Ers dechrau fy swydd newydd, dw i wedi bod yn treulio mwy o amser yn y car yn teithio nôl ac ymlaen i Aberystwyth. Oherwydd hyn, mae gennai gyfle perffaith i wrando ar gerddoriaeth, podlediad neu raglen radio. Mae hyn wedi bod yn wych achos, fel arfer, does gennai ddim digon o amser i ddal i fyny efo fy hoff raglenni.

Wythnos yma, mi ges i’r cyfle i wrando ar raglen newydd Ffion Dafis ar Radio Cymru sy’n canolbwyntio ar y celfyddydau. Yn anffodus, doeddwn i ddim yn gallu gwrando ar y rhaglen yn fyw ar brynhawn Sul. Felly, mi wnes i fanteisio ar y cyfle i ddal i fyny ar fy ffordd nôl o Aberystwyth yr wythnos hon.

Dw i newydd orffen darllen llyfr gan y cyflwynydd ei hun, sef nofel o’r enw Mori. Dyma lyfr sydd wedi bod ar fy rhestr ddarllen ers iddo gael ei gyhoeddi – ac yn bendant ar ôl clywed mwy amdano ar ôl iddo ennill Llyfr y Flwyddyn y llynedd.

Mae’n rhaid i mi ddweud – doeddwn i ddim yn gallu ei rhoi i lawr! Yna, ar ôl picio i Siop Elfair yn Rhuthun i brynu copïau o’r cylchgronau Cara a Golwg i gadw cwmni i fi ar ôl gwaith dydd Llun, ffeindiais fy hun yn darllen geiriau Ffion eto. Y tro yma mewn erthyglau gwahanol yn sôn am ei rhaglen radio newydd a’i gyrfa yn gyffredinol. Felly cymerais hyn fel arwydd a gwrandewais ar y rhaglen.

Amdani, Fachynlleth!

Gŵyl lenyddol Amdani, Fachynlleth! y penwythnos diwethaf oedd yn cael sylw y tro hwn. Roedd y sesiynau a digwyddiadau i gyd yn swnio mor ddiddorol – ac roeddwn i’n digwydd bod yn gyrru trwy Fachynlleth ar y pryd. Yn anffodus, roeddwn i ddau ddiwrnod yn hwyr i’r parti! Croesi bysedd bydd yr ŵyl yn digwydd eto y flwyddyn nesaf.

Roedd y rhaglen yn wych, ac mor ddiddorol. Dw i’n gobeithio y bydd llawer o bobl sydd efo diddordeb yn y celfyddydau yn ei chefnogi a thiwnio mewn bob wythnos. Braf oedd gwrando ar amrywiaeth o bethau sy’n gysylltiedig â’r celfyddydau – o gelf i gerddoriaeth. Ond wrth gwrs, roedd gennai hoff segment…

Bydd hynny ddim yn synnu neb sydd wedi darllen un o fy ngholofnau o’r blaen, ond fy hoff ran o’r rhaglen oedd yr un yn canolbwyntio ar lyfrau. Be’ arall? Roedd Ffion yn siarad efo’r awdur Mike Parker am ei lyfr newydd All the Wide Border: Wales, England and the places between, sydd yn plethu themâu o berthyn wrth fyw ar y ffin rhwng dwy wlad. Mae’r pwnc yma yn swnio mor ddiddorol, yn enwedig i rywun fel fi sy’n dod o ogledd ddwyrain Cymru ac yn gyfarwydd iawn efo byw ar y ffin.

Ar ôl clywed nhw’n sgwrsio, mae gennai ambell lyfr i ychwanegu at fy rhestr ddarllen – sydd yn parhau i dyfu! Ac yn sicr, mae gennai deimlad bod y rhaglen am fod yn ffefryn newydd.