Bydd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn cynnal Gŵyl Amdani unwaith eto eleni. Mae’r ŵyl yn dathlu darllen. Bydd hi’n digwydd rhwng 4 ac 8 Mawrth 2024.

‘Amdani’ yw’r llyfrau darllen i bobl sy’n dysgu Cymraeg. Mae dros 40 o deitlau ar gael erbyn hyn – yn llyfrau, e-lyfrau a llyfrau llafar.

Bydd llawer o weithgareddauyn cael eu cynnal. Fel rhan o’r ŵyl bydd cyfle i ddod i ‘Adnabod yr Awdur’. Y tro yma Siôn Tomos Owen sy’n ateb cwestiynau Lingo360…

 Siôn Tomos Owen

Mae Siôn Tomos Owen yn cyflwyno ar y radio a’r teledu. Mae hefyd yn awdur, artist a bardd.  Mae’n dod o ardal y Rhondda yn ne Cymru. Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn dod i’r ardal yn 2024.

Mae Siôn yn un o awduron llyfrau Amdani. Enw ei lyfr cyntaf ydy Y Fawr a’r Fach – Straeon o’r Rhondda. Mae’r llyfr yn cynnwys llawer o straeon am y Rhondda. Ar hyn o bryd, mae’n sgwennu ei ail lyfr i ddysgwyr, Y Fawr a’r Fach 2.

Ble dych chi’n byw ac o ble dych chi’n dod yn wreiddiol?

Ges i fy magu ar fferm o’r enw Bwthyn Glyncolli yn Nhreorci, Rhondda Fawr lle mae mam a dad yn dal i fyw.

Dw i’n byw yn Nhreorci o hyd, ond erbyn hyn, dw i’n byw ‘downtown’ mewn tŷ teras ar y stryd fawr.

Oeddech chi’n hoffi sgwennu yn yr ysgol?

Dw i wastad wedi mwynhau sgwennu, creu straeon a barddoniaeth. Dw i’n cofio cael cyntaf am sgwennu ym mhapur bro Y Gloran pan ro’n i’n wyth oed ac enillais i 68c.

Beth sy’n eich ysbrydoli i sgwennu?

Mae’r rhan fwyaf o bethau dw i’n sgwennu amdanyn nhw wedi digwydd i mi, neu yn ardal y Cymoedd.  Roedd pethau oedd yn fy ngwneud i’n grac ond erbyn hyn, hiwmor yw beth dw i’n sgwennu fwyaf.

Pa adeg o’r dydd dych chi’n ysgrifennu fel arfer?

Dw i’n gwbl hopeless yn y bore – dw i’n methu gwneud unrhyw beth heb fyfyrio, cael brechdan bacon a double espresso a mynd am dro bach. Wedyn, bydda i’n dechrau gweithio tua 10 y bore.

Gyda’r llyfr Y Fawr a’r Fach 1, ro’n i’n dechrau sgwennu tua 9 y nos. Yna, ro’n i’n rhoi’r stori i fy ngwraig ei darllen (mae hi wedi dysgu Cymraeg i lefel Sylfaen) ac os oedd hi’n ei deall, ro’n i’n rhoi tic ar fy rhestr ac yn symud ymlaen i’r stori nesaf.  Sgwennes i’r 18 stori fel hyn rhwng mis Ionawr a Chwefror 2018.

Beth fasa eich cyngor i rywun sydd eisiau dechrau sgwennu’n greadigol?

Darllenwch lot, dyna’r peth cyntaf. Llyfrau o bob math – mae gan bob awdur ffordd wahanol o sgwennu.

A sgwennwch i chi eich hun, nid i bobl eraill. Os dych chi’n mwynhau darllen eich gwaith, bydd pobl eraill yn ei fwynhau hefyd.

Un o’r pethau anoddaf, ond pwysicaf, yw gofyn i bobl eraill roi barn onest am eich gwaith.

Oes yna unrhyw lyfrau ar y gweill neu’n cael eu cyhoeddi yn 2024?

Bydd fy ail lyfr i ddysgwyr, Y Fawr a’r Fach 2 yn cael ei gyhoeddi y flwyddyn yma!

Mae gen i ychydig ar ôl i sgwennu ond y gobaith yw y bydd yn cael ei gyhoeddi yn Eisteddfod Rhondda Cynon Taf ym mis Awst.

Dw i hefyd yn gweithio ar un prosiect llyfr cudd ac yn tincro gyda fy nghasgliad cyntaf o gerddi Cymraeg ond does dim dyddiad cyhoeddi i’r rhain eto.

Beth dych chi’n edrych ymlaen ato fwyaf yn yr Eisteddfod Genedlaethol?

I ddechrau, y ffaith fy mod i’n gallu mynd i’r Maes bob dydd ond cysgu yn fy ngwely cyfforddus adref!!

Dw i wir yn disgwyl mlaen i wylio cymaint o fandiau ag y gallaf.

Mae gen i ambell ddigwyddiad ar y Maes a rhai ym Mhontypridd; straeon, comedi, canu.

Dw i hefyd yn gweithio ar arddangosfa o waith celf Elwyn Thomas – un o fy hoff artistiaid o’r Rhondda.