Mae hi’n 60 mlynedd ers i Gaerdydd a Nantes yn Ffrainc gael eu gefeillio’n ffurfiol. Yma mae Maggie Smales, Cadeirydd Cymdeithas Cyfnewidfa Caerdydd-Nantes yn dweud mwy am y cysylltiad agos rhwng y ddwy ddinas…
Wrth yrru neu gerdded i lawr Boulevard de Nantes yng Nghaerdydd mae’n debyg mai ychydig ohonon ni sy’n cwestiynu pam fod enw Ffrangeg ar un o brif rodfeydd y brifddinas.
Cafodd y ddwy ddinas, Caerdydd a Nantes, eu gefeillio’n ffurfiol ar 24 Chwefror 1964, ond mae’r cysylltiadau rhwng de Cymru a Ffrainc yn llawer hŷn.
‘Dyn ni’n gwybod bod Teilo, un o dri nawddsant Eglwys Gadeiriol Llandaf, wedi ffoi rhag y pla i Dol yn Llydaw yng nghanol y 6ed ganrif. Arhosodd yno sawl blwyddyn a hyd yn oed, yn ôl y chwedl, wedi dofi draig môr a’i harneisio i graig gyfagos. Addas iawn ar gyfer sant Cymreig.
Y Ffrancod Normanaidd
Ychydig ganrifoedd ymlaen ac ymgartrefodd y Ffrancod Normanaidd yn Sir Benfro a Bro Morgannwg, gan adael enwau lleoedd fel Bonvilston, cartref y bonheddwr o’r 12fed ganrif Simon de Bonville (yn Gymraeg, Tresimwn, neu dref Simon, gan nad oedd y Cymry eto wedi mabwysiadu cyfenwau).
Daeth goresgynwyr unwaith eto i Sir Benfro o Ffrainc yn 1797, glaniad olaf gan fyddin gelyn ar dir mawr Prydain. Cawson nhw eu trechu yn Abergwaun, gyda Jemima Nicholas yn cipio 12 milwr Ffrengig meddw ar ei phen ei hun.
Weithiau roedd y Cymry yn mynd i’r cyfeiriad arall. Roedd Owain Lawgoch (Yvain de Galles) wedi ymladd un o ddisgynyddion Llywelyn Fawr, ar ochr brenin Ffrainc Siarl V yn y Rhyfel Can Mlynedd. Cafodd ei lofruddio ym Mortagne yn y Gironde yn 1378 ar orchymyn llys Lloegr.
Y fasnach lo
Mae cysylltiadau rhwng Caerdydd a Nantes oherwydd eu gwreiddiau yn y fasnach lo. Efallai bod hyn wedi dechrau mor gynnar â’r 16eg ganrif. Ond roedd Siambr Fasnach Nantes wedi cofnodi trafodion mewn glo gyda Chaerdydd am y tro cyntaf ym 1729. Ar y pryd, roedd Nantes yn fetropolis ffyniannus, a Chaerdydd ddim yn llawer mwy na phentref.
Newidiodd pethau ar ôl cwblhau Camlas Sir Forgannwg a datblygu dociau Caerdydd. Ac wrth i’r fasnach lo gychwyn, roedd y cargo yn dychwelyd o Nantes yn cynnwys pren i wneud propiau ar gyfer pyllau glo Cymru.
Parhaodd cysylltiadau anffurfiol rhwng y ddwy ddinas dros nifer o flynyddoedd ac roedd rhai ohonyn nhw yn ymwneud â rygbi. Cafodd y syniad o ‘gefeillio tref’ ei ddatblygu yn dilyn yr Ail Ryfel Byd. Roedd yn ffordd o geisio rhoi diwedd ar ddwy genhedlaeth o wrthdaro yn Ewrop trwy adeiladu cysylltiadau ar lefel bersonol a chymunedol. Dechreuodd y cyfnewidiadau ffurfiol cyntaf â Nantes i ysgolion ym 1954. Mae’n anodd heddiw dychmygu’r effaith a gafodd y cyfnewidiadau yma ar y merched a’r bechgyn oedd wedi cymryd rhan. Ychydig oedd wedi teithio ymhellach nag Ynys y Barri ar y pryd.
Dilynwyd gyda chyfnewidiadau oedolion ym 1981. Maen nhw’n cael eu trefnu gan Gymdeithas Cyfnewid Caerdydd Nantes. Ar ôl seibiant o dair blynedd oherwydd y pandemig, maen nhw mor boblogaidd ag erioed. Mae hefyd nifer o gysylltiadau ffurfiol ac anffurfiol eraill, gan gynnwys rhwng Cȏr y Gleision a Chôr Schola Cantorum de Nantes, a Chlwb Tenis Lawnt Caerdydd a Chlwb Tenis Don Bosco yn Nantes.
Ar 24 Ebrill eleni, mae Cymdeithas Cyfnewid Caerdydd Nantes yn ymuno â Chyngor Caerdydd i gynnal cinio i westeion o Nantes. Fe fyddan nhw’n dathlu 60 mlynedd ers cytundeb gefeillio Caerdydd-Nantes a’r ffaith bod y cysylltiadau rhwng y ddwy ddinas yn dal yn gryf.