Mae cyfres o Wythnosau Byw’n Gymraeg yn cael eu cynnig yng Ngheredigion er mwyn codi hyder dysgwyr i ddefnyddio eu Cymraeg. Ar hyn o bryd, mae’r wythnosau arbennig yma yn cael eu cynnal yng Ngarth Newydd yn Llanbed. Ond, pwy a ŵyr, o bosib byddan nhw i’w gweld ar draws Cymru yn y dyfodol. Dyma yw gobaith Nia Llywelyn, sylfaenydd Hwyliaith sy’n eu trefnu. Yma mae Emily McCaw, sy’n byw yn yr Alban, yn son am ei phrofiad yn ystod yr wythnos yng Ngarth Newydd…
Emily McCaw ydw i a dw i newydd ddychwelyd o wythnos yn aros yng Ngarth Newydd, llety ar gyfer dysgwyr yn Llanbedr Pont Steffan yng Ngheredigion. Dw i’n byw yn yr Alban a dw i’n rhedeg grŵp sgwrsio yng Nghaeredin.
Wnes i ddechrau dysgu Cymraeg yn yr ysgol ond des i nôl at yr iaith bron i ddwy flynedd yn ôl pan ddechreuais i efo SaySomethingInWelsh. Dw i wedi bod isio, erioed, medru siarad Cymraeg. Dw i’n byw yn yr Alban efo fy ngŵr a’n pedwar ci.
Wythnos Byw’n Gymraeg
Dach chi isio treulio amser yn ymarfer eich Cymraeg a phrofi diwylliant Cymreig yng Nghymru? Dach chi’n ffansio wythnos yn byw trwy gyfrwng y Gymraeg? Os felly dyma’r wythnos berffaith i chi!
Does dim byd yn well ar gyfer gwella eich Cymraeg na bod yng Nghymru yn siarad yr iaith efo Cymry Cymraeg! Dw i’n teimlo fel fy mod i wedi gwella llawer dros y wythnos. Ges i lawer o gyfleoedd ardderchog i ymarfer yn ogystal â gwneud ffrindiau newydd ar hyd y ffordd hefyd.
Wnaethon ni gyrraedd Garth Newydd nos Sul a threulio’r noswaith yn dod i adnabod ein gilydd a thref Llanbed – ein cartref newydd ar gyfer y wythnos. Roedd yr wythnos wedi’i llenwi efo llawer o weithgareddau gwych. Ar y diwrnod cyntaf, gafon ni lawer o gyfleoedd i fwynhau bwyd blasus lleol. Gwnaethon ni baratoi cacennau cri (neu pice ar y maen) efo Meinir sy’n berchen caffi Y Pantri.
Wedyn, wnaethon ni gyfarfod Kees Huysmans, perchennog cwmni Waffles Tregroes. Roedden ni’n ddigon ffodus i dreulio llawer o amser yn dod i adnabod Maer a Maeres y dref sef Rhys Bebb a Shân Jones. Oeddech chi’n gwybod bod cadwyn aur y Maer yn werth bron i £100,000 ac mae o’n dyddio nôl i’r 1880au?
Fy hoff weithgaredd oedd mynd i Aberaeron i ymuno gyda grŵp sgwrs Coffi a Chlonc. Roedd yn wych i siarad efo pobl newydd, cymysgedd o ddysgwyr eraill a siaradwyr rhugl. Clywon ni stori fer gan John Arwel Jones am grŵp o chwe theulu oedd wedi mynd i ddechrau bywyd newydd yn America amser maith yn ôl. Wnaethon nhw setlo yn Ohio ar ôl i’w cwch lifo i lawr yr afon hebddyn nhw.
Uchafbwynt arall oedd mynd i ymweld â’r disgyblion yn Ysgol Y Dderi yn Llangybi. Gaethon ni daith o gwmpas yr ysgol efo dau o’r disgyblion.
Dw i’n siŵr bydd un o’r merched yn athrawes yn y dyfodol achos roedd hi’n wych. Roedd hi’n siarad yn uchel ac yn egluro popeth o’n cwmpas ni.
Mae’r plant yn Ysgol Y Dderi yn ffodus iawn. Mae ganddyn nhw ffwrn pizza, polytwnnel ac yn tyfu llawer o lysiau. Heb sôn am y cylch mawr o gadeiriau oedd wedi eu cerfio o foncyffion coed lle maen nhw’n gwrando ar straeon tra’n rhostio malws melys ar y tân agored. Roedd un o’r boncyffion fel siâp toiled hyd yn oed! Wna’i eistedd ar yr un sydd fel gorsedd plîs!
Aethon ni i Landeilo un nos ar gyfer perfformiad arbennig gan Lleuwen Steffan yn un o gapeli’r dref. Roedd y sioe yn anhygoel. Wnaeth hi gymysgu hen recordiadau o emynau sydd wedi mynd yn angof efo’i llais hi tra’n chwarae’r gitâr. Roedd hyn yn brofiad arbennig o dda i Phil, un o’r bobl oedd yn aros efo ni yng Ngarth Newydd. Dywedodd o wedyn fod o’n dallt popeth oedd hi’n dweud ar y llwyfan ac roedd o’n teimlo fel siaradwr Cymraeg go-iawn tra roedd o’n siarad efo’i gymydog ar ôl y sioe. Anhygoel.
Roedd gormod o weithgareddau i’w disgrifio nhw i gyd yn llawn, ond wnaethon ni hefyd ymweld ag arddangosfa Aerwen Griffiths, cael noson yn canu yn y dafarn, ymweld ag Ystrad Fflur, ymweliad arall i Ganolfan y Barcud Coch, bowlio efo grŵp o bobl hyfryd yng Nghlwb Bowlio Llanbed, yn ogystal â bwyta mewn llawer o gaffis a bwytai lleol hefyd.
Dw i’n teimlo bo fi wedi gwella fy Nghymraeg i gymaint yn ogystal â gwneud grŵp o ffrindiau newydd hefyd. Diolch i Hwyliaith sy’n cynnal yr wythnosau am drefnu popeth trwy’r wythnos. Roedd y profiad mor wych bydda’ i’n dychwelyd am wythnos arall efo nhw ym mis Gorffennaf. Y tro nesa bydda’ i’n mynd â fy nhad efo fi hefyd.
Os hoffech chi ddod i ymarfer eich Cymraeg, defnyddiwch y ddolen yma i archebu lle yng Ngarth Newydd. Maen nhw’n cynnig llawer o benwythnosau ac wythnosau gwahanol i ddod i Lanbed ac maen nhw wastad yn ychwanegu mwy.