Mae fy nheulu i –  sef fy Mam Luisa, fy Nhad Gaetano a fy chwaer Cristina – yn agos iawn. Anaml iawn ydan ni’n mynd mwy na diwrnod neu ddau heb siarad efo’n gilydd. Ac ers symud o dŷ fy rhieni, dw i wedi ffonio nhw sawl gwaith i ofyn am  help yn fy nhŷ i.

Mae’n rhaid i mi gyfaddef, dw i ddim yn dda iawn efo ‘DIY’. Ond mae fy Nhad yn gallu gwneud popeth! Ers yn blentyn bach, dw i wedi gwylio fy Nhad yn gwneud pob math o bethau gwahanol yn y tŷ a’r ardd – o osod teils a phaentio i adeiladu ‘rispondiglio’ (neu ‘ganolfan ailgylchu’ fel mae o’n ei galw) yn yr ardd.

Mae o wedi fy helpu cymaint dros y blynyddoedd a dw i mor ddiolchgar. Hyfryd yw clywed o’n sôn am sut ddysgodd i wneud hyn neu’r llall gan fy Nheidiau, Nonno Guido a Nonon fel roeddwn i’n eu nabod nhw. A dw i wrth fy modd yn clywed o’n defnyddio hen eiriau Eidalaidd wrth iddo wneud y gwahanol jobsys o gwmpas y tŷ.

Francesca yn gosod teils yn y gegin

Ychydig wythnosau yn ôl, ffoniais fy Nhad i ofyn am ei help i adeiladu dodrefn newydd yn fy stafell sbâr. A phan glywodd Mam, gofynnodd os oedd hyn yn golygu y gallai hi gael y dillad gwely a fenthycodd i mi yn ôl. Dillad gwely Laura Ashley – sef un o hoff gwmnïau Mam. Felly dyma fi’n tynnu’r dillad gwely a’u rhoi i Dad gyda chyfarwyddiadau i’w “rhoi yn ôl i Mam”.

Tua wythnos ar ôl hyn, roeddwn i’n siarad efo Mam pan ofynnodd hi eto am y dillad gwely. “Wnes di roi’r dillad gwely Laura Ashley i dy Dad?” meddai hi. “Do, wythnos diwethaf” atebais. Dyma pryd wnes i gofio bod Dad wedi mynd i’r sgip ar ei ffordd nol o fy nhŷ i ailgylchu’r bocsys cardbord.  Dw i’n siŵr y gallwch chi ddychmygu be’ oedd wedi digwydd i’r dillad gwely…

Doedd Mam ddim yn hapus – o gwbl.  Ei dillad gwely vintage Laura Ashley yn y sgip!? Wedi mynd am byth! Ac i wneud pethau’n waeth, mae Dad wedi bod yn benderfynol ei fod o heb roi’r dillad gwely yn y sgip.  Mae o wedi bod yn dweud ers wythnosau nad ydy o’n cofio dim am roi nhw yn y sgip – ac mae hynny wedi gwylltio Mam hyd yn oed yn fwy! Rydyn ni heb weld ffrae fel hyn ers tipyn yn Casa Sciarrillo.

Wrth gwrs, mae Cristina a fi wedi bod yn tynnu coes Dad dipyn ers hynny – heb sôn am deulu, ffrindiau a hyd yn oed ei gydweithwyr sydd wedi ymuno yn y jôcs – “sut wnes di roi’r dillad gwely posh ‘na yn y sgip?!” Fo sydd fel arfer yn weindio pawb i fyny, felly roedden ni gyd yn cytuno ei bod hi’n hen bryd iddo gael blas!

“Papa G, mae’n rhaid i chi brynu dillad gwely newydd sbon i Mam dw i’n meddwl!” medda fi wrth Dad. A dyna’n union be’ wnaeth o, ar ôl wythnosau o dynnu coes gan bawb.

Heb os, dw i erioed wedi chwerthin mwy yn fy mywyd pan, sawl wythnos wedyn, ffeindiais fag yn bŵt fy nghar i. Ac yn y bag, dillad gwely hyfryd Laura Ashley! Peidiwch â gofyn sut doeddwn i heb weld y bag cyn hynny – sgen i’m syniad.

Felly, ar ôl wythnosau o wneud hwyl ar ben fy Nhad annwyl sydd wedi bod yn fy helpu cymaint yn y tŷ, roeddwn i’n teimlo fel y ferch waethaf erioed!

Roedd Mam wedi gwirioni efo’i dillad gwely – un vintage ac un newydd sbon – a Dad yn gwenu o glust i glust yn gwybod ei fod o’n ddiniwed o’i drosedd. A fi? Wel, mae’n debyg mai fi sydd angen rhoi pres i Papa G rŵan, ac ymddiheuriad mawr!