Wythnos yma, ges i’r profiad hyfryd iawn o fynd i ysgol leol lle dw i’n byw sef Ysgol Pen Barras yn Rhuthun. Dw i wedi bod i’r ysgol o’r blaen yn ddiweddar er mwyn siarad efo criw o ddisgyblion sy’n rhan o Siarter Iaith yr ysgol. Sôn am ddysgu a defnyddio Cymraeg oedd y bwriad – ond, wrth gwrs, roedd rhaid i fi sôn am lyfrau hefyd!

Roeddwn i mor hapus i gael gwahoddiad i fynd yn ôl i’r ysgol ar ôl sesiwn gwych efo’r Siarter Iaith y tro cyntaf. Roedd y plant a’r athrawon mor groesawgar a chefnogol o fy nhaith dysgu. Felly roeddwn i’n edrych ymlaen yn fawr iawn at gael y cyfle i siarad efo nhw eto, ond y tro yma, o flaen yr ysgol gyfan yn ystod eu gwasanaeth.

Roedd genna’i gynulleidfa o fy mlaen wedi’u gwisgo i fyny ar gyfer Diwrnod Trwynau Coch, efo sawl un ohonyn nhw yn eu crysau pêl-droed Cymru a Wrecsam. Mor braf oedd gweld hynny, eu balchder a dathliad o hunaniaeth Gymraeg.

Roedd ganddyn nhw gwestiynau gwych fel “lle mae eich hoff lefydd yng Nghymru?” – cwestiwn anodd iawn i ateb! Dywedais fy mod i wrth fy modd efo llefydd sydd â siop lyfrau fel Siop Elfair yn Rhuthun, Siop y Siswrn yn yr Wyddgrug, a Palas Print yng Nghaernarfon. Fel dwedais, roedd rhaid i fi ddefnyddio bob cyfle i ddod â llyfrau i mewn i’r sgwrs!

Wnaeth y profiad o siarad efo’r plant wneud i mi feddwl am fy amser fy hun yn yr ysgol gynradd, a pha mor wahanol oedd hynny i gymharu. Er roeddwn i’n gwneud ychydig bach o Gymraeg yn yr ysgol, doeddwn i ddim yn ymwybodol o bwysigrwydd yr iaith. Ond dwi yn cofio pryd wnaeth hynny newid.

Francesca Sciarrillo yn siarad efo plant Ysgol Pen Barras

Dwi dal, hyd heddiw, yn cofio’r tro cyntaf i mi feddwl am fodolaeth y Gymraeg a sut roeddwn i isio i’r iaith fod yn rhan o fy mywyd. Roeddwn i’n cystadlu yn Eisteddfod yr ysgol – blwyddyn 5 neu 6.  Ysgrifennais gerdd fach o’r enw ‘Giro the Dragon’ ar gyfer cystadleuaeth efo’r pwnc ‘the Welsh Dragon’.  Giro, ar ôl un o fy ewythrod yn yr Eidal – dewisais ei enw oherwydd roeddwn i isio son am fy malchder o fy nheulu Eidalaidd a fy malchder o fod mewn ysgol Gymraeg.

Dwi’n cofio teimlo’n ddryslyd. Meddyliais mwy am y gair ‘Welsh’ yn lle’r gair ‘dragon’, a sut doeddwn i ddim yn gwybod digon amdano. Roedd genna’i gymaint o gwestiynau – ‘be ydy ‘Welsh’?, be ydy ystyr ‘Eisteddfod’? Ac, ‘os dwi’n byw yng Nghymru, pam dydw i ddim yn siarad Cymraeg?’

Felly, dyna ddechrau fy nhaith dysgu. Dyna pryd wnes i benderfynu darganfod y Gymraeg. Ac yn araf iawn dros y blynyddoedd wedyn, roeddwn i’n casglu mwy a mwy o eiriau, a mwy a mwy o atebion i’r holl gwestiynau oedd genna’i fel plentyn.

Roeddwn i’n rhannu fy stori o ddysgu Cymraeg efo plant Ysgol Pen Barras ac yn trio fy ngorau i bwysleisio pwysigrwydd defnyddio eu Cymraeg pob dydd. I mi, maen nhw mor lwcus: mae ganddyn nhw’r cyfle i ddefnyddio a mwynhau siarad Cymraeg bob dydd efo’u ffrindiau yn yr ysgol. Dyma rywbeth mor arbennig, i rywun sydd wedi darganfod y Gymraeg yn hwyrach ymlaen yn ei bywyd. Mae’n rhywbeth i drysori.

Dwi wedi dechrau swydd newydd yn ddiweddar, a fy rôl yn canolbwyntio ar hyrwyddo darllen er pleser ymysg plant a phobol ifanc. Felly, trwy’r rôl hon, dwi’n gobeithio fy mod i efo’r cyfle i fynd i ysgolion i ledaenu’r neges bwysig o fwynhau darllen. A neges bwysig arall, dwi’n gobeithio, o ysbrydoli eraill i ddysgu’r iaith brydferth ‘ma sydd gennym ni yng Nghymru. Yr iaith dan ni gyd yn ei garu. A heb os, mae gennym ni gyd gyfrifoldeb i ledaenu’r neges yma – siaradwyr newydd a siaradwyr gydol oes.