Mae cerddoriaeth yn gallu cael effaith ddofn a hirbarhaol arnon ni.

Dych chi’n cofio’r gân yna o’ch plentyndod? Yr un sy’n dal i chwarae yn eich pen ar ôl yr holl amser? Yr un sy’n dod ag atgofion a theimladau yn ôl ar ôl llawer o flynyddoedd neu hyd yn oed degawdau? Oes “rhestr chwarae” yn eich pen, sy’n dechrau chwarae o bryd i’w gilydd? Mae’n digwydd i fi yn aml.

Pam mae hyn yn digwydd? Mae ymchwilwyr wedi defnyddio technoleg MRI sy’n dangos bod cerddoriaeth yn gyfrwng cyfathrebu unigryw sy’n gallu osgoi’r meddwl ymwybodol. Mae cerddoriaeth yn effeithio ni mewn ffyrdd arbennig – weithiau heb i ni sylweddoli.

Ac mae cerddoriaeth hefyd yn gallu helpu chi i ddysgu Cymraeg! Ers i fi ddechrau dysgu Cymraeg yn 2022, mae cerddoriaeth wedi chwarae rhan bwysig. Ochr yn ochr â’r pethau arferol (cyrsiau, llyfrau, Radio Cymru, S4C, ac ati), mae cerddoriaeth yn llenwi bylchau eraill yn y broses dysgu. Mae caneuon yn defnyddio geiriau anffurfiol sy’n gallu eich helpu i ddeall pobl ar y radio, y teledu, ac yn gyffredinol.

Dafydd Owain yn y fideo Uwch Dros y Pysgod

Rhestr 10 Uchaf

Mae’n hawdd dod o hyd i fandiau, albymau, a chaneuon Cymraeg sy’n apelio atoch chi – mae llawer i ddewis ohonyn nhw! Dw i’n hoffi ystod eang o genres, felly dyma fy “Rhestr 10 Uchaf” o artistiaid ac albymau sy’n ddefnyddiol i mi ar gyfer gwella fy sgiliau gwrando:

  1. Dafydd Owain – Uwch Dros y Pysgod
  2. Al LewisSawl Ffordd Allan
  3. GildasSgwennu Stori
  4. Blodau PapurBlodau Papur
  5. SŵnamiSŵnami
  6. Big Leaves – Pwy Sy’n Galw
  7. LewysRhywbryd yn Rhywle
  8. Yws GwyneddAnrheoli
  9. GwilymSugno Gola
  10. Alun GaffeyLlyfrau Hanes

Gyda’r holl albymau yma, roedd llawer o eirfa newydd i mi – a gallwch chi byth cael gormod o eirfa! Hefyd, mae pob cyfansoddwr yn ysgrifennu’n wahanol, yn defnyddio ei eiriau tafodieithol ei hun i ffitio metr ac odl y gân. O, ac wrth gwrs, mae gwrando ar gerddoriaeth yn hwyl!

Baner Dydd Miwsig Cymru

‘Dathlu pob math o gerddoriaeth Gymraeg’

Dyma pam mae Dydd Miwsig Cymru yn gallu helpu ni.

Bydd Dydd Miwsig Cymru 2024 yn cael ei ddathlu heddiw (Dydd Gwener, 9 Chwefror). Mae’n dathlu pob math o gerddoriaeth Gymraeg: pop, roc, indi, pync, ffync, gwerin, electronica, hip-hop, ac unrhyw beth arall dan haul! Bydd llawer o sioeau arbennig ar y radio, ar y we, ac yn y clybiau dros Gymru a thu hwnt. Felly mae rhywbeth i bawb.

Roedd Dydd Miwsig Cymru wedi dechrau yn 2013, gan y cyflwynydd radio Huw Stephens. Bob blwyddyn ym mis Chwefror, mae digwyddiadau cerddorol arbennig yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd, Caernarfon, Abertawe, Llundain, a hyd yn oed mewn lleoedd tramor fel Bwdapest a Brooklyn. Ymunwch â’r hwyl a mwynhewch Ddydd Miwsig Cymru 2024!

Efallai byddwch chi’n darganfod cân newydd i’r rhestr chwarae yn eich pen!

Baner Dydd Miwsig Cymru