Mae athrawon mewn ysgol Saesneg ar y ffin wedi dechrau siarad Cymraeg efo’r plant a rŵan mae’r iaith yn “ffynnu”.

Roedd criw o athrawon yn Ysgol Gynradd Langstone ger Casnewydd wedi dechrau dysgu’r iaith yn ystod y cyfnod clo.

Maen nhw rŵan yn ei chyflwyno i’r plant hefyd.

Yn ystod y pandemig, roedd pennaeth yr ysgol wedi gofyn i bob aelod o staff wneud modiwl blasu Dysgu Cymraeg i athrawon ar-lein. Mae’r modiwl blasu ar gael am ddim gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Ar ôl gwneud y modiwl roedd pedwar o’r athrawon wedi gwneud cwrs gyda’r nos gyda Dysgu Cymraeg Gwent.

Jude Russells ydy Dirprwy Bennaeth yr ysgol. Mae hi’n dweud: “Mae criw ohonom wedi parhau i ddysgu Cymraeg, ac yn mwynhau yn fawr.”

“Gwaith anhygoel”

Mae hi’n dweud bod Paula Watts, sy’n athrawes Blwyddyn 3 a 4, wedi gwneud “gwaith anhygoel.

Roedd Paula Watts wedi bod ar gynllun sabothol Cymraeg mewn Blwyddyn gyda Phrifysgol Caerdydd.

“Dw i wrth fy modd yn siarad Cymraeg a dw i’n manteisio ar bob cyfle posibl i gyflwyno’r iaith i’r plant,” meddai.

“Mae gennym ni nifer o gemau newydd yn Gymraeg er mwyn helpu’r plant i adeiladu brawddegau, cyflwyno geirfa newydd a chynnal sgwrs syml.

“Dw i hefyd yn rhannu gorchmynion Cymraeg y gall y staff ddefnyddio yn y dosbarth wrth ddysgu, ac yn cynnig syniadau pan maen nhw’n cynllunio eu gwersi Cymraeg.

“Mae gennym sesiwn ‘paned a sgwrs’ bob bore Mawrth am 8:15yb sy’n rhoi cyfle i staff siarad Cymraeg gyda’i gilydd dros baned.

“Mae ‘Welsh Wednesday’ yn un o’n hoff ddyddiau ni a’r plant – rydym yn cael llawer o hwyl ac yn cychwyn y dydd gyda gemau a chaneuon Cymraeg.”

Mae’r ysgol wedi cael eu canmol gan Estyn, y corff sy’n arolygu ysgolion, am roi cyfleoedd i’r plant ddefnyddio Cymraeg.