Mae mis Mawrth yn nodi Mis Hanes Merched, a’r wythnos ddiwethaf, roedd pobol ar draws y byd yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched. Efo hynny mewn golwg, dw i wedi bod yn meddwl am y merched yn fy mywyd a’u pwysigrwydd i fi fel unigolyn. Dw i’n ffodus iawn i fod o gwmpas cymaint o ferched arbennig – o fy nheulu i fy ffrindiau a chydweithwyr.
Mae Mis Hanes Merched yn cynrychioli amser arbennig i ddarganfod a dysgu mwy am leisiau hanesyddol. Ond mae hefyd yn amser i feddwl am faterion cyfoes sy’n effeithio bywydau merched heddiw. Ac yn bwysicach, mae’n gyfle perffaith i ledaenu neges o gydraddoldeb yn ein cymdeithas a’r byd ehangach.
Ond lle i ddechrau? Mae genna’i ddiddordeb mawr mewn ffeministiaeth ac yn awyddus i ddysgu mwy am brofiadau merched o wahanol gefndiroedd o gwmpas y byd. Ond mae hefyd yn gysyniad mor fawr, mae’n anodd gwybod lle i ddechrau.
Fel dw i’n gwneud efo’r rhan fwyaf o bethau, os dw i ddim yn siŵr lle i ddechrau, dw i’n troi at lyfrau. Ac os dach chi wedi darllen un o fy ngholofnau o’r blaen, bydd hynny ddim yn eich synnu!
Felly, dw i wedi bod yn meddwl am y llyfrau yn fy mywyd sydd wedi fy helpu i ddallt mwy am hanes merched. A hefyd y llyfrau dw i’n dal i ddarllen yn y gobaith o ddysgu mwy. Dros yr wythnosau diwethaf, dw i wedi ail-ddarganfod rhai o fy hoff leisiau hanesyddol fel Toni Morrison. Darllenais ei stori fer Recitatif am ddwy ferch a sut mae eu bywydau nhw’n plethu efo’i gilydd. Mae’n codi cymaint o gwestiynau am hil a rhywedd – ac mae’n werth ei darllen.
Lleisiau cyfoes
Wrth droi at leisiau mwy cyfoes, darllenais lyfr eithaf newydd o’r enw Women Talking gan Miriam Toews. Mae’r addasiad ffilm yn dod allan cyn bo hir a dw i methu aros i’w gweld, er fy mod i’n rhagweld llawer o ddagrau wrth wylio. Eto, mae’n llyfr sy’n codi sawl cwestiwn ac yn bwerus iawn. Mi fyswn i bendant yn argymell.
Fel anrheg pen-blwydd, ges i lyfr am yr artist Frida Kahlo – rhywun dw i wastad wedi ffeindio’n ddiddorol iawn. Mae’n llyfr llawn gwybodaeth a ffeithiau diddorol am ei bywyd, a lluniau hyfryd gan yr artist ei hun.
Beth am leisiau agosach at adra? Wel, dw i hefyd wedi ail-ddarganfod brenhines y byd llenyddol Cymraeg yn ddiweddar. Pwy arall na Kate Roberts! Arwres i lawer a ffefryn personol, heb os. Ac mae barddoniaeth Lynette Roberts wedi bod yn cadw cwmni i fi hefyd. Dw i wrth fy modd efo’i cherddi – yn enwedig y rhai sy’n sôn am Gymru.
Mae Cwlwm gan Ffion Enlli yn llyfr arall dw i heb stopio siarad amdano ers ei orffen. Mae’n llyfr ffuglen gyfoes sy’n dilyn bywyd Lydia, merch o Ben Llyn sy’n byw yn Llundain ac yn delio efo’r teimladau cymhleth sy’n dod wrth symud i wlad arall. Mae’r llyfr hefyd yn edrych ar faterion sy’n effeithio merched mewn ffordd hollol ddarllenadwy. Mi fyswn i’n hapus I’w ddarllen eto.
Ac i ddarllenwyr ifanc, mae’n rhaid i mi son am Dros y Môr a’r Mynyddoedd: Straeon Merched Dewr y Celtiaid a Genod Gwych a Merched Medrus gan Medi Jones-Jackson. Mi fyswn i wedi bod wrth fy modd efo llyfrau fel hyn pan oeddwn i’n ferch ifanc – ond dw i’n hapus iawn fy mod i dal yn gallu mwynhau eu darllen rŵan.
Felly, dyma ambell awgrym am lyfrau ar gyfer dathlu Mis Hanes Merched. Dw i’n gobeithio fy mod i wedi llwyddo i’ch ysbrydoli i fynd ati i ddarllen.