Dyma’r ail golofn gan y fferyllydd Irram Irshad sy’n edrych ar effeithiau Covid Hir. Y tro yma, mae Irram wedi bod yn siarad gyda’i ffrind Gareth Yanto Evans sy’n byw gyda’r cyflwr…
Yn fy ngholofn gyntaf wnes i roi rhywfaint o gefndir i gyflwr Covid Hir. Yn y golofn yma dw i wedi bod yn siarad gyda fy ffrind, Gareth Yanto Evans, sy’n byw gyda Covid Hir ac sy’n ymddiriedolwr yr elusen Long Covid Support (LCS).
Fe wnes i ddal i fyny gyda Gareth ym mis Mawrth 2024. Roedd e’n edrych yn dda. Ond pe bawn i wedi’i weld yn 2020, fydden i ddim wedi ei adnabod.
“Dw i’n gallu cofio’r union ddyddiad ges i symptomau – 19 Ebrill 2020,” meddai Gareth. Y symptomau cyntaf a gafodd Gareth oedd poen yn ei goes, roedd ei stumog yn boeth i’w gyffwrdd, roedd ganddo dwymyn, blinder a phoen yn ei glust. Cafodd Gareth ymgynghoriad dros y ffôn gyda’i feddyg teulu – cofiwch, yn ystod y cyfnod clo cyntaf yn 2020, roedd meddygon teulu ond yn gweld cleifion difrifol wael (heb symptomau Covid) wyneb yn wyneb. Cafodd wrthfiotigau gan y meddyg ar gyfer y boen yn ei glust.
Ffonio 999
Wythnos wedyn, fe lewygodd Gareth yn ei ystafell wely. Llwyddodd i ffonio 999, a daeth parafeddygon i’r tŷ. Cafodd gwrthfiotigau cryfach eto. Ond roedd Gareth yn ei chael hi’n anodd anadlu, ac yn ofni gorwedd i lawr a thagu yn ei gwsg. Wedi dweud hynny, doedd e ddim yn cysgu, gan fod ganddo anhunedd cronig. Roedd ganddo niwl ymennydd, roedd e’n colli ei wallt a chafodd ddiagnosis o gyflwr o’r enw PoTS [postural orthostatic tachycardia syndrome]. Mae’r cyflwr yn golygu bod eich pwysedd gwaed yn gostwng pan dych chi’n sefyll i fyny, mae cyfradd curiad y galon yn cynyddu, rydych chi’n teimlo’n benysgafn ac wedi blino. Doedd Gareth ddim yn gallu sefyll am fwy na 5-10 munud.
Gan fod y symptomau wedi parhau mor hir, roedd Gareth yn amau bod ganddo Covid Hir (er nad oedd ganddo enw am y cyflwr ar y pryd). Roedd e wedi ymgynghori gyda sawl meddyg oedd ddim yn credu bod Covid yn achosi ei symptomau gan eu bod nhw ddim yn nodweddiadol o Covid.
Profiad ‘ynysig’
Cafodd Gareth ei gyfeirio i Ysbyty Llandochau lle cafodd ei arsylwi am ddwy noson. Roedd yn dioddef o straen ac iselder, meddai’r meddygon. Roedd hyn yn wir, ond roedd y symptomau hyn o ganlyniad i Covid, nid yr achos. Tua’r adeg yma fe welodd Gareth feddyg o’r Alban yn cael ei gyfweld ar y teledu. Roedd ganddo’r un symptomau â Gareth. Roedd gan y meddyg Covid hefyd. Nid cyd-ddigwyddiad oedd hyn.
Roedd Gareth yn gwella’n araf ac yn ceisio mynd yn ôl i’r gwaith yn raddol. Ond wedyn cafodd ei heintio gyda Covid eto. Roedd hyn wedi achos DVT [Thrombosis Gwythiennau Dwfn] oedd wedi achosi ceulad gwaed yn ei goes. Cafodd ei ruthro i’r ysbyty – lle cafodd geulad gwaed arall. Os ydy’r ceulad gwaed yn teithio i fyny i’r ysgyfaint, mae’n gallu bygwth bywyd. Mae Gareth nawr yn cymryd tabledi i deneuo’r gwaed yn y tymor hir.
Mae Gareth yn hollol onest gyda fi – roedd o’n meddwl ei fod yn mynd i farw. Os oedd e’n goroesi, roedd e’n credu efallai na fyddai’n gallu cerdded eto. Roedd wedi bod yn byw yng Nghaerdydd ar ei ben ei hun yn ystod y cyfnod clo cyntaf, ond pan gododd y cyfyngiadau y tro cyntaf, aeth i aros gyda’i rieni yng Nghwmbrân. Oherwydd nad oedd unrhyw un yn gwrando ar ei bryderon, roedd yn brofiad ynysig iawn. Ond wedyn roedd gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yng Nghwmbrân wedi dweud wrtho ei bod wedi gweld llawer o achosion tebyg ac yn credu mai Covid oedd wedi achosi hynny. Dechreuodd deimlo nad oedd ar ei ben ei hun o’r diwedd.
Anodd cael diagnosis
Hyd yn oed yn y dyddiau cynnar hynny pan oedd Covid Hir yn cael ei drafod, roedd hi’n anodd cael diagnosis. Fe gymerodd amser hir i Gareth gael diagnosis Covid Hir ar ei gofnodion meddyg teulu. Ychydig iawn o gefnogaeth oedd ar gael drwy’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) ar y pryd. Daeth Gareth o hyd i grŵp cefnogi Covid Hir ar Facebook ac roedd siarad â phobl mewn sefyllfa debyg yn helpu. Mae Gareth yn berson penderfynol ac roedd eisiau trio dychwelyd i fywyd mor normal ag y gallai. Cymerodd amser hir, ond llwyddodd Gareth i fwynhau un o’i ddiddordebau eto – rhedeg. Roedd e wedi ysgrifennu am ei adferiad ar-lein. Mae wedi cymryd rhan mewn llawer o rasys a chystadlaethau – mae’n wirioneddol ysbrydoledig. O ganlyniad i’w brofiad ei hun, mae Gareth yn benderfynol o beidio gadael i bobl eraill fynd trwy’r un peth.
I’r bobl yn y grwpiau cymorth ar-lein, daeth yn amlwg bod angen cael atebion, triniaeth a chefnogaeth i gleifion gyda Covid Hir. Roedd angen rhyw fath o grŵp lobïo swyddogol i wthio’r agenda ymlaen. Felly, cafodd nifer o grwpiau cymorth swyddogol eu creu yng Nghymru a Lloegr fel Long Covid SOS, Long Covid for Kids, Long Covid Physio, a’r elusen Long Covid Support (LCS).
Mae Gareth wedi cymryd cyfnod sabothol o’i swydd i ddod yn Ymddiriedolwr LCS. Ymunodd Gareth â LCS ym mis Mai 2022 fel gwirfoddolwr gan ddefnyddio ei sgiliau fel cyfrifydd. Mae bellach yn ysgrifennu erthyglau ac yn ymgyrchu dros yr elusen. Fe aeth i’r ymchwiliad Covid yn Llundain ac yng Nghaerdydd.
Mae LCS yn dibynnu ar roddion preifat ar hyn o bryd. Nod yr elusen yw cefnogi pobl sydd â Covid Hir a bod yn rhan o ddatblygu polisi ar lefel genedlaethol y llywodraeth. Mae mwy o wybodaeth yma.