Mi ges i brofiad arbennig iawn wythnos yma. Rhywbeth dw i erioed wedi gwneud o’r blaen sef mynd i weld ffilm yn yr iaith Gymraeg mewn sinema. Ac er fy mod i’n byw yng Nghymru ac yn teimlo’n gryf iawn am gefnogi theatrau Cymraeg – roedd rhaid i mi fynd i weld y ffilm tu allan i Gymru. (Roedd y tocynnau i gyd wedi gwerthu allan yn fy ardal i!)

Gwelais y ffilm mewn sinema yng Nghaer – The Storyhouse – ac roedd yn brofiad diddorol. Rhyfedd oedd bod yn Lloegr a chlywed a gweld Cymraeg ar y sgrin fawr, yn enwedig oherwydd fy mod i heb weld ffilm Gymraeg mewn sinema yng Nghymru hyd yn hyn.

Y Sŵn oedd y ffilm, os dach chi heb ddyfalu yn barod. Dwi wedi gweld llawer am y ffilm, fel posteri a chlipiau fideo ar gyfryngau cymdeithasol, a hysbysebion dros y misoedd diwethaf. A dw i wedi bod yn edrych ymlaen cymaint at ei gweld. Gallwn ddweud yn hyderus bod y ffilm heb fy siomi: mae’n anhygoel!

O’r stori, i’r perfformiadau a’r gwisgoedd o’r saithdegau, roedd y ffilm yn ddeniadol iawn.  Ac roedd hynny wedi cael ei bwysleisio hyd yn oed mwy trwy’r dewis o gerddoriaeth ac arddull y ffilmio.  Doeddwn i ddim yn gallu tynnu fy llygaid i ffwrdd o’r sgrin am eiliad!

‘Cyffrous’

Yn ogystal â bod yn ffilm gyfoes a chyffrous, roedd hi hefyd yn teimlo fel gwers hanes i mi. Ond y wers hanes mwyaf difyr a theimladwy. Cyn mynd i mewn i’r sinema, doeddwn i ddim yn gwybod llawer am stori Gwynfor Evans neu hanes sefydlu S4C. Doedd yr hanes yma ddim ar gael yn yr ysgol yn anffodus, ond dwi wir yn gobeithio bod Y Sŵn am gymryd lle arbennig mewn dosbarthiadau wrth symud ymlaen.

Un o’r pethau mwynheais fwyaf am y ffilm oedd y cymysg o gymeriadau a’r ffaith bod y gynulleidfa yn gweld amrywiaeth o safbwyntiau gwahanol. Er bod yna ffocws mawr ar Gwynfor Evans, mae sawl cymeriad arall fel Rhiannon Evans, gwraig Gwynfor, a Ceri Samuel, dynes ifanc sy’n gweithio i’r Swyddfa Gymreig, hefyd yn cael lle hollbwysig yn y ffilm. Ac mae eu storiau nhw – y merched yn enwedig – yn un o uchfabwyntiau’r ffilm, a dyna beth sydd yn aros yn y cof i fi.

‘Gobaith’

Un o’r themâu mwyaf yn y ffilm yw gobaith, a pha mor bwysig yw sefyll i fyny dros bethau sy’n effeithio ni fel gwlad a phobol. Mae yna ambell olygfa yn y ffilm sy’n arbennig o deimladwy wrth son am yr iaith Gymraeg. Ac, mae’n rhaid i mi gyfaddef, mi wnes i grio o leiaf tair gwaith wrth wylio’r golygfeydd yma. Fel arfer, mi fyswn i’n beio fy nhras Eidalaidd ond, wrth siarad efo eraill ar ôl y ffilm, roedd yn amlwg nad fi oedd yr unig un efo dagrau yn ei llygaid.

Er fy mod i wedi tyfu fyny yng Nghymru, doeddwn i ddim yn gwylio rhaglenni S4C nes i fi ddysgu Cymraeg fel oedolyn. O safbwynt dysgwr, dwi wastad wedi bod yn ddiolchgar o gael S4C i helpu ar fy nhaith dysgu. Dwi’n lwcus i ddweud bod S4C wastad wedi bod yn rhan o fy mywyd, ond efallai dwi heb ei gwerthfawrogi ddigon. Felly, dwi’n ddiolchgar iawn i’r ffilm yma am bwysleisio pwysigrwydd y sianel, a’i hanes.

Dwi’n teimlo’n agosach at fy Nghymreictod ar ol gweld Y Sŵn – ac mae hynny’n dipyn o beth i rywun sydd wastad wedi ystyried ei hun yn Eidales! Dwi methu disgwyl gweld y ffilm eto ac am drio fy ngorau i annog pawb sy’n siarad Cymraeg neu beidio i wylio hefyd.