Oeddech chi wedi mwynhau’r eitem Fy Hoff Raglen ar S4C ar wefan Golwg360? Roedd yr eitemau wedi cael eu sgwennu gan ddysgwyr Cymraeg. Roedden nhw’n dweud pa raglenni oedden nhw’n hoffi ar S4C a pham roedd wedi eu helpu i ddysgu Cymraeg.
Ar ôl llwyddiant Fy Hoff Raglen ar S4C, mae Lingo360 eisiau gwybod beth ydy’ch hoff le chi yng Nghymru.
Efallai dach chi’n hoffi dringo mynyddoedd, cerdded mewn coedwigoedd, ymweld â chestyll a llefydd hanesyddol. Mae llawer o lefydd diddorol a hyfryd yng Nghymru. Felly beth am sgwennu at Lingo360 i ddweud lle ydy’ch hoff le chi?
Mae’n syml iawn – atebwch y cwestiynau yma ac anfon eich eitem at bethanlloyd@golwg.cymru
Does dim rhaid i’r eitem fod yn hir iawn – dach chi’n gallu sgwennu faint bynnag dach chi eisiau. Os oes lluniau gynnoch chi, anfonwch nhw hefyd! Mi fydd eich eitem yn cael ei chyhoeddi ar Golwg360 ar y penwythnosau.
Dyma’r cwestiynau:
Pwy dach chi, o le dach chi’n dod, a lle dach chi’n byw rŵan?
Lle mae eich hoff le yng Nghymru?
Pam dach chi’n hoffi’r lle yma?
Pa mor aml dach chi’n mynd i’r lle yma?
Unrhyw ffeithiau difyr?
Diolch yn fawr!
Dyma enghraifft i chi:
Pwy dach chi, o le dach chi’n dod, a lle dach chi’n byw rŵan?
Bethan dw i. Dw i’n dod o Landudno yn wreiddiol. Rŵan dwi’n byw yn Sir Ddinbych.
Lle mae eich hoff le yng Nghymru?
Fy hoff le yng Nghymru ydy traeth Penbryn yng Ngheredigion. Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy’n berchen y traeth.
Pam dach chi’n hoffi’r lle yma?
Dw i’n hoffi Penbryn am fod y traeth yn dawel – hyd yn oed yn ystod cyfnodau prysur fel mis Awst. Dach chi’n gallu cerdded o draeth Penbryn i Tresaith. Weithiau dach chi’n gallu gweld dolffiniaid.
Mae caffi bach yn y maes parcio ym Mhenbryn – y Plwmp Tart. Mae’r caffi yn gwneud brechdanau cranc yn yr haf a chacennau blasus iawn. Dan ni bob amser yn mwynhau mynd yno am goffi a chacen ar ôl bod yn nofio yn y môr. Roedden ni wedi mynd i nofio ar Ddydd Nadolig y llynedd – profiad bendigedig!
Pa mor aml dach chi’n mynd i’r lle yma?
Dan ni wedi bod yn mynd ar wyliau wrth ymyl traeth Penbryn ers blynyddoedd – dan ni’n trio mynd unwaith y flwyddyn ac wedi dechrau treulio’r Nadolig yno hefyd. Mae’n lle braf iawn.
Unrhyw ffeithiau difyr?
Roedd yn lleoliad ffilmio ar gyfer y ffilm James Bond Die Another Day.