Mae Irram Irshad yn fferyllydd sy’n byw yng Nghaerdydd ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Yma mae hi’n dweud pam mae Movember yn ddigwyddiad pwysig…
Yn draddodiadol ym mis Tachwedd, bydd dynion yn tyfu mwstas neu farf i godi ymwybyddiaeth ac arian ar gyfer yr elusen Movember. Mae’r digwyddiad yn canolbwyntio ar iechyd dynion, yn enwedig iechyd meddwl ac atal hunanladdiad, canser y brostad a chanser y ceilliau.
Mae Movember wedi ariannu dros 1,300 o brosiectau iechyd dynion ledled y byd.
Dw i wedi ysgrifennu o’r blaen am iechyd meddwl ac atal hunanladdiad, felly yn y golofn yma dw i’n yn canolbwyntio ar y canserau.
Mae tua 2,800 o ddynion yn cael gwybod bod ganddyn nhw ganser y brostad a chanser y ceilliau yng Nghymru bob blwyddyn.
Felly dyma neges bwysig i chi ddynion – mae’n ffaith bod dynion yn llai tebygol o fynd at eu meddyg teulu am wahanol resymau. Mae dynion iau heb gyflyrau cronig yn fwy tebygol o anwybyddu symptomau. Efallai eu bod nhw’n poeni am adael y gwaith ar gyfer apwyntiad neu’n teimlo embaras. Mae dynion yn tueddu i boeni mwy am archwiliadau personol. Dw i’n addo i’r dynion sy’n darllen y golofn yma, byddwch chi’n fwy pryderus os byddwch chi’n datblygu cyflwr sy’n anoddach i’w drin oherwydd i chi ei adael yn rhy hir, felly ewch i weld eich meddyg!
Canser y brostad
Mae’r brostad yn chwarren fach yn y pelfis, tua maint cneuen Ffrengig. Ei brif bwrpas yw cynhyrchu’r hylif sy’n gwneud semen. Dyn ni ddim yn gwybod beth sy’n achosi canser y brostad ond gall rhai pethau gynyddu’r risg, e.e. mynd yn hŷn (dros 50 oed), gordewdra a hanes teuluol er enghraifft os oedd gan eich tad neu frawd ganser y brostad.
Mae canser y brostad yn datblygu’n araf ac efallai na fydd symptomau am flynyddoedd. Nid yw’r symptomau fel arfer yn ymddangos nes bod y brostad yn ddigon mawr i effeithio ar y wrethra, y tiwb sy’n cario wrin o’r bledren allan o’r pidyn. Gallai hyn gynnwys:
- Angen cynyddol i fynd i’r tŷ bach
- Straenio pan fyddwch yn gwneud pi-pi
- Teimlad nad yw eich pledren wedi gwagio’n llwyr.
Mae llawer o ffyrdd o wneud diagnosis o ganser y brostad:
- Profion gwaed gan gynnwys PSA (Prostate Specific Antigen) sy’n helpu i ganfod y canser yn gynnar.
- Archwiliad corfforol o’r brostad
- Sgan MRI
- Biopsi
Mae cyfradd goroesi uchel os yw canser y brostad yn cael ei ddal yn gynnar. Mae gen i gleifion a gafodd eu trin 20-30 mlynedd yn ôl ac sy’n gwneud yn dda gyda gwiriadau bob chwe mis o’u lefelau PSA.
Efallai na fydd angen trin canser y brostad os yw’n cael ei ddal yn gynnar. Bydd y meddyg yn cadw golwg ar eich PSA a symptomau. Os oes angen triniaeth, mae hyn yn cynnwys tynnu’r brostad yn llawfeddygol, neu radiotherapi (naill ai ar ei ben ei hun neu gyda therapi hormonau).
Y neges bwysig yma yw, cyn gynted ag y byddwch yn cael y symptomau uchod, peidiwch â’u hanwybyddu, ewch i weld eich meddyg teulu!
Canser y ceilliau
Mae canser y ceilliau yn fwyaf cyffredin ymhlith dynion 15-49 oed. Mae’r ceilliau yn cynhyrchu sberm a thestosteron. Er bod y canser fel arfer yn effeithio ar un o’r ceilliau yn unig, gall effeithio ar y ddau.
Mae symptomau canser y ceilliau yn cynnwys:
- Lwmp neu chwyddo yn eich ceilliau
- Eich ceilliau yn mynd yn fwy
- Poen yn eich ceilliau neu’r croen sy’n gorchuddio’r ceilliau
- Mae eich sgrotwm yn teimlo’n drwm neu’n galed.
Mae symptomau eraill yn cynnwys:
- Poen neu boen yn eich cefn neu fol
- Colli pwysau
- Peswch
- Anhawster anadlu neu lyncu
- Y frest yn boenus neu wedi chwyddo.
Gwirio’n rheolaidd
Mae’n bwysig gwirio’ch ceilliau yn rheolaidd fel eich bod chi’n gwybod beth sy’n arferol i chi. Mae hyn yn ei gwneud hi’n haws i sylwi ar unrhyw newidiadau o ran maint, edrychiad neu deimlad. Ewch i weld meddyg teulu os oes gennych unrhyw un o’r symptomau uchod neu os byddwch yn sylwi ar unrhyw newidiadau sydd ddim yn normal i chi.
Bydd meddyg teulu yn archwilio’r ceilliau a’r chwarennau lymff ac yn gwneud rhai profion gwaed. Os cewch eich cyfeirio at arbenigwr, efallai y bydd yn rhaid i chi gael sgan uwchsain o’ch ceilliau. Mae’n cymryd ychydig wythnosau i’r canlyniadau ddod yn ôl. Bydd sganiau CT a sganiau MRI yn helpu i ddarganfod maint y canser ac os yw wedi lledaenu.
Y brif driniaeth ar gyfer canser y ceilliau yw cemotherapi. Mae cemotherapi yn cael ei roi ar ôl llawdriniaeth i helpu i atal y canser rhag dod yn ôl, neu os yw wedi dod yn ôl a lledaenu i rannau eraill o’r corff. Mae radiotherapi yn cael ei ddefnyddio hefyd ar gyfer rhai mathau o ganser y ceilliau.
Unwaith eto, y neges bwysig yw, os oes gennych unrhyw un o’r symptomau, peidiwch â’u hanwybyddu, ewch i weld eich meddyg teulu!