Anna Ng o Gaerdydd sydd wedi ennill Medal Bobi Jones yn Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych eleni.
Roedd hi wedi cael ei medal mewn seremoni heddiw (dydd Mawrth, 31 Mai). Mae Medal Bobi Jones yn cael ei roi i ddysgwyr ifanc (Bl.10 – 19 oed).
Mae Anna Ng, yn 18 oed ac yn mynd i Ysgol Uwchradd Caerdydd. Mae hi’n astudio Cemeg, Cymraeg (Ail Iaith) a Saesneg ar gyfer ei Lefelau A. Mae hi eisiau gwneud cwrs Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Caergrawnt. Mae ei thad yn dod o Tsieina a’i mam yn wreiddiol o Norwy ac yna’r Alban. Mae mam Anna hefyd wedi dysgu’r Gymraeg. Mae ei mam yn ddall ac wedi dysgu’r Gymraeg gyda Braille.
Yma mae Anna Ng yn siarad gyda Lingo360…
Pryd oeddet ti a dy fam wedi dysgu Cymraeg?
Roedd Mam a fi wedi dysgu’r un pryd. Roedd hi wedi dechrau dysgu pan o’n i wedi cael fy ngeni ond roedden ni wedi dysgu gyda’n gilydd ar yr un lefel ar yr un pryd.
Pam oeddet ti wedi penderfynu dysgu Cymraeg?
Dw i wedi caru gwneud TGAU Cymraeg, dw i’n caru’r pwnc. Dw i hefyd yn caru’r diwylliant achos mae’n ddiddorol i fi gyda’r ddraig, a’r chwedlau hefyd. Ro’n i eisiau dysgu mwy am y chwedlaua’r iaith. Dw i wedi caru’r iaith ers yn ifanc.
Wyt ti’n siarad iaith arall?
Dros y cyfnod clo ro’n i’n dysgu ychydig o Norwyeg. Dyna ydy iaith gyntaf fy mam a fy mam-gu.
Oedd dysgu Cymraeg yn anodd?
Roedd yn eitha’ hawdd mewn cymhariaeth ag Almaeneg, er enghraifft. Ond pan wnes i ddechrau gwneud Lefel A ro’n i’n ffeindio fe’n eitha’ anodd. Wnes i ymchwilio i’r gramadeg a darllen lot o nofelau yn Gymraeg ac mae hynny wedi helpu fi lot.
Roedd dwy ffrind o Ferthyr Tudful wedi dod yn ail a thrydydd yng nghystadleuaeth Medal Bobi Jones. Roedd Millie-Rae Hughes wedi dod yn ail, a Deryn-Bach Allen-Dyer yn drydydd. Mae Millie-Rae Hughes yn ddisgybl yn Ysgol Pen y Dre ym Merthyr Tudful ac mae Deryn-Bach Allen-Dyer yn gyn-ddisgybl yn yr ysgol. Mae hi nawr yng Ngholeg Merthyr. Yma maen nhw’n siarad gyda Lingo360.
Pam wnaethoch chi ddysgu Cymraeg?
Deryn-Bach Allen-Dyer: Roeddwn i’n dysgu Cymraeg yn yr ysgol gynradd ond wnes i symud o Gymru i Fanceinion. Doedd neb yn siarad Cymraeg ac roedd e ychydig bach yn anodd i fi. Roedd e’n rhan ohona’i ers yn ifanc ac roedd e wastad yn atgoffa fi o bwy ydw i. Wnaethon ni symud yn ôl i Gymru pan o’n i ym Mlwyddyn 7.
Millie-Rae Hughes: Dwi wedi dysgu Cymraeg ers yr ysgol gynradd ond roedd Mr Mark Morgan, yr athro Cymraeg yn Ysgol Pen y Dre wedi dysgu fi i fod yn rhugl. Mae e’n athro anhygoel. Roedd e wedi annog ni i drio am Fedal Bobi Jones.
Dych chi eisiau defnyddio eich Cymraeg yn y dyfodol?
Deryn-Bach Allen-Dyer: Dw i eisiau bod yn actores ac eisiau mynd i’r Coleg Cerdd a Drama yng Nghaerdydd a bod mewn dramâu Cymraeg.
Millie-Rae Hughes: Dw i eisiau astudio i fod yn feddyg ym Mhrifysgol Abertawe, a dod yn rhugl yn y Gymraeg.
Sut brofiad oedd dod yn ail a thrydydd yn y gystadleuaeth?
Deryn-Bach Allen-Dyer: Mae pob un sydd wedi cystadlu wedi bod yn anhygoel a bendigedig – mae pob un wedi trio’n galed iawn ac wedi dangos eu bod nhw eisiau dod yn siaradwyr Cymraeg rhugl.
Beirniaid y gystadleuaeth oedd Siân Vaughan a Stephen Mason.
Mae seremoni a Medal Bobi Jones yn cael eu noddi gan Brifysgol Caerdydd.