Bob nos Lun, dw i’n dysgu dosbarth Cymraeg i Oedolion. Criw o bobol ifanc sy’n dod i’r gwersi bob tro efo egni gwych ac awch i ddysgu: maen nhw’n hyfryd ac yn fy ysbrydoli i wella, hefyd.
Ar ddechrau bob gwers, dw i’n chwarae caneuon gan fandiau ac artistiaid sy’n creu cerddoriaeth yn y Gymraeg. Dw i wedi trio fy ngorau i ddangos amrywiaeth o ganeuon o genres gwahanol iddyn nhw, rhywbeth at ddant pawb. A dw i wedi gwirioni wrth weld pawb yn ymateb mewn ffordd bositif iawn i’r gerddoriaeth. Mae un ohonyn nhw wedi creu ‘playlist’ neu restr arbennig efo’r traciau i gyd er mwyn i ni gyd fynd yn ôl ato ar ôl y wers.
Dw i’n trio dechrau bob gwers efo cân sydd wedi cael ei hysbrydoli gan brofiad personol. Mae cerddoriaeth wedi bod yn bwysig iawn i fi trwy gydol fy nhaith i ddysgu Cymraeg. Mae cerddoriaeth wedi gweithio fel goriad i’r iaith i mi, a dw i’n gobeithio y bydd hynny’n wir i bawb yn fy nosbarth hefyd. Ac, wrth wisgo fy het tiwtor, dw i hefyd yn gweld cerddoriaeth fel adnodd dysgu defnyddiol iawn i helpu meithrin sgiliau gwrando.
Dydd Miwsig Cymru
Mae achlysur arbennig yn digwydd wythnos yma yn y byd cerddoriaeth Cymraeg sef Dydd Miwsig Cymru. Un o fy hoff ddiwrnodau o’r flwyddyn – unrhyw esgus i wrando ar fy hoff fandiau ac artistiaid sy’n gwneud cerddoriaeth yn y Gymraeg! A dw i’n siŵr o ymweld â ‘playlist’ fy nosbarth Cymraeg i helpu efo’r dathliadau.
Felly wnes i fanteisioi ar y cyfle i gynnwys mwy o gerddoriaeth yn fy ngwers yr wythnos yma. Penderfynais greu cwis cerddoriaeth i helpu ymarfer patrwm newydd dan ni wedi bod yn dysgu dros yr wythnosau diwethaf, ac i gael bach o hwyl.
Gwych oedd gweld pawb yn ymuno yn yr hwyl ac yn sôn am ba ganeuon oedden nhw’n licio orau o’r cwis (Dafydd Iwan, Yma o Hyd, gyda llaw).
Roedd rhaid i mi gynnwys fy hoff artistiaid a bandiau, wrth gwrs. Wnaeth Datblygu Gruff Rhys a Gwenno wneud un neu ddau ymddangosiad, ac artistiaid fel Sage Todz, Gwilym ac Adwaith – ffefrynnau’r dosbarth hyd yn hyn.
Dod â phobol at ei gilydd yw un o’r prif bethau mae cerddoriaeth yn ei gwneud. Mewn gig neu gêm bêl-droed, er enghraifft, neu mewn dosbarth o siaradwyr newydd. Am ffordd hyfryd o wneud ffrindiau newydd trwy rannu cariad tuag at Yma o Hyd.
Does dim teimlad gwell na ddallt ystyr cân pan ti’n dysgu, hyd yn oed os ti ddim yn dallt bob gair – sydd yn digwydd lot amlach i mi hyd yn oed ar ôl bron i 11 mlynedd o ddysgu! Mae dilyn ystyr cân yn gallu magu hyder – rhywbeth da ni i gyd angen wrth ddysgu. Hefyd, mae’n ffordd wych o ddysgu geirfa newydd neu wrando ar dafodiaith wahanol.
Ond ar y llaw arall, dw i hefyd yn dallt sut mae’n gallu bod yn ormod weithiau i glywed cymaint o eiriau newydd neu anghyfarwydd mewn un tro. Dw i wedi cael sawl profiad o hynny, hyd heddiw. Ond cadwch y ffydd – mi ddaw’r ddealltwriaeth – y mwya’ chi’n gwrando, y mwya’ chi’n dysgu. Mae’n iawn i wrando a jest mwynhau’r miwsig. Ond, mae’n rhaid i mi ddweud, does dim byd yn curo’r teimlad o ganu dy hoff gân Cymraeg!