Mae fy ffrind annwyl John Rees yn golofnydd i Lingo Newydd. Mae e’n arbenigwr ar bethau vintage. Mae e hefyd yn ymddangos yn rheolaidd ar y rhaglen gylchgrawn Prynhawn Da ar S4C.

Roedd e wedi dangos fy llyfrau dwyieithog i’r tîm a chefais wahoddiad i gymryd rhan yn y ‘Clwb Clecs’. Mae’n banel trafodaeth am faterion amserol. Er fy mod i wedi cymryd rhan ar y rhaglen o’r blaen roeddwn i wedi recordio ymlaen llaw y tro yna. Ond dw i erioed wedi gwneud teledu byw, felly ro’n i’n meddwl: “Beth am roi cynnig ar y profiad newydd hwn?”

Mae Prynhawn Da a’r rhaglen Heno yn cael eu ffilmio yn Llanelli yn adeilad Tinopolis Cymru. Tinopolis Cymru yw’r cwmni cynhyrchu rhaglenni teledu Cymraeg mwyaf yn y DU. Mae’n creu dros 400 awr bob blwyddyn, gan gynnwys chwaraeon a rhaglenni dogfen.

Irram yn cael colur gan Catrin cyn mynd ar y rhaglen

‘Awyrgylch hamddenol

Pan gyrhaeddais i’r stiwdios, roedd yn rhaid mynd yn syth i gael colur – doeddwn i ddim yn disgwyl hynny! Roedd Catrin, yr artist colur, wedi gwneud gwaith gwych o guddio arwyddion yr annwyd roeddwn yn gwella ohono.

Roedd yn awyrgylch hamddenol iawn. Roedd y cyflwynwyr hyfryd Siân Thomas ac Owain Gwynedd wedi dod i mewn i sgwrsio gyda’r gwesteion. Y panelwyr eraill oedd Helen a Rhys oedd wedi bod ar y rhaglen o’r blaen.

Yna cawson ni ein tywys drwodd i’r stiwdio lle gawson ni feicroffon. Os dach chi’n mynd ar y teledu, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gwisgo rhywbeth gyda phocedi ar gyfer y pecyn meic!

Cawson ni ymarfer cyflym lle bu’r criw yn gwirio‘r lluniau sgrin a’r sain, yna yn ôl i’r “ystafell werdd” i aros i ddechrau ffilmio. Mae’r “ystafell werdd” mewn gwirionedd yn lliw hufen ac oren!

Y Clwb Clecs

Ro’n i’n nerfus iawn gan nad oeddwn i erioed wedi gwneud teledu byw o’r blaen, ond roedd pawb mor hyfryd ac yn gwneud i fi deimlo’n gartrefol. Roedd Siân wedi fy nghroesawu i’r rhaglen am y tro cyntaf.

 

Irram (canol) gyda Siân Thomas ac Owain Gwynedd a’r gwesteion eraill

Aeth y Clwb Clecs yn gyflym iawn, tua 6-7 munud efallai. Wnaethon ni drafod hysbysebion Nadolig (roedd John Lewis wedi rhyddhau eu hysbyseb y diwrnod cynt), rygbi (roedd Cymru wedi colli ei degfed gêm yn olynol) a’r ffaith bod Colleen Rooney yn cael ei thalu llawer o arian i fynd ar y gyfres I’m a Celebrity… Get Me Out of Here! ond yn cael ei heithrio rhag gwneud rhai heriau am resymau iechyd.

Mae’r cyfan ychydig yn niwlog nawr, ond roedd yn brofiad swreal iawn, ac yn llawer o hwyl.  Dw i jyst yn chwerthin am bethau dw i’n meddwl sy’n boncyrs – wna’i byth anghofio fy niwrnod o fod yn ‘seren’!