Fel fferyllydd, dw i’n aml yn cynghori pobl am sut i fyw’n iach gan gynnwys yfed yn synhwyrol. Ond i rai pobl mae’r cyngor yma yn mynd allan trwy’r ffenest ym mis Rhagfyr.  Wel, mae’n dymor y Nadolig ac i’r rhan fwyaf ohonon ni, erbyn i ni gyrraedd diwedd y flwyddyn, dyn ni’n barod i ymlacio a chael hwyl.  Er ei bod yn bwysig cael hwyl, dylen ni drio aros mor iach ag y gallwn ni.

Mae’n bwysig trio peidio yfed mwy na 2 uned o alcohol y dydd – mae hyn yn cyfateb i beint o gwrw neu ddau wydraid o win. Ond dyn ni i gyd yn gwybod bod llawer mwy na hynny yn cael ei yfed yn ystod y parti Nadolig gwaith! Yna’r diwrnod wedyn, mae’r pen mawr ofnadwy yn dod.  Er mwyn osgoi hyn, trïwch yfed sudd, diod feddal neu ddŵr rhwng pob diod alcoholig.

Sbeicio diodydd

Hefyd, mae’n rhaid i fi atgoffa pawb i brynu diodydd eu hunain i sicrhau nad ydyn nhw’n cael eu sbeicio.  Yn 2023, roedd arolwg o 969 o bobl yn dangos bod 44% o ddynion a 56% o fenywod ddim yn gwybod eu bod wedi bwyta bwyd neu ddiodydd wedi’u sbeicio. Mae hynny’n ystadegyn brawychus.

Felly mae pawb wedi cael noson wych, ac yna’r bore wedyn maen nhw’n talu’r pris.  Mae yna lawer o bethau wedi cael eu hawgrymu ar gyfer pen mawr – ac mae rhai ohonyn nhw yn eithaf peryglus! Yn gyntaf, myth ydy cario mlaen i yfed alcohol y diwrnod wedyn – hair of the dog! Peidiwch ag yfed mwy o alcohol – dylech chi osgoi yfed am y 48 awr nesaf.  Mae alcohol yn dadhydradu’r corff. Mae coffi du cryf hefyd yn dadhydradu’r corff felly gwell osgoi hynny hefyd!

 Yfed dŵr – a mwy o ddŵr!

 Does dim llawer fedrwch chi wneud i wella pen mawr ond mae gwefan y GIG yn argymell yr awgrymiadau yma i deimlo rhywfaint yn well:

  • Yfwch beint o ddŵr cyn mynd i’r gwely ac yfed dŵr yn ystod y nos os dych chi’n deffro.
  • Bwyta bwydydd llawn siwgr i roi hwb i’ch lefelau egni (os oes gynnoch chi ddiabetes gwiriwch eich lefelau siwgr yn gyntaf!). Mae gwefan y GIG yn argymell cawl Bouillon fel ffordd dda o gael fitaminau a mwynau.
  • Cymerwch antasidau i setlo eich stumog (Rennie’s, Gaviscon, ac ati).
  • Cymerwch dabledi lladd-poen ar gyfer cur pen os oes angen.

Na’i fod yn hollol onest, dw i ddim yn yfed alcohol, ond os ydy hangofyr yn debyg i’r ffordd dwi’n teimlo ar ôl bwyta gormod o siocled, yna dw i’n teimlo eich poen!

Gan ddymuno Nadolig hapus, hwyliog a diogel i holl ddarllenwyr Lingo360!