Jason a Janice Clark

Bob Nos Galan Gaeaf ers 2005, mae Jason a Janice Clark wedi treulio llawer o amser a chreadigrwydd yn addurno eu tŷ yn ardal Santa Barbara ac yn dewis thema arbennig bob blwyddyn.

Maen nhw mor adnabyddus am eu haddurniadau yn yr ardal erbyn hyn fel bod pobl yn dod o bell i weld eu tŷ bob blwyddyn. Os oedd gwobr addurniadau Nos Galan Gaeaf yn ein hardal, dw i’n siŵr taw Jason a Janice fyddai’n ennill!

Nos Galan Gaeaf diwethaf, ymwelais â Jason a Janice i weld eu haddurniadau anhygoel a siarad â nhw am eu hanes o ddathlu’r ŵyl mewn steil. Y llynedd, y thema oedd Mardi Gras.

Y thema eleni ydy Yr Hunllef Cyn y Nadolig. Wnes i fynd draw i siarad efo Jason a Janice am eu harddangosfa newydd a gofyn: “Sut wnaeth y freuddwyd droi’n hunllef…?”

Y goeden Nadolig ddu

Mae’ch tŷ yn edrych yn anhygoel fel arfer! O ble daeth y syniad ar gyfer y thema eleni?

Janice: Daeth y syniad gan ein plant.

Jason: The Nightmare Before Christmas yw hoff ffilm ein merch. ‘Dyn ni’n ei gwylio bob Calan Gaeaf, felly gofynnodd y plant: “Beth am thema Yr Hunllef Cyn y Nadolig, ‘te?”

Janice: Dyma ychydig bach o’r cefndir… Ers i’n plant ni fod yn fach, dw i wedi cadw bil o bopeth maen nhw wedi torri yn y tŷ. Wnaethon ni ddweud y gallen nhw osgoi talu am yr eitemau os oedden nhw’n cymryd rhan yn ein llun Nadolig/Siôn Corn bob blwyddyn nes eu bod yn 18 oed. Dyma fydd eu blwyddyn olaf a bydd eu dyled wedi cael ei thalu’n llawn! Felly, gofynnodd y plant am gael gwisgo gwisgoedd Calan Gaeaf yn y llun eleni. Dwedais i: “Iawn, ond dim masgiau wyneb llawn na cholur – rhaid i’ch wynebau fod yn weladwy yn y llun. Wnaethon nhw awgrymu gwneud Yr Hunllef Cyn y Nadolig fel y thema, ac felly dyna be wnaethon ni!

Jason a Janice mewn gwisgoedd dych chi’n pwmpio fyny
Plant Jason a Janice yn eu gwisgoedd

Sut wnaeth y paratoadau eleni gymharu â’r blynyddoedd blaenorol?

Jason: Roedd ychydig mwy o baratoi eleni. Wnaeth Janice y rhan fwyaf o’r gwaith paratoi: cael y gwisgoedd i gyd a’r goeden, peintio’r goeden yn ddu, ac ati. Y rhan fwyaf o fy ngwaith i oedd gosod popeth yn yr ardd ac yn y tŷ. Mae’n llawer o waith!

Janice: Des i o hyd i wisgoedd cymeriadau Yr Hunllef Cyn y Nadolig eleni, gan gynnwys dwy wisg dach chi’n gallu pwmpio fyny! Hefyd, wnaethon ni adnewyddu’r ffens o amgylch yr iard a’i addurno gyda phenglogau a phwmpenni. Mae’r bobl yn siop Dollar Tree yn fy adnabod yn dda erbyn hyn!

Oes unrhyw hoff bethau yn Yr Hunllef Cyn y Nadolig eleni?

Janice: Oes. Y goeden Nadolig ddu. Wnes i brynu coeden artiffisial ail-law naw troedfedd am $2 – ond wedyn wnes i wario $30 yn ei pheintio’n ddu! Wnaethon ni lawer o’r addurniadau, ond ‘dyn ni’n dal i chwilio am Venus Fly Trap i roi ar ben y bwmpen!

Pryd dach chi’n dechrau paratoi ar gyfer Nos Galan Gaeaf?

Janice: Un flwyddyn, ‘wnaethon ni thema Tom Petty and the Bone Breakers, dim ond tair wythnos ar ôl i Tom farw. Y llynedd gydag arddangosfa’r Mardi Gras, daeth popeth at ei gilydd yn gyflym iawn.

Jason: Fel arfer ‘dyn ni’n meddwl am themâu o gwmpas digwyddiadau cyfredol hefyd… ond nid eleni!

Diolch yn fawr iawn am y sgwrs, a Chalan Gaeaf Hapus!

Jason a Janice: Calan Gaeaf Hapus i bawb yng Nghymru!

Pwmpen wedi’i addurno ar thema’r ffilm The Nightmare Before Christmas