Clawr llyfr Wayne Howard

Rhybudd cynnwys: Mae’r erthygl yma’n trafod pynciau sy’n gallu achosi pryder.

Mae Wayne Howard yn ddyn positif. Mae ei bositifrwydd a’i egni yn byrlymu lawr y ffôn. Ac mae ganddo reswm da i fod yn bositif oherwydd mae o newydd gyhoeddi llyfrHunangofiant Dyn Positif – Bywyd a Gwaith Wayne Howard.

Roedd tad Wayne yn dod o Jamaica. Daeth i Brydain ar long yr Almanzora yn 1947. Roedd e wedi dod i fyw yng Nghaerdydd. Doedd teulu Wayne ddim yn siarad Cymraeg. Ond roedd e wedi dechrau dysgu Cymraeg 32 mlynedd yn ôl pan gafodd ei fab Connagh ei eni.

Roedd Wayne yn gweithio mewn ffatri ddur am dros chwarter canrif. Ar ôl colli ei waith roedd e wedi gwneud gradd BA Gymraeg fel ail iaith. Roedd e’n gweithio fel athro Cymraeg ail iaith cyn iddo ymddeol.

Wayne Howard a’i fab Connagh oedd sêr y cyfresi teledu ar S4C, Cymru, Dad a Fi a Teulu Dad a Fi. Roedd Connagh wedi bod ar y gyfres Love Island yn 2020.

Yma mae Wayne wedi bod yn siarad efo Lingo360 am ei lyfr newydd…

Wayne, pam wnaethoch chi benderfynu ysgrifennu eich hunangofiant?

Roedd e’n rhywbeth ro’n i ddim yn disgwyl o gwbl. Ges i wahoddiad i gymryd rhan yng Ngŵyl Lleisiau Eraill Aberteifi i siarad efo Jon Gower [yr awdur] am bwysigrwydd dysgu Cymraeg. Pan weles i Jon yn y gwesty, wedes i: “Dw i’n nabod ti!”

A dwedodd Jon: “Wnes i gwrdd â ti chwarter canrif yn ôl, pan oeddet i’n gweithio yn y ffatri ddur.” Roedd e wedi bod yn gwneud gwaith ymchwil i lyfr roedd e’n sgwennu ar y pryd.

Wnaethon ni ddechrau siarad yn gyffredinol a dyma fe’n dweud: “Wayne, dylet ti ddechrau sgwennu llyfr. Mae gen ti lawer i ddweud.”

Roedd e wedi gweld rhywbeth ynof fi doeddwn i ddim wedi gweld.

Hunangofiant Dyn Positif ydy teitl y llyfr. Sut dach chi’n aros mor bositif?

Dw i wedi dioddef o iselder a wnes i dreulio mwy na phum mis mewn ysbyty seiciatrig. Ar y pryd ro’n i eisiau lladd fy hun. Wedes i wrth y nyrs un diwrnod: “Dw i wedi cael llond bol, dw i eisiau lladd fy hun.”  A wnaeth hi ddod a darn o bapur i fi a’i rhannu’n ddwy golofn a dweud: “Yn y golofn gyntaf, sgwenna pam wyt ti isho lladd dy hun ac, yn yr ail golofn, pam ddylet ti ddim.” A wnes i sylweddoli byddai lladd fy hun yn achosi lot o boen i fi nheulu. Roedd dewis gen i – codi neu roi’r gorau iddi, felly dechreuais i godi. Cyn hynny ro’n i’n berson llawn egni, ac roedd chwaraeon yn bwysig iawn i fi. Gyda help teulu, ffrindiau a meddygon ro’n i wedi cael yr help ro’n i angen. Dw i wedi dod i ddeall beth sy’n hollbwysig i fi ydy cadw’n heini, helpu pobl, ac ysbrydoli pobl. Dyna’r pethau sydd wedi cael effaith mawr arna’i.

Wayne yn graddio

Dach chi’n dweud yn y llyfr eich bod chi’n falch iawn pan wnaethoch chi gael gradd Cymraeg ail iaith. Pam wnaethoch chi benderfynu gwneud gradd? 

Pan wnes i golli fy ngwaith yn y ffatri ddur ro’n i’n grac ac yn rhwystredig. Ond wnes i sylweddoli, pan mae un drws yn cau, mae un arall yn agor. Wnes i feddwl: “beth ydy fy nghryfderau i?”. Dw i’n dwli ar ieithoedd ac yn siarad Almaeneg ac wedi bod yn dysgu Cymraeg ers blynyddoedd. Wnes i benderfynu fy mod i eisiau bod yn athro Cymraeg ail iaith. Ro’n i’n 51 oed pan wnes i gofrestru ar y cwrs. Roedd e’n anodd ond wnes i fwrw mlaen. Ro’n i mor falch pan wnes i raddio.

Dach chi wedi dod yn Dad-cu am y tro cyntaf eleni. Mae llawer o luniau o’ch teulu yn y llyfr. Pa mor bwysig ydy teulu i chi?

Mae teulu yn hollbwysig i fi. Dw i’n agos iawn at fy nheulu. Atlas ydy enw fy ŵyr. Dw i mor falch dros Connagh, achos mae ganddo fab hyfryd. Mae fy mrawd hynaf, Garry, mor genfigennus achos mae ganddo fe ferched i gyd!

Roedd ffilmio’r gyfres i S4C efo Connagh yn wych. Roedd wedi dod a ni’n agosach at ein gilydd. Roedd yr ail gyfres yn emosiynol iawn oherwydd oedd Connagh wedi dysgu mwy am ei hanes Gwyddelig a’r teulu. Pan aethon ni i Jamaica a siarad am gaethwasiaeth roedd yn ysgytwol iawn.

Connagh a Beth gyda’u mab Atlas, a Wayne a’i wraig Lynda

Beth ydy’r neges dach chi eisiau i bobl gymryd o’r llyfr?

Trïwch fod y fersiwn gorau o’ch hunain. I fi, mae hynny’n golygu sut dw i’n teimlo tu mewn. Mae’n bwysig rhoi rhywbeth yn ôl. Os dw i wedi gwneud rhywbeth da neu wedi helpu pobl dw i’n teimlo’n dda tu mewn. Os dw i’n cadw’n heini dw i’n teimlo’n iachus. Os dw i eisiau astudio neu wneud rhywbeth creadigol, dyna sut dw i’n creu‘r fersiwn gorau ohonof fi fy hun.

Hunangofiant Dyn Positif – Bywyd a Gwaith Wayne Howard, Y Lolfa, £9.99