Ga’i ddechrau drwy holi cwestiwn i chi ddarllenwyr Lingo360?  Ydach chi, ar hyd eich taith dysgu, erioed wedi profiimpostor syndrome’? Os dach chi wedi, dach chi mewn cwmni da!

Mae’n rhyfedd achos dw i wir yn teimlo mor gartrefol wrth siarad a defnyddio’r iaith sydd, erbyn hyn, wedi cyffwrdd â phob elfen o fy mywyd. Mae sgwennu’n greadigol yn y Gymraeg yn rhywbeth dw i wastad wedi bod isio gwneud. Felly pan ddaeth cyfle i ymgeisio mewn cystadleuaeth sgwennu stori fer gan Wasg Sebra, roedd yn rhaid i mi ofyn i fi fy hun: os nad rŵan, pryd?

Sgwennu stori fer ar y testun ‘hunaniaeth’ neu ‘rhyddid’ oedd nod y gystadleuaeth, efo’r tair stori sy’n dod i’r brig yn cael eu cyhoeddi mewn cyfrol o straeon byrion gan wasg Sebra dros yr haf, mewn cwmni awduron profiadol. Felly cyfle hollol arbennig ac amhrisiadwy!

Roedd genna’i syniad am stori, ac yn awchu am ymgeisio, ond ro’n i’n wynebu problem fach. Roedd yna lais bach yn fy mhen yn dweud: Pa hawl sydd gen ti i ymgeisio fel ‘dysgwr’? Ond wedyn, meddyliais am sut fyswn i’n ateb y cwestiwn yna gan un o’m dysgwyr neu ffrindiau eraill sy’n dysgu Cymraeg. A’r ateb, wrth gwrs, yw: peidiwch â gwrando ar y llais gwirion ‘na ac ewch amdani!

Yn ffodus iawn, mae genna’i deulu a ffrindiau cefnogol iawn sy’n fy annog i beidio gwrando ar y llais hwnnw, felly llyncais fy nerfau a chyflwyno cais i’r gystadleuaeth. Dydy cystadlaethau fel hyn ddim yn digwydd yn aml felly roedd yn rhaid bod yn ddewr a mynd amdani! Ac atgoffa fy hun bod gennyn ni i gyd, siaradwyr newydd neu gydol oes, yr hawl i ddangos ein cariad at yr iaith a mynegi ein hunain gan ddefnyddio Cymraeg.

Francesca yn stwidio Radio Cymru gyda Ffion Dafis a Lleucu a Lois

Madonna mia – o mam bach!

Annog darllenwyr i ‘gamu i’r annisgwyl’ yw bwriad Gwasg Sebra, a heb os nac oni bai, ‘annisgwyl’ yw’r gair perffaith i ddisgrifio’r sioc o ddarganfod bod fy stori wedi cael ei dewis i fod yn rhan o’r gyfrol gan y beirniad ac awdur arbennig iawn, Gareth Evans-Jones. Madonna mia – o mam bach!

Gesh i’r cyfle i gwrdd â Lleucu Non a Lois Roberts, y ddwy arall sydd wedi dod i’r brig efo’u straeon nhw, yn y stiwdio ym Mangor ar ôl cael gwahoddiad i drafod y gystadleuaeth ar raglen radio Ffion Dafis.  Mor hyfryd oedd cwrdd â nhw a chael y cyfle i glywed mwy am eu straeon a sgwrsio efo Ffion – awdures arall dw i’n edmygu cymaint.

Dwi mor falch nesh i ddim gwrando ar y llais oedd yn deud wrtha’i am beidio trio, a dw i’n gobeithio eich bod chi yn gwneud yr un peth: camu i’r annisgwyl a mynd amdani, beth bynnag yw’r her neu freuddwyd!

Os hoffech chi wrando ar y sgwrs efo Ffion Dafis ar Radio Cymru, mae ar gael yma: