Blwyddyn Newydd Dda i bawb sy’n cael ‘Hwyl gyda Geiriau’. Dyma’r dasg gyntaf ar gyfer y flwyddyn 2024.
Pegi Talfryn sydd wedi gosod y tasgau yma ar gyfer y Flwyddyn Newydd. Mae hi’n awdur ac yn diwtor Cymraeg i oedolion.
Mwynhewch!
Addunedau Addawol
Gwnewch adduned/addunedau – ond gydag amod. Mae’n bosib gwneud hyn ar bob lefel:
Mynediad: Dw i’n mynd i gerdded bob dydd, os ydy hi’n braf!
Sylfaen: Mi wna i gerdded bob dydd, os bydd hi’n braf!
Canolradd: Mi gerdda’ i bob dydd, os bydd hi’n braf!
Uwchradd: Mi wna i ystyried cerdded, os cawn dywydd braf!
Dych chi’n gallu ysgrifennu rhywbeth i ni? Mae Lingo360 eisiau gweld eich gwaith chi.
Mi fedrwch chi rannu eich gwaith yn y sylwadau, neu drwy’r ffurflen gysylltu.