Mae Irram Irshad yn fferyllydd o Gaerdydd. Mae hi’n dysgu Cymraeg. Mae hi o dras Pacistan. Yma, mae Irram yn dweud pam ei fod mor bwysig i gydnabod cyfraniad cymunedau De Asia….
Cafodd Mis Treftadaeth De Asia ei sefydlu yn 2019. Mae’n cydnabod a dathlu’r cyfraniadau y mae’r cymunedau hyn wedi’u gwneud yn y Deyrnas Unedig.
Mae Mis Treftadaeth De Asia yn dechrau ar 18 Gorffennaf. Dyma’r dyddiad y cafodd Deddf Annibyniaeth India 1947 Gydsyniad Brenhinol. Mae’r mis yn dod i ben ar 17 Awst. Dyma’r dyddiad y cafodd Llinell Radcliffe ei gyhoeddi yn 1947 sy’n nodi’r ffiniau rhwng India a Pacistan. Mae’r dyddiadau’n dangos y dylanwad y mae Prydain wedi’i gael ar Dde Asia gyfan dros y canrifoedd diwethaf.
Mae wyth gwlad yn ffurfio De Asia: Afghanistan, Bangladesh, Bhutan, India, y Maldives, Nepal, Pacistan a Sri Lanka. Mae Prydain wedi effeithio’n fawr ar bob un o’r gwledydd hyn, yn bennaf trwy ryfel, gwladychiad ac, yn y pen draw, trwy’r Ymerodraeth Brydeinig.
Yn anffodus nid yw’n orfodol i blant gael eu haddysgu am rôl Prydain yn y fasnach gaethweision a gwladychiaeth. Mae’n debyg bod eu haddysgu am eu gwir hanes yn “nonsens woke” yn ôl rhai.
“Dibynnu’n fawr ar ein cydweithwyr rhyngwladol”
Bu milwyr De Asia, fel rhan o’r Gymanwlad, yn ymladd ochr yn ochr â milwyr Prydain yn ystod y ddau Ryfel Byd. Ar ôl y rhyfel, roedd Prydain wedi gofyn i bobl Dde Asia a chenhedlaeth Windrush i helpu i ailadeiladu’r wlad, gan gynnwys staffio’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) oedd newydd gael ei ffurfio.
Heddiw, ni fyddai’r GIG yn goroesi heb ei holl staff – yn wyn, Asiaidd, du, Prydeinig neu rai sydd ddim yn Brydeinwyr. Mae hyn yn arbennig o berthnasol yng Nghymru lle rydym yn dibynnu’n fawr ar ein cydweithwyr rhyngwladol.
“Byddwn yn parhau i godi ein lleisiau”
Ymfudodd fy neiniau a theidiau yma yn 1962. Roedd fy nhad-cu wedi gweithio bob dydd o’i fywyd nes iddo ymddeol, gan dalu ei drethi er mwyn sicrhau bod ei blant a’i wyrion yn cael addysg dda. Ymhlith y teulu Irshad, mae yna athro, trydanwr, peiriannydd mecanyddol, graddedigion busnes ac, wrth gwrs, fferyllydd! Dw i’n falch iawn o fy ngwerthoedd a diwylliant Asiaidd a Chymreig.
Mae pobl o dras De Asia yn rhan fawr o boblogaeth Prydain. Mae bron i un o bob 20 yn y wlad o dras De Asia. Yn anffodus mae yna rai pobl ym Mhrydain sydd ddim yn derbyn y sefyllfa yma.
Dw i’n 45 oed, wedi fy ngeni a’m magu yng Nghaerdydd, ac eto dw i wedi treulio fy oes gyfan yn byw gyda hiliaeth ac yn dal i wneud hynny. Mae hyn yn gyffredin iawn o fewn y GIG. Mae staff lleiafrifoedd ethnig yn llai tebygol o gael eu cefnogi o hyd mewn hyfforddiant a datblygiad; yn llai tebygol o gael eu dyrchafu i swyddi uwch; ac yn fwy tebygol o gael eu cyhuddo o gamymddwyn.
Dw i’n un o sylfaenwyr ac ysgrifennydd y Rhwydwaith Cydraddoldeb Hiliol o dan fy nghyflogwr, ond ychydig iawn o gefnogaeth ry’n ni wedi cael yn y pedair blynedd ers i ni ei sefydlu.
Er ein bod ni ddim yn cael ein clywed, rydym yn dal yma yn darparu gwasanaethau hanfodol ym maes iechyd, addysg, gofal cymdeithasol, busnes, ac ati, a byddwn yn parhau i godi ein lleisiau.
“Siomedig”
Pan wnes i ddechrau’r golofn hon, doeddwn i ddim wedi bwriadu iddi fod am hiliaeth. Roeddwn i eisiau ysgrifennu colofn yn dathlu pobl Asiaidd enwog o Gymru. Mae llawer o fewn busnes, addysg, iechyd, y cyfryngau, adloniant, chwaraeon a llenyddiaeth. Ond pan wnes i chwilio ar Google am y Cymry enwocaf ar hyd yr oesoedd yng Nghymru, allan o restr o 370 o bobl, dim ond pump ohonyn nhw oedd o gefndiroedd ethnig lleiafrifol.
Roeddwn i mor siomedig gyda hyn ac, yn y diwedd, wnes i ysgrifennu colofn hollol wahanol.
Bydd pobl Asiaidd yn parhau â’r frwydr yn erbyn hiliaeth, i gael ein cydnabod, yn ymladd dros gydraddoldeb, yn union fel y gwnaeth ein hynafiaid.
Edrychwch ar y wefan yma a darllenwch y straeon anhygoel sydd ar gael am bobl De Asia – a diolch am ddarllen y golofn hon.