Dyma’r penawdau wythnos yma:

  • Bannau Brycheiniog am ddefnyddio’r enw Cymraeg yn unig
  • Deiseb yn galw am ddefnyddio enwau lleoedd Cymraeg yn unig
  • Gwrthod cynlluniau ar gyfer ysgol fawr Saesneg ym Mhontardawe
  • Yr Wyddfa – mynydd di-blastig cynta’r byd?

Bannau Brycheiniog am ddefnyddio’r enw Cymraeg yn unig

Dim ond yr enw Cymraeg ‘Bannau Brycheiniog’ fydd yn cael ei ddefnyddio gan y Parc Cenedlaethol o hyn ymlaen.

Yr enw am y parc yn Saesneg fydd ‘Bannau Brycheiniog National Park’. Mae’r parc yn dweud bod hwn yn ffordd o ddathlu diwylliant a threftadaeth yr ardal.

Roedd Eryri wedi gwneud yr un fath y llynedd.

Mae’n rhan o newidiadau i’r ffordd mae’r parc yn cael ei redeg.

Mae’r parc tua 520 milltir sgwâr. Mae wedi cael statws UNESCO, ac yn denu tua phedair miliwn o bobl bob blwyddyn.

Ond mae pryderon am fyd natur yr ardal. Mae gostyngiad mawr wedi bod mewn adar fferm a safon y dŵr dros y degawdau diwethaf.

Mae’r parc eisiau newid y patrwm yma erbyn 2030, a chyrraedd allyriadau sero net erbyn 2035.

Maen nhw’n bwriadu plannu miliwn o goed, adfer tir sydd wedi’i ddinistrio, cyflwyno cynlluniau ynni adnewyddadwy a gwella trafnidiaeth gyhoeddus yn yr ardal.

Ond mae rhai wedi anghytuno gyda defnyddio’r enw Cymraeg yn unig.

Roedd Ysgrifennydd Cymru David TC Davies wedi cwestiynu pam fod angen “newid” yr enw.

Roedd Sky News wedi bod yn gofyn i bobol leol a thwristiaid a ydyn nhw’n gallu ynganu’r “enw newydd”.

Roedd rhai yn cael trafferth ond, ar y cyfan, roedd y rhai gafodd eu holi’n cefnogi defnyddio’r enw Cymraeg.


Deiseb yn galw am ddefnyddio enwau lleoedd Cymraeg yn unig

Mae llawer o gefnogaeth wedi bod i ddeiseb sy’n galw am stopio defnyddio fersiynau Saesneg o enwau lleoedd Cymraeg.

Mae hyn yn dilyn penderfyniad Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i ddefnyddio’r enw Cymraeg yn unig.

Mihangel ap Rhisiart oedd wedi dechrau’r ddeiseb pum mis yn ôl. Mae’n dweud bod angen defnyddio’r enwau Cymraeg yn unig yn swyddogol er mwyn dangos “parch at Gymru fel ei chenedl ei hun sydd â’i hanes ei hun.”

Mae’r ddeiseb wedi casglu 1,000 o enwau erbyn hyn.

Byddai’r ddeiseb yn golygu y byddai’r enwau Cymraeg gwreiddiol ar gyfer lleoedd yng Nghymru yn cael eu defnyddio.

Mae Mihangel ap Rhisiart yn fyfyriwr ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae’n dweud bod ganddo nifer o resymau dros ddechrau’r ddeiseb.

“Dw i’n teimlo bod cael dau enw am un lle yn rhywbeth bach yn rhyfedd achos os rydan ni’n mynd dramor, un enw sydd yna fel arfer.

“Os rydan ni’n mynd i Berlin, Berlin rydan ni’n ddweud fel yr Almaenwyr.

“Wrth gwrs, dw i’n deall pam fod pobol wedi dadlau bod o fel ‘gwthio’r Gymraeg ar bobol’ ond dydw i ddim yn credu bod hynny’n wir.”

‘Stori tu ôl i’r enwau’

“Dw i ddim yn deall pam fod rhaid i ni gael dau enw.

“Mae’r enwau Cymraeg cymaint hŷn na’r enwau Saesneg ac mae stori tu ôl i’r enwau.

“Wrth drio cael gwared ar yr enwau Saesneg, mae’n siawns i drysori’r diwylliant Cymreig sydd yn yr enwau.

“Mae’r enwau Saesneg yn rhan o’r hanes o drio Seisnigeiddio’r wlad.

“Rydan ni’n byw mewn cyfnod o hanes Cymru ble mae hi’n bwysig ein bod ni’n trio dod yn ôl at ein diwylliant ni.”

‘Trist’

Ond mae ymateb rhai i’r newyddion am Fannau Brycheiniog wedi bod yn drist i’w weld, meddai.

“Mae o wedi bod yn drist gweld cymaint o gasineb sydd dal i fodoli o ran yr iaith.

“Mae ymatebion cryf wedi bod gan rai pobol yn erbyn yr iaith, ac i fod yn onest mae o wedi dod â deigryn i fy llygaid yn gweld cymaint o bobol yn teimlo’n gryf yn erbyn ein diwylliant ac ein hawl i ddefnyddio’r iaith frodorol.

“Mae o wedi bod yn bach o sioc gweld rhai o’r sylwadau.”


Llun o fyrddau a chadeiriau lliwgar mewn dosbarth

Gwrthod cynlluniau ar gyfer ysgol fawr Saesneg ym Mhontardawe

Mae cyngor wedi penderfynu gwrthod cynllun am un ysgol fawr Saesneg ym Mhontardawe.

Roedd Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn bwriadu cau tair ysgol yn ardal Pontardawe, ac agor un ysgol Saesneg ar safle Parc Ynysyderw.

Roedd adolygiad barnwrol wedi bod i’r cynllun. Roedd cwynion y byddai cau’r ysgolion cynradd yn tynnu plant o ysgol gyfrwng Cymraeg i’r ysgol newydd. Roedd yr Uchel Lys wedi dweud bod penderfyniad Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn “anghyfreithlon” am eu bod nhw heb asesu effaith yr ysgol Saesneg ar addysg Gymraeg.

Mae’n “newyddion arbennig iawn”, meddai Heini Gruffudd, cadeirydd Dyfodol i’r Iaith.

“Fe wnaeth Dyfodol i’r Iaith ddweud yn glir yn yr ymgynghoriad cyntaf y byddai cael ysgol enfawr Saesneg yng nghanol y cwm yn gwneud hi’n anodd iawn i’r Gymraeg barhau fel iaith gymunedol.

“Mae’r newyddion yma’n ardderchog felly, na fydd ysgol enfawr Saesneg fyddai’n denu plant o ysgolion Cymraeg, neu’n gwneud hi’n anodd i ysgolion Cymraeg gystadlu.”

“Dw i’n credu bydd rhyddhad mawr yn yr ardal ac mae hyn yn agor y drws i ddatblygiadau o fewn addysg yn y Gymraeg yn y cylch gobeithio.

“Mae Pontardawe wedi bod yn ardal naturiol Gymraeg ers y chwyldro diwydiannol, ac mae’r Gymraeg wedi ffynnu yn gymunedol ac yn llenyddol yno.

“Byddai’r datblygiad yma, pe bai wedi digwydd, wedi troi iaith yr ardal am byth.

“Ac ar hyn o bryd mae’n ddigon anodd cadw popeth Cymraeg yn hyfyw, ond byddai cael yr ysgol yma wedi bod yn gam enfawr yn ôl.”


Yr Wyddfa – mynydd di-blastig cynta’r byd?

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri’n mynd i drafod y posibilrwydd o wneud yr Wyddfa’n fynydd di-blastig cynta’r byd.

Bydd yr Awdurdod yn cynnal digwyddiad arbennig yng Ngwesty’r Royal Victoria yn Llanberis ar Ebrill 24. Bydd busnesau lleol yn rhan o’r trafodaethau.

Mae’n rhan o’r prosiect ‘Yr Wyddfa di-blastig’. Cafodd ei lansio gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri oherwydd pryder am effeithiau gwastraff plastig ar yr amgylchedd.

Mae’r prosiect eisiau codi ymwybyddiaeth o effeithiau llygredd plastig ar harddwch naturiol yn ardal yr Wyddfa.

Mae’r Awdurdod yn gobeithio dechrau ar y ‘Llwybr Di-blastig’ gyda busnesau yn ardal yr Wyddfa, a’r Cynllun Gwobrwyo Di-blastig.

Bydd yn edrych ar sut i drafod sbwriel gydag ymwelwyr, ffyrdd o ddefnyddio llai o blastig untro a sut i ailgylchu ac ailddefnyddio.