Wythnos nesaf, [sef dydd Llun 27 o Chwefror i ddydd Gwener 3 o Fawrth], mae Gŵyl Ddarllen Amdani yn cael ei chynnal. Mae’n amser cyffrous iawn i lyfrbryffel fi!

Mae’r Ŵyl yn cael ei chynnal bob blwyddyn ac yn cael ei threfnu gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Yn ogystal â dathlu darllen, a sut mae llyfrau Cymraeg yn gallu ein helpu i ddysgu a mwynhau defnyddio Cymraeg, mae’r Ŵyl hefyd yn canolbwyntio ar ddathlu cyfres o lyfrau ar gyfer siaradwyr newydd – Cyfres Amdani.

Os dach chi ddim yn gyfarwydd efo Cyfres Amdani eto, dw i wir yn argymell eu darllen. Erbyn hyn, mae yna dros 25 o lyfrau i siaradwyr newydd o lefel Mynediad at Uwch. Ac er mwyn dathlu Gŵyl Ddarllen Amdani eleni, dw i am drio darllen bob un dw i heb ddarllen eto.

Dechreuais ddarllen llyfrau o Gyfres Amdani tua 5 mlynedd yn ôl pan wnes i ddechrau darllen llyfrau yn y Gymraeg. Ar y pryd ro’n i wedi gorffen astudio llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Bangor. Ac, am y tro cyntaf ers pedair blynedd, roedd gen i  fwy o ryddid i ddewis beth ro’n i isio darllen.  Wrth astudio yn y brifysgol, roedd rhaid i mi ddarllen beth bynnag oedd ar y cwrs. Mwynheais y rhan fwyaf ond ro’n i hefyd yn edrych ymlaen at ddewis llyfrau fy hun.

Ro’n i’n awyddus iawn i ddechrau darllen nofelau yn y Gymraeg ond doeddwn i ddim yn siŵr lle i gychwyn. Ar y pryd, ro’n i’n teimlo’n hyderus yn siarad a defnyddio fy Nghymraeg ond doedd genna’i ddim llawer o hyder i ddarllen. Roedd y syniad o ddarllen llyfrau yn y Gymraeg yn heriol iawn.

Siaradais efo pobol yn fy nosbarth Cymraeg a dyma fi’n darganfod Cyfres Amdani am y tro cyntaf. Trwy’r Ffenestri – sydd wedi cael ei addasu gan Manon Steffan Ros – oedd yr un cyntaf i mi ddarllen.

Oherwydd y blwch geiriau sydd ar waelod bob tudalen, ro’n i’n gallu darllen tudalen ar ôl tudalen, a dilyn y stori’n iawn heb stopio i sbïo yn fy ngeiriadur. Roedd hynny’n helpu fi i deimlo’n well. Dw i dal yn cofio’r teimlad hyfryd ar ôl gorffen fy llyfr cyntaf yn y Gymraeg. O’n i mor falch o fy hun ac yn teimlo bo fi wedi cymryd cam bach yn agosach at fod yn rhugl.

Ar ôl hynny wnes i ddarllen Cofio Anghofio gan Elin Meek a Cawl gan amrywiaeth o awduron. Mi wnes i lyncu’r llyfrau ac ro’n i’n teimlo’n barod i symud ymlaen at nofelau eraill yn y Gymraeg. Felly dw i’n gwybod pa mor ddefnyddiol mae’r llyfrau, ac yn ddiolchgar iawn amdanyn nhw. Mae’n braf i weld mwy a mwy o deitlau yn cael eu hychwanegu.

Felly, nol at Ŵyl Ddarllen Amdani: mae yna sawl ffordd i gymryd rhan. Ewch i’ch llyfrgell neu siop lyfrau Cymraeg lleol i weld y teitlau yng Nghyfres Amdani neu unrhyw lyfr Cymraeg arall. Neu mi fedrwch chi gymryd rhan mewn digwyddiad arbennig sy’n cael ei threfnu gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Dw i’n meddwl bod darllen erthygl ar wefan Lingo360 neu gylchgrawn lingo newydd yn lle perffaith i gychwyn! A chofiwch fod wythnos nesaf yn nodi Diwrnod y Llyfr hefyd – felly, beth bynnag y byddwch yn darllen, mwynhewch!