Mae Irram Irshad yn fferyllydd yng Nghaerdydd sydd wedi dysgu Cymraeg. Yma mae hi’n son am Wythnos Bwydo ar y Fron y Byd. Mae’n ceisio annog, amddiffyn a chefnogi bwydo ar y fron. Ond fel mae Irram yn dweud, dydy bwydo ar y fron ddim i bawb…


Mae hi’n Wythnos Bwydo ar y Fron y Byd yr wythnos hon. Pwrpas yr wythnos yw codi ymwybyddiaeth at fanteision bwydo ar y fron i fabanod a mamau.

Mae’r manteision yn cynnwys:

  • Helpu i amddiffyn babanod rhag salwch tymor byr a hir.
  • Llai o risg o asthma, gordewdra, diabetes math 1 a Syndrom Marwolaeth Sydyn Babanod (SIDS).
  • Llai tebygol o gael heintiau ar y glust ac anhwylderau ar y stumog.

Problemau sy’n gallu codi

Ond dyw bwydo ar y fron ddim bob amser yn hawdd. Gwledydd Prydain sydd â’r cyfraddau isaf o fwydo ar y fron yn Ewrop. Dim ond tua thraean o fenywod sy’n dal i fwydo ar y fron ar ôl 6-8 wythnos.  Mae rhai o fy ffrindiau ac aelodau o fy nheulu i wedi cael trafferth gyda bwydo ar y fron. Mae bydwragedd ac ymwelwyr iechyd yn annog nhw i fwydo ar y fron. Ond os ydyn nhw’n cael problemau mae’n gallu gwneud i’r fam deimlo yn euog ac fel ei bod hi wedi methu.

Dw i’n cofio un ffrind yn dod ata’i mewn anobaith. Roedd hi’n benderfynol ei bod am fwydo gyda photel ond dywedodd ei bod hi’n cael cyngor gwahanol am ba mor aml i fwydo’r babi. Dw i ddim yn fam fy hun ond dw i wedi helpu i fagu llawer o gefndryd iau. Wnes i sicrhau fy ffrind y byddai’r babi yn iawn os oedd e’n cael ei fwydo o’r fron neu gyda photel.

Mater dadleuol

Mae bwydo ar y fron yn fater dadleuol. Mae rhai pobl yn credu nad ydy bwydo ar y fron yn gyhoeddus yn dderbyniol. Ond mae bwydo ar y fron yn gyhoeddus yn cael ei ddiogelu gan y gyfraith yn y DU. Mae bwydo babi ar y fron yn un o’r pethau mwyaf naturiol y gall mam ei wneud – does dim lle i ragfarnau yn 2024. Ond mae’r bobl yma yn y lleiafrif. Roedd arolwg Start For Life yn dangos fod 72% o bobl yn cefnogi bwydo ar y fron yn gyhoeddus.

Er bod yr ymgyrch hon yn son am fanteision bwydo ar y fron, rhaid cofio nad yw bwydo ar y fron yn addas ar gyfer pob mam. Dylai mamau ddim teimlo unrhyw euogrwydd a dylen nhw ddim cael eu barnu gan neb.  Mae bwydo ar y fron yn sgil sy’n cymryd amser i wneud.  Dylech bob amser gael cyngor proffesiynol cyn rhoi’r gorau iddi’n gyfan gwbl ond, os dych chi, bydd y babi yn iawn!  Beth bynnag mae mam yn penderfynu, ei phenderfyniad hi yw yn y pen draw.

Mam sy’n gwybod orau! Os ydych chi eisiau mwy o gyngor am fwydo ar y fron, gallwch edrych ar y wefan yma neu ffonio’r Llinell Gymorth Genedlaethol Bwydo ar y Fron 0300 100 0212. Cofiwch fwynhau’r amser gwerthfawr hwn gyda’ch bwndel bach o lawenydd!