Mae hi’n Wythnos Gofalwyr rhwng 10 a 16 Mehefin. Mae’r ymgyrch yn cael ei gynnal bob blwyddyn i drio codi ymwybyddiaeth am yr heriau sy’n wynebu gofalwyr di-dâl a chydnabod y cyfraniadau y mae gofalwyr yn eu gwneud i deuluoedd a chymunedau.

‘Dyn ni i gyd yn byw’n hirach. Ond mae hyn yn golygu ein bod yn gweld mwy o achosion o gyflyrau cronig sy’n effeithio ar y galon a’r ysgyfaint, cymhlethdodau diabetes, canserau a dementia. Mae gan y rhan fwyaf ohonom berthnasau oedrannus ac, yn y dyfodol, byddwn yn oedrannus ein hunain.

‘Dyn ni’n gwybod bod dim digon o staff yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) a’r gwasanaethau gofal. Maen nhw’n cael eu hymestyn i’r eithaf, felly mae llawer ohonon ni’n camu i’r adwy fel gofalwyr di-dâl ar gyfer teuluoedd, ffrindiau a chymdogion. Mae gofalwyr di-dâl yn cael gwared ar faich enfawr ar gymdeithas. Ond maen nhw’n talu’r pris eu hunain – yn ariannol, yn gorfforol, yn feddyliol, yn emosiynol ac yn gymdeithasol.

Roedd Cyfrifiad 2021 yn amcangyfrif fod nifer y gofalwyr di-dâl ar draws y Deyrnas Unedig yn 5.7miliwn (y rhan fwyaf o’r rhain yng Nghymru a Lloegr).  Mae hynny’n golygu bod 9% o bobl yn rhoi gofal di-dâl. Mae’r mudiad Carers UK wedi amcangyfrif y gallai nifer y gofalwyr di-dâl fod wedi cyrraedd 10.6 miliwn yn 2022.

Jyglo gwaith a gofal

Mae 4.7% o’r boblogaeth yn rhoi 20 awr neu fwy o ofal yr wythnos.  Mae 59% o ofalwyr di-dâl yn fenywod, a byddai llawer ohonynt fel arfer mewn gwaith cyflogedig.  Mae 600 o bobl y dydd yn gadael eu gwaith i ofalu am rywun arall. Mae un o bob saith person yn y gweithle yn jyglo gwaith a gofal. Yn ystod y degawd diwethaf, roedd y rhan fwyaf o ofalwyr di-dâl rhwng 46-65 oed.

Mae 25% o ofalwyr yn torri’n ôl ar hanfodion fel bwyd. Mae 44% o oedolion o oedran gweithio, sy’n gofalu am 35 awr neu fwy yr wythnos, yn byw mewn tlodi.

Gall gofalu achosi problemau iechyd a lles hir dymor. Mae 60% o ofalwyr yn dweud bod ganddyn nhw gyflwr neu anabledd hir dymor, mae tua 30% yn dweud eu bod yn unig.

Soniais yn gynharach fod gofalwyr di-dâl yn cael gwared ar faich enfawr ar gymdeithas – mae gofalwyr di-dâl yn cyfrannu swm anhygoel o £162 biliwn y flwyddyn i’r economi.

Pa gymorth sydd ar gael?

Nod Wythnos Gofalwyr a sefydliadau fel Carers UK yw rhoi gwybod pa gymorth sydd ar gael i ofalwyr.

Dylai pob gofalwr wirio a oes ganddynt hawl i fudd-dal Lwfans Gofalwr. Ar hyn o bryd mae Lwfans Gofalwr yn £81.90 yr wythnos.

Gall gofalwyr gael help gyda chostau ynni. Mae dyletswydd ar gyflenwyr ynni i weithio gyda chwsmeriaid sy’n ei chael hi’n anodd talu eu biliau.

Efallai y bydd gan ofalwyr hawl i ostyngiadau’r Dreth Gyngor ac os nad ydynt yn byw gyda’r person y maent yn gofalu amdano, gall y person hwnnw hefyd fod yn gymwys i gael gostyngiadau. Cysylltwch â’ch cyngor am fwy o wybodaeth.

Mae gan Carers UK wasanaethau ar-lein ar gyfer lles cyffredinol. Maen nhw’n gwneud sesiynau lle dych chi’n gwneud paned o de i chi’ch hun ac yn ymuno â nhw ar gyfer sgwrs Zoom ar-lein. Os ymunwch â Carers UK fel aelod (mae aelodaeth am ddim), gallwch ddefnyddio eu fforwm ar-lein Carers Connect 24/7.  Mae gwasanaethau ar-lein ar gael ar gyfer ioga, ymarferion ysgafn, Tai Chi a dawnsio.

Os dych chi’n ofalwr eich hun neu’n adnabod rhywun sydd yn, edrychwch ar fudd-daliadau ariannol a lles. Mae iechyd a lles gofalwyr yr un mor bwysig ag iechyd a lles y person y maent yn gofalu amdano.  Dylai neb gael eu gadael ar ôl.

www.carersuk.org