Wythnos diwetha’, ges i gyfle i ddal fy ngwynt ar ôl wythnos brysur – a chyffrous iawn – yn dathlu gwobrau Tir na n-Og a lansiad Lingo+ yn Eisteddfod yr Urdd. A pha ffordd well i ymlacio na chael cwmni llyfr da!

Dw i newydd orffen llyfr o’r enw Vulcana gan yr awdures Rebecca F John – sydd yn werth ei darllen os dach chi’n hoff o lyfrau hanesyddol. Ac, oherwydd ei fod o’n llyfr eithaf hir (sydd ddim yn beth drwg, wrth gwrs!), roeddwn i’n licio’r syniad o symud ymlaen i ddarllen rhywbeth ychydig bach yn wahanol. Felly, yn lle nofel, dw i wedi penderfynu mentro i fyd llenyddol sydd wastad wedi codi ofn arna’i – y byd barddoniaeth!

Efo cyhoeddiad rhestr fer Llyfr y Flwyddyn, penderfynais fynd ar daith i gasglu rhestr fer y categori barddoniaeth. Felly wnes i fynd i ddwy o fy hoff siopau llyfrau – sy’n digwydd bod wedi’u lleoli’n lleol i mi yma yn y gogledd ddwyrain: Siop Elfair yn Rhuthun a Siop y Siswrn yn yr Wyddgrug.

Rydyn ni mor lwcus i gael siopau mor hyfryd sydd â chymaint o lyfrau ac anrhegion annwyl. Mae’r ddwy siop hefyd wedi bod yn gefnogol iawn dros y blynyddoedd o ran croesawu siaradwyr newydd. I unrhyw siaradwr Cymraeg newydd, mi fyswn i wir yn argymell ymweld â’ch siopau lleol – yn enwedig os dach chi’n eithaf newydd ar eich taith dysgu. Dyma un o’r llefydd mwyaf perffaith i gael y cyfle i ymarfer a defnyddio eich Cymraeg yn y gymuned a thu hwnt i’ch gwersi.

Mi wnes i ddod o hyd i’r 3 teitl ar y rhestr fer sef: Y Lon Hir Iawn gan Osian Wyn Owen, Anwyddoldeb gan Elinor Wyn Reynolds, a Tosturi gan Menna Elfyn. Mae’n anodd peidio beirniadu llyfr o’i glawr weithiau, ond mae genna’i deimlad fel dw i am fynd i fwynhau’r tri llyfr oherwydd eu hedrychiad. Y tri mor wahanol i’w gilydd ond yn brydferth yn eu ffordd eu hunain.

Dwi wastad wedi licio’r syniad o eistedd lawr efo panad neu wydr o win i ddarllen barddoniaeth. Yn enwedig yn yr ardd os ydy’r tywydd yn braf. Ond bob tro dw i’n trio gwneud hyn, a hyd yn oed ar ôl blynyddoedd o ddysgu Cymraeg, dw i wedi ffeindio fy hun yn stryglo efo’r iaith. Ac yna’n digalonni neu’n colli ychydig bach o hyder.

Hyd yn oed cyn i mi ddechrau darllen y rhestr fer, roeddwn i’n chwerthin i sylweddoli sut doeddwn i ddim cant y cant yn siŵr o ystyr y teitlau ‘anwyddoldeb’ [gair sydd wedi cael ei wneud gan y bardd, rhag i chi fynd i chwilio yn y geiriadur!] a ‘tosturi’ – ac yna’n cicio fy hun wrth sbïo yn y geiriadur!

Ond dw i’n benderfynol o ddarllen y casgliadau hyn – hyd yn oed os oes rhaid i mi edrych yn y geiriadur bob dau eiliad. Mi fydda’ i’n hapus i gasglu geirfa newydd – rhywbeth sy’n dal i godi calon ar ôl blynyddoedd o ddysgu. Mae’n atgoffa fi o’r rhesymau pam dw i’n caru’r iaith a’r ffordd mae’r broses dysgu yn un hir a gwerthfawr iawn.