Mae Irram Irshad yn fferyllydd sy’n byw yng Nghaerdydd ac wedi dysgu Cymraeg. Yn ei cholofn y tro yma mae hi’n dweud beth sydd wedi arwain at brinder meddyginiaethau…
Does dim un wythnos yn mynd heibio yn y feddygfa pan dw i ddim yn gorfod rhoi meddyginiaethau amgen i glaf am fod eu rhai arferol ddim ar gael. Mae fy nghydweithwyr mewn fferyllfeydd cymunedol yn treulio gormod o amser yn ceisio dod o hyd i feddyginiaethau amgen, ac weithiau yn profi rhwystredigaeth cleifion o ganlyniad. Mae’r prinder hwn yn peri gofid i bawb. Ond dyw llawer o bobl ddim yn deall pam mae hyn yn digwydd.
Dechreuodd y prinder meddyginiaethau ar ôl 2016, yn dilyn refferendwm Brexit. Brexit a threthi‘r llywodraeth (oedd wedi cynyddu o 5.1% yn 2021 i 26.5% yn 2023) yw’r ddau reswm mwyaf dros y prinder. Mae gan y rhan fwyaf o gynhyrchwyr cyffuriau ffatrïoedd y tu allan i’r Deyrnas Unedig (DU). Gan nad yw’r DU bellach yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd (UE), mae gwledydd yr UE yn cael eu blaenoriaethu ar gyfer nwyddau ac adnoddau gan gynnwys meddyginiaethau.
Ar y dechrau roedd yn feddyginiaethau oedd ddim yn cael eu defnyddio’n aml neu rai lle’r oedd dewisiadau eraill ar gael yn hawdd. Ond yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae wedi effeithio meddyginiaethau mwy cyffredin. ‘Dyn ni wedi cael prinder meddyginiaethau ar gyfer epilepsi, clefyd y galon, diabetes ac ADHD yn ogystal â HRT, eli steroid ar gyfer ecsema a diferion llygaid.
‘Cymhleth’
Ym mis Tachwedd 2024, roedd The Pharmaceutical Journal wedi cyhoeddi data a gafodd gan y llywodraeth o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth. Roedd yn dangos bod cwmnïau cyffuriau wedi rhoi gwybod i’r llywodraeth am broblemau cyflenwi meddyginiaethau. Roedd yr hysbysiadau wedi cynyddu 67% rhwng 2021 a 2023, o 82 o hysbysiadau bob mis ar gyfartaledd yn 2021, i 137 y mis yn 2023. Yn ystod chwe mis cyntaf 2024, roedd hyn wedi cynyddu i 169 o hysbysiadau’r mis. Yr ymateb gan y Llywodraeth Geidwadol flaenorol oedd bod cadwyni cyflenwi yn “gymhleth”. Rhyfedd bod y systemau “cymhleth” hyn wedi gweithio’n iawn cyn Brexit.
I fod yn deg, mae prinder meddyginiaethau wedi bod yn digwydd ledled y byd. Ond mae’n ymddangos bod gwledydd eraill yn delio’n well gyda’r broblem na’r DU. Mae gwledydd eraill wedi dechrau cynyddu’r broses o gynhyrchu meddyginiaethau yn lleol. Maen nhw’n galw’r broses yma yn ‘Reshoring‘. Mae hyn yn golygu bod gan rai rheoleiddwyr a llywodraethau restrau o feddyginiaethau hanfodol y mae’n rhaid eu cynhyrchu yn y wlad honno. Mae gan Ffrainc restr o 50 o feddyginiaethau – nid oes gan y DU un.
Ym mis Rhagfyr 2023, roedd gan Asiantaeth Meddyginiaethau Ewrop restr o dros 200 o feddyginiaethau. Cafodd Cynghrair Meddyginiaethau Critigol ei sefydlu yn 2024 ac mae’n cynnwys sefydliadau gofal iechyd, rhanddeiliaid y diwydiant, y Comisiwn Ewropeaidd ac asiantaethau’r UE. Byddai ‘Reshoring‘ yn gwneud cadwyni cyflenwi yn fwy sefydlog, o gynhyrchu meddyginiaethau i ddosbarthu. Wrth gwrs, yn y tymor byr, byddai’r costau’n cynyddu ond byddai hyn yn lleihau dros amser wrth i fuddion gofal iechyd gael eu gweld.
Felly pam nad yw hyn yn cael ei wneud yn y DU? Wel, mae’n debyg, ers gadael yr UE, nid yw’r DU yn “ddigon mawr” i wneud ‘Reshoring‘ ar ei phen ei hun! Mae marchnad y DU yn 2.5-3% o’r farchnad fyd-eang. Yr eironi! Roedd y rhai ohonon ni sy’n gweithio o fewn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) yn gwybod beth fyddai’n digwydd. Ond roedd Prydain yn benderfynol o fwrw ymlaen gyda Brexit.
‘Problem eang’
Yn ddiweddar, fe wnes i gyfweld â Phrif Swyddog Gweithredol fy Mwrdd Iechyd am gyhoeddiad arall. Pan ofynnais beth oedd y Bwrdd Iechyd yn ei wneud am brinder meddyginiaethau, atebodd mai dim ond ar lefel y llywodraeth maen nhw’n gallu delio a hyn gan mai dyna le mae’r polisïau’n cael eu gwneud.
Mae’r Bwrdd Iechyd yn adrodd yn ôl yn rheolaidd i Lywodraeth Cymru am faterion ac mae cleifion yn ysgrifennu at Aelodau Seneddol a chynghorwyr. Wrth gwrs, pan fydd y gwleidyddion yn cysylltu â’r Bwrdd Iechyd, dydyn nhw ddim yn deall bod prinder meddyginiaethau o ganlyniad i’w penderfyniadau gwleidyddol!
Byddwn yn argymell yn gryf bod darllenwyr yn ysgrifennu at ASau a chynghorwyr i dynnu sylw at unrhyw broblemau maen nhw’n eu hwynebu wrth gael eu meddyginiaethau. Mae angen i ni wneud y rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn ymwybodol bod hyn yn broblem eang ac nid jest yn effeithio ar rai ardaloedd.