Mae colofnydd Lingo360, Irram Irshad, yn fferyllydd ac hefyd yn gwirfoddoli ym Mharc Margam ger Port Talbot. Yma mae hi’n son am ddigwyddiad i ddathlu Nos Galan Gaeaf…
Roedd plant wedi cael llawer o hwyl yn ystod diwrnod o weithgareddau ym Mharc Margam ger Port Talbot ar Nos Galan Gaeaf (31 Hydref).
Roedd cyfle i liwio, gwneud masgiau, rocedi, magnetau, a chardiau.
Mae Irram Irshad yn gwirfoddoli ym Mharc Margam. Roedd hi wedi bod yno ddoe i helpu gyda’r gweithgareddau.
Mae hi’n dweud: “Cafodd pawb hwyl gan gynnwys y gwirfoddolwyr! Mae gweithgareddau crefft gyda ni eto ym mis Rhagfyr ar ddyddiau Sadwrn i gyd-fynd â bwydo’r ceirw.”
Mae’r gweithgareddau yn rhad ac am ddim.
Mae rhagor o fanylion yma.