Dw i ddim yn cofio’r tro diwethaf i mi fynd i weld sioe mewn theatr – 2020 mae’n debyg. Wel, wythnos diwethaf, mi wnes i fynd i’r theatr lawr y lon o le dw i’n byw: Theatr Twm o’r Nant yn Ninbych. Dw i ddim yn gwybod llawer am hanes y theatr neu’r adeilad. Mae’n lle newydd i fi, ac mi ges i groeso cynnes gan bawb oedd yn gweithio yno. Noson fendigedig: does dim gwella na’r teimlad o fod mewn theatr, a’r cyffro o weld sioe.
Dw i wastad wedi bod efo diddordeb mewn theatr a dramâu. Fel plentyn, roeddwn i’n lwcus iawn i fynd i’r theatr leol bob wythnos. Roedd fy Mam yn gweithio yno, ac roedd fy chwaer a fi wrth ein boddau yn mynd i weld sioeau gwahanol.
Pan ddechreuais i ddysgu Cymraeg, roedd fy athrawes, Mrs Williams – neu Miss Nia fel dw i’n ei nabod hi – yn annog ni fel dosbarth i fynd i weld sioeau a dramâu Cymraeg. Roedd hynny’n gyfle i ni fagu hyder a defnyddio ein Cymraeg tu allan i’r dosbarth – rhywbeth sy’n gallu bod yn frawychus iawn i siaradwyr newydd. Ond, diolch byth, roedden ni wastad yn cwrdd â phobol gyfeillgar iawn: hapus bob tro i sgwrsio efo ni.
Aethon ni i theatrau lleol efo’n gilydd a wnaethon ni astudio dramâu fel Siwan gan Saunders Lewis. Dw i dal yn dychwelyd at fy nghopi o Siwan bob hyn a hyn; mae’n llawn sgribls a nodiadau blêr. Ond mae mor arbennig i mi oherwydd bod y ddrama yn cynrychioli dechrau fy nhaith i ddysgu’r iaith.
Roedd astudio Siwan, a dramâu, llenyddiaeth a barddoniaeth wedi rhoi dealltwriaeth ddyfnach o ddiwylliant Cymru a’i hanes yn gyffredinol. A dw i wir yn teimlo bod y profiad yma wedi fy siapio fel Cymraes (ac Eidales, wrth gwrs!) heddiw.
Felly, ‘fast forward’ 10 mlynedd a dyma fi a fy ffrind, yn mynd i weld sioe o’r enw Croendena gan Mared Llywelyn yn Theatr Twm o’r Nant. Dramedi yw Croendena am hogan ifanc sy’n trio ffeindio ei ffordd yn y byd. Sioe un person ond llawn cymeriad. Ro’n i’n chwerthin un funud a chrio’r funud nesaf!
Mae’r stori a’r sgript yn llawn gonestrwydd a gwirioneddau am dyfu i fyny, disgwyliadau a phwysigrwydd aros yn driw i chi’ch hun. Roedd pawb ar eu traed erbyn i’r sioe orffen, ac am reswm da iawn.
Mae’r prif gymeriad yn benderfynol iawn: fedrwch chi ddim peidio ei chefnogi hi. Roedd perfformiad Betsan Ceiriog yn dod â’r cymeriad yn fyw. Erbyn y diwedd, ro’n i’n teimlo fel fy mod i’n nabod y cymeriad fel person ‘go iawn’. Roeddwn i’n cael y teimlad bod pawb yn y gynulleidfa, isio gweld pethau’n troi allan yn dda iddi hi.
Mi fyswn i wedi gwirioni gweld sioe fel hyn 10 mlynedd yn ôl pan oeddwn i tua’r un oed a’r prif gymeriad! Ond dw i’n falch bod y sioe’n bodoli rŵan a bod llawer o bobol ifanc ac oedolion o bob oed am gael y cyfle i’w gweld.
Felly, roedd hi’n braf iawn i fod yn ôl mewn theatr. Ac i ymweld â theatr newydd i mi sydd jest lawr y lon. Diolch i angerdd fy athrawes – yr holl flynyddoedd yn ôl pan oeddwn i’n eistedd yn y dosbarth yn trio cael fy mhen rownd treigladau – dw i dal yn mwynhau mynd i weld sioeau Cymraeg. Ac os gewch chi’r cyfle – ewch i weld Croendena yn eich theatr leol, mae bendant yn werth ei gweld!