberts a Steve Balsamo yn ail, ac yn drydydd roedd Gwion Phillips ac Efa Rowlands.