Mae mis Ebrill yn Fis Ymwybyddiaeth Straen. Yn ei cholofn y tro yma, mae Irram Irshad yn son am ei phrofiadau ei hun gydag iselder, ac yn dweud beth sy’n gallu helpu i leihau straen…  


Mae Mis Ymwybyddiaeth Straen wedi bod yn cael ei gynnal bob mis Ebrill ers 1992.  Mae straen a phroblemau iechyd meddwl wedi dod yn fwy amlwg ers pandemig Covid-19 a’r argyfwng costau byw. Eto i gyd, does dim digon o arian yn cael ei roi tuag at wasanaethau iechyd meddwl a does dim digon o staff.

Mae straen yn gallu arwain at broblemau iechyd eraill fel clefyd y galon, problemau gyda’r system dreulio, system imiwnedd wan a phroblemau cysgu.

Pan fydd symptomau’n effeithio ar eich bywyd bob dydd, mae’n syniad da cael cyngor meddygol. Gall symptomau straen fod yn gorfforol ac yn feddyliol a gallen nhw achosi newidiadau mewn ymddygiad.

Mae meddyginiaethau ar gael i helpu gyda straen a phryder, yn ogystal â therapïau siarad a Therapi Ymddygiad Gwybyddol.  Mae yna lawer o apiau ymwybyddiaeth ofalgar ar gael hefyd.

10 cam i leihau straen

  1. Byddwch yn egnïol – gall ymarfer corff leihau straen a helpu i glirio’r meddwl.
  2. Cymryd rheolaeth – mae hunan-rymuso yn helpu i leihau straen.
  3. Cysylltu â phobl – os oes gennych rwydwaith da o deulu, ffrindiau a chydweithwyr, siaradwch efo nhw. Peidiwch â chuddio’ch teimladau.
  4. Cymryd amser i chi – Dyn ni ddim bob amser yn cael gwneud y pethau ry’n ni’n mwynhau. Efallai bod hyn oherwydd oriau gwaith hir, a theulu ifanc ac ati. Does dim byd o’i le ar roi amser o’r neilltu i wneud y pethau dych chi eisiau gwneud.
  5. Heriwch eich hun – gosodwch nodau a heriau newydd yn eich gwaith ac yn eich bywyd personol. Bydd yn helpu i fagu hyder.
  6. Osgoi arferion afiach – peidiwch â chael eich temtio i yfed mwy o alcohol neu gaffein, neu ysmygu mwy, na chymryd cyffuriau. Dim ond rhyddhad dros dro ydyn nhw. Yn y tymor hir byddan nhw’n creu problemau newydd.
  7. Helpu pobl eraill – mae gwirfoddoli neu waith cymunedol yn gallu gwneud i bobl deimlo’n well. Os nad oes amser gennych, gwnewch ffafr fach i rywun bob dydd, e.e. gwneud paned o de i gydweithiwr, helpu rhywun i groesi’r ffordd.
  8. Gweithiwch yn ddoethach, nid yn galetach – gwnewch y tasgau pwysicaf yn gyntaf, gadewch y tasgau lleiaf pwysig tan yn ddiweddarach. Does dim rhaid gwneud popeth ar yr un pryd.
  9. Ceisiwch fod yn bositif – Ar ddiwedd pob dydd ysgrifennwch 3 pheth rydych chi’n ddiolchgar amdanyn nhw, neu bethau a aeth yn dda’r diwrnod hwnnw.
  10. Derbyn y pethau na allwch eu newid – ni allwch chi newid pobl eraill, ond chi sy’n gyfrifol am sut dych chi’n ymateb a’r hyn dych chi’n ei wneud. Dyma enghraifft arall o gymryd rheolaeth.

Pethau sydd wedi helpu fi

Os dych chi’n gofyn: “Tybed a yw’r camau yma yn helpu?” gadewch i fi ddweud fy stori wrthych.

Yn ystod y pandemig ym mis Ebrill 2020, roedd yn rhaid i fi weithio gartref. Roedd fy asthma yn wael ar y pryd, felly roeddwn i mewn categori risg uchel ar gyfer Covid-19.  Doeddwn i ddim yn gallu gweld fy nheulu, roeddwn i ar fy mhen fy hun am bedwar mis.

Yn 2021, yn ystod y cyfnod clo, bu farw fy mam-gu annwyl. Roedd hi wedi fy magu ac roedd wedi gadael bwlch enfawr yn fy mywyd. Dau fis yn ddiweddarach cefais ddiagnosis o menopos cynnar ac roedd gen i sciatica poenus.  Yn fuan wedyn, oherwydd diffyg cefnogaeth gan fy rheolwr yn fy ngwaith ar y pryd, es i ffwrdd ar salwch hirdymor am sawl mis. Yn ystod y cyfnod hwnnw, roeddwn i’n ceisio delio gyda fy mhrofedigaeth.

Fe wnes i dalu’n breifat i gael triniaeth ar gyfer y sciatica, ac es i ffisio. Ges i aciwbigo a gwneud ymwybyddiaeth ofalgar er mwyn gallu mynd yn ôl i’r gwaith cyn gynted â phosib.  Roeddwn i angen y gwaith yn fy mywyd.

Wnes i fynd yn ôl i’r gwaith ddiwedd 2021. Roeddwn i’n gwneud yn dda ond wedyn, yn 2022, cefais fy rhoi mewn amgylchedd ymosodol gan fy nghyflogwr. Roedd hyn wedi sbarduno PTSD.  Ges i gwymp anhygoel!

Cwnsela

Yn hydref 2022, dechreuais weld cwnselydd anhygoel drwy wasanaeth staff y Gwasanaeth Iechyd (GIG). Parhaodd hyn tan 2023. Wnes i hefyd gofrestru ar gyfer cwrs ysgrifennu creadigol gyda’r nos ym Mhrifysgol Caerdydd.  Roedd y cwnsela wedi helpu’n fawr.  Erbyn hyn mae gen i fecanweithiau ymdopi gwych a dw i ddim yn dioddef o straen cymaint ag yr oeddwn i’n arfer ei wneud.  Roeddwn i’n benderfynol o gymryd rheolaeth – cam 2!  Mae gen i grŵp anhygoel o ffrindiau dw i’n gweld yn rheolaidd ar gyfer tripiau, swper a mynd i’r sinema ac ati – cysylltu â phobl, cam 3!

Dw i’n gwneud yn siŵr fy mod yn gwneud amser i fi unwaith yr wythnos – dw i un ai yn mynd allan ar fy mhen fy hun am ychydig oriau, neu’n gwylio ffilm gartref, darllen llyfr, ysgrifennu, crefftio, unrhyw beth.

Wnes i osod heriau a nodau i fy hun – beth oedd y pwynt o wneud cyrsiau ysgrifennu creadigol a pheidio ag ysgrifennu?!  Fy mhrif nod oedd cyhoeddi fy ngwaith ffuglen, ond yn y cyfamser, roedd gen i ddigon o hyder i fynd at olygydd Lingo360 i awgrymu ysgrifennu’r golofn iechyd hon. Mae gen i golofn hanes erbyn hyn.  Cafodd un o fy straeon arswyd hefyd eu cyhoeddi dros y Nadolig oedd yn wefreiddiol!  Dw i hefyd wedi cyhoeddi straeon plant yng nghylchgrawn Cip.

Dw i hefyd yn mynd i wneud gwaith sy’n gysylltiedig â fferylliaeth, gan gynnwys mynd i’r Eisteddfod ym Mhontypridd yr haf hwn – mae yna lawenydd yn bendant o ran helpu eraill.

Gweithiwch yn ddoethach, nid yn galetach – yn 2023, fe wnes i leihau fy wythnos waith o 5 diwrnod i 4 diwrnod, gan ei gwneud hi’n glir na fyddaf yn gwneud gwerth 5 diwrnod o waith mewn 4 diwrnod!

Dw i’n berson positif iawn, hyd yn oed os nad ydw i’n teimlo felly bob amser.  Dw i’n trio dod o hyd i lawenydd yn y pethau bach.  Dw i’n annhebygol o ennill y loteri, felly dw i’n ddiolchgar am yr hyn sydd gen i – fy nheulu, ffrindiau, gwell iechyd, swydd sy’n talu’r biliau a gyrfa newydd ym maes ysgrifennu.

O ystyried lle’r oeddwn i yn 2022, wnes i dderbyn yr hyn na allwn i ei newid a wnes i gymryd rheolaeth o’r hyn y gallwn i newid. Roedd hyn wedi arwain at flwyddyn anhygoel yn 2023.

Felly os dych chi’n teimlo dan straen trïwch y 10 cam er mwyn helpu eich hun. Dych chi ddim ar eich pen eich hun.