Dyma’r penawdau wythnos yma:

  • Miloedd o ffermwyr mewn cyfarfod i drafod dyfodol y diwydiant amaeth
  • Cwynion ar ôl i gyngor gau holl ysgolion un sir oherwydd rhybudd am eira
  • Cofio ‘Brenin’ y byd rygbi, Barry John
  • Dathlu Dydd Miwsig Cymru

Miloedd o ffermwyr mewn cyfarfod i drafod pryderon am y diwydiant amaeth

Roedd tua 3,000 o ffermwyr wedi mynd i gyfarfod yng Nghaerfyrddin nos Iau (Chwefror 8).

Maen nhw’n poeni am y newidiadau sy’n digwydd yn y diwydiant amaeth.

Wythnos diwethaf, roedd mwy na 1,000 o bobl wedi mynd i gyfarfod yn y Trallwng.

Mae’r ffermwyr yn poeni am y Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Mae’n golygu bod yn rhaid i  ffermwyr blannu coed ar 10% o’u tir er mwyn cael cymorth ariannol. Yn ôl adroddiad, gall hyn arwain at 10.8% yn llai o dda byw a cholli 5,500 o swyddi.

Mae NFU Cymru yn dweud y bydd y cynllun yn cael “effeithiau trychinebus ar fusnesau ffermio.”

Sam Kurtz ydy llefarydd materion gwledig y Ceidwadwyr Cymreig. Mae’n dweud ei bod yn “anochel” y bydd ffermwyr yn protestio. Mae’n dweud nad ydy Llywodraeth Cymru yn gwrando ar y ffermwyr.

“Rhaid i’r Llywodraeth Lafur wrando ar y diwydiant amaeth cyn ei bod hi’n rhy hwyr,” meddai’r Aelod o’r Senedd.

“Mae ffermwyr Cymru wedi gorfod delio efo llawer o newidiadau polisi mewn cyfnod byr. Nid yw eu rhwystredigaeth yn cael ei glywed gan y Llywodraeth Lafur ac maen nhw’n teimlo mai protestiadau yw’r unig opsiwn.

“Bydda’i yn sefyll ysgwydd yn ysgwydd gyda ffermwyr yn ystod unrhyw brotest.”

Lesley Griffiths ydy’r Gweinidog Materion Gwledig. Mae hi wedi gwahodd llywyddion dwy undeb amaeth i gyfarfod brys. Mae hi eisiau clywed beth yw pryderon ffermwyr a busnesau cefn gwlad.


Llun o fyrddau a chadeiriau lliwgar mewn dosbarth

Cwynion ar ôl i gyngor gau holl ysgolion un sir oherwydd rhybudd am eira

Mae rhieni wedi cwyno ar ôl i Gyngor Sir y Fflint gau pob ysgol yn y sir oherwydd rhybudd am eira, er bod dim eira yn yr ardal.

Roedd y Cyngor wedi penderfynu ddydd Mercher, (Chwefror 7) i gau holl ysgolion y sir oherwydd rhybudd oren gan y Swyddfa Dywydd. Roedd hyn yn cynnwys 88 o ysgolion cynradd ac uwchradd, ac ysgolion ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig.

Ond roedd llawer o rieni wedi beirniadu’r penderfyniad gan fod dim eira wedi disgyn dros nos.

Roedd y Swyddfa Dywydd wedi rhybuddio y gallai hyd at 10 modfedd o eira ddisgyn mewn rhai ardaloedd.

Roedd rhieni wedi cwyno am y gost o gymryd diwrnod i ffwrdd o’r gwaith neu chwilio am ofal plant ar fyr rybudd.

‘Costau i rieni’

Rob Roberts ydy’r Aelod Seneddol annibynnol dros etholaeth Delyn. Roedd o wedi beirniadu Cyngor Sir y Fflint ar Facebook.

“Diwrnod arall o addysg wedi’i golli i’r disgyblion sydd eisoes wedi colli cymaint yn y blynyddoedd diwethaf,” meddai.

Llwyth arall o gostau i rieni sy’n gorfod dod o hyd i ofal plant ar fyr rybudd neu gymryd diwrnodau i ffwrdd o’r gwaith i ofalu am eu plant.”

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi ymddiheuro am yr anghyfleustra.


Barry John yn dathlu 150 mlynedd o rygbi

Cofio ‘Brenin’ y byd rygbi, Barry John

Mae teyrngedau wedi cael eu rhoi i ‘Brenin’ y byd rygbi Barry John.

Roedd wedi marw nos Sul (Chwefror 4) yn 79 oed.

Mae’n gadael gwraig, pedwar o blant ac 11 o wyrion.

Enillodd 25 o gapiau dros Gymru, ac fe chwaraeodd e bum gwaith i’r Llewod.

Roedd e wedi ennill Pencampwriaeth y Pum Gwlad dair gwaith, y Gamp Lawn unwaith a’r Goron Driphlyg ddwywaith.

Cafodd ei “goroni” yn Frenin ar ôl i’r Llewod chwarae yn erbyn Seland Newydd yn 1971. Roedden nhw wedi curo’r Crysau Duon o 2-1.

Fe wnaeth e ymddeol yn 1972, yn 27 oed.

Teyrngedau

Dywedodd Undeb Rygbi Cymru fod “rygbi Cymru wedi colli un o’i sêr disgleiriaf erioed wrth i’r maswr chwedlonol Barry John farw yn 79 oed”.

Mae Gareth Charles yn sylwebydd rygbi.

Dywedodd: “Bydd Barry John yn cael ei gofio fel un o’r goreuon – os nad y gorau erioed.

“Wnaeth e oleuo’r byd rygbi a fe, efallai, oedd y superstar cyntaf yn y byd rygbi.”


Gwilym Bowen Rhys

Dathlu Dydd Miwsig Cymru

Mae pobl ar draws y wlad wedi bod yn dathlu Dydd Miwsig Cymru.

Roedd yn cael ei ddathlu ddoe (dydd Gwener, Chwefror 9) ond mae llawer o gigs yn cael eu cynnal dros y penwythnos hefyd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi cyfres o gigs mewn tafarnau cymunedol ar Ddydd Miwsig Cymru.

Jeremy Miles ydy Gweinidog y Gymraeg ac Addysg. Mae’n dweud bod cerddoriaeth yn ffordd wych o ddod â phobl at ei gilydd a mwynhau yn Gymraeg.

“Mae tafarndai cymunedol yn fusnesau cymdeithasol sydd wedi eu gwreiddio yn ein cymunedau ni,” meddai.

“Maen nhw’n creu swyddi a chyfleoedd i bobl ddod at ei gilydd i gymdeithasu a defnyddio’r Gymraeg.

“Mae Dydd Miwsig Cymru yn ddathliad gwych o rym a phwysigrwydd iaith a cherddoriaeth.

“Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, ac mae digwyddiadau fel rhain yn ffordd wych i bobol gymryd rhan mewn gweithgareddau Cymraeg, i glywed yr iaith mewn lleoliad anffurfiol ac i hybu ei defnydd yn ein cymunedau.”

Dyma’r gigs sy’n cael eu cefnogi gan Lywodraeth Cymru heddiw (Dydd Sadwrn, Chwefror 10).

Morgan Elwy, Glan Llyn, Clawddnewydd, Sir Ddinbych

Gai Toms, Tafarn y Plu, Llanystumdwy, Gwynedd

Gwilym Bowen Rhys, Pengwerrn, Llan Ffestiniog, Gwynedd

Gethin a Glesni, Ty’n Llan, Llandwrog, Gwynedd

Dydd Sadwrn, Chwefror 17:

Ciwb ac Alis Glyn, Tafarn Yr Eagles, Llanuwchllyn, Gwynedd

Mi fedrwch chi ddarllen sut mae Dydd Miwsig Cymru wedi helpu dysgwraig a cholofnwyr Lingo360 yma.

Baner Dydd Miwsig Cymru