Fel dych chi’n gwybod, mae Nos Galan Gaeaf yn cael ei dathlu ar 31 Hydref gan bobl dros y byd.

Ond oeddech chi’n gwybod bod Nos Galan Gaeaf yn dyddio’n ôl i Baganiaeth Geltaidd yn yr Oesoedd Canol? Neu fod Nos Galan Gaeaf wedi dechrau gyda’r traddodiad Celtaidd hynafol “Samhain” oedd yn nodi diwedd y tymor cynhaeafu a dechrau’r gaeaf? Yn America, doedd Nos Galan Gaeaf ddim yn ŵyl swyddogol tan y 19eg ganrif.

Erbyn hyn, mae Nos Galan Gaeaf wedi dod yn boblogaidd iawn. Mewn rhai llefydd, mae pobl yn ymweld â mynwentydd i weddïo a gosod canhwyllau a blodau ar feddau eu hanwyliaid. Ond yma yng Nghaliffornia, mae Nos Galan Gaeaf yn bennaf yn esgus i gael amser da gyda ffrindiau a “chamu i mewn i’r tywyllwch” mewn ffordd hwyliog.

Fel y rhan fwyaf o bobl sy’n dathlu Nos Galan Gaeaf o gwmpas y byd, bydd llawer o bobl yn America’n mynd allan gyda’r nos wedi’u gwisgo fyny. Bydd plant o bob oed yn cerdded o dŷ i dŷ, cnocio ar y drws, a gofyn “tric neu drît?” a chael siocled, losin, neu anrhegion bach eraill gan eu cymdogion.

Arch a charreg fedd

Yn fwy diweddar, mae’r dathliad wedi dod yn gystadleuaeth answyddogol i weld pwy sy’n gallu cael y wisg orau neu addurno’r tŷ i edrych fel set ffilm!

Dw i’n byw yn ardal Santa Barbara ac mae fy nghymdogion yn caru Nos Galan Gaeaf. Mae Jason a Janice Clark  yn byw yn Ventura (ger Santa Barbara) gyda’u dau blentyn. Maen nhw wedi bod yn addurno’r tŷ mewn steil ers blynyddoedd. Mae’r thema yn wahanol bob blwyddyn, felly mae rhywbeth newydd i weld bob tro. Eleni, mae addurniadau Jason a Janice yn cynnwys sgerbwd draig.

 

 

Janice a Jason Clark

Wnes i fynd draw i siarad efo Jason a Janice am yr addurniadau anhygoel.

Pryd wnaethoch chi ddechrau addurno eich tŷ ar Nos Galan Gaeaf?

Jason: Dechreuon ni addurno ar gyfer Calan Gaeaf yn 2005 – dyna’r flwyddyn wnaethon ni brynu’r tŷ yma. Felly dan ni wedi bod yn gwneud hyn ers 18 mlynedd nawr. Dim ond ychydig o addurniadau oedd ar y dechrau: ychydig o oleuadau a cherrig beddi yn yr iard.

Janice: Y flwyddyn wedyn, dechreuon ni gasglu’r sgerbydau ac ychwanegu sgerbwd newydd bob blwyddyn am bron i ddegawd. Y ddraig yw’r diweddaraf. Mae fy nheulu wedi dwlu ar Nos Galan Gaeaf ers i mi fod yn blentyn.

Jason: ‘Dyn ni wastad yn ei wneud yn gyfeillgar i blant. Does dim byd yn neidio allan atoch!

Faint o amser mae’n cymryd i osod popeth?

Jason: Mae’n cymryd dwy neu dair wythnos i gael popeth yn barod. Fel arfer byddwn ni’n dechrau tynnu pethau o’r atig ar ddiwedd mis Medi. ‘Dyn ni’n treulio o leiaf un penwythnos yn cael y cyfan allan o’r atig.

Janice: Yna byddwn ni’n gosod y ffens dros dro (gyda phenglogau bach ar ben pob postyn). Y penwythnos wedyn ‘dyn ni’n gosod y gwifrau trydan a’r goleuadau. Wedyn, ‘dyn ni’n dechrau ychwanegu’r cerrig beddi, y sgerbydau, ac eitemau eraill.

 Sut mae eich “arddangosfa” wedi newid dros amser?

Jason: Pan gawson ni’r sgerbwd cyntaf, wnaethon ni roi peiriant torri gwair ar y glaswellt gyda sgerbwd yn ei wthio, ac esgyrn yn hedfan allan o waelod y peiriant – fel ei fod yn edrych fel petai’n rhedeg dros rywun. Dechreuodd fel yna. Ar ôl y trydydd neu’r pedwerydd sgerbwd penderfynon ni greu thema sgerbwd unigryw sy’n wahanol bob blwyddyn. Ac wrth gwrs ‘dyn ni’n dwlu ar yr holl “effeithiau arbennig” fel y peiriannau mwg a’r gwahanol fathau o oleuadau.

Sgerbwd y ddraig gyda goleuadau coch a gwyrdd

Beth oedd rhai o’ch themâu dros y blynyddoedd?

Jason: Y thema eleni yw Mardi Gras. Felly ‘dyn ni wedi rhoi sgerbwd ein draig ar fflôt gyda’r holl sgerbydau o gwmpas. Mae fel parti mawr yn New Orleans! Mae sgerbwd y ddraig wedi’i goleuo gyda goleuadau gwyrdd a choch – tipyn bach o Gymru!

 Thema’r llynedd oedd noson pocer gyda’r sgerbydau yn eistedd o amgylch y bwrdd yn chwarae cardiau. Gwnaethon ni faes chwarae ysbrydion ddwy flynedd yn ôl, a chyn hynny parti dawns DJ. Cawson ni sgerbwd 10 troedfedd fel y DJ, a’r sgerbydau eraill yn dawnsio.

 Ers pryd dych chi wedi cael sgerbwd y ddraig?

 Janice: Ers 2020, blwyddyn gyntaf Covid. Roedd y sgerbydau a’r ddraig yn gwisgo mygydau, ond daeth storm fawr a wnaethon nhw i gyd chwythu drosodd yn y gwynt! Felly wnes i roi ychydig o boteli o gwrw a gwin a’u rhoi nhw wrth ymyl y sgerbydau. Roedd un o’n cymdogion wedi cymryd un o’r poteli cwrw a gadael potel wag o wisgi yn ei le!

Y sgerbydau’n chwarae pocer

 Beth mae eich teulu a chymdogion yn meddwl o’r addurniadau?

Jason: Mae’r holl blant sy’n byw yma yn ei fwynhau. Mae llawer o bobl yn dod yma yn arbennig i weld ein tŷ ni. Ar ôl i ni ddechrau addurno, dechreuodd tai eraill yma wneud yr un peth hefyd. Felly mae’r stryd hon wedi dod yn adnabyddus fel y lle i fynd i weld addurniadau arbennig, ac fel lle hwyliog i ddod ar Nos Galan Gaeaf.

Janice: Roedd un teulu ar ein stryd yn arfer coginio “Halloweenies” i bawb. Basen nhw’n adeiladu stondinhot dogs” ac yn gwneud cannoedd bob blwyddyn.

 

Jason a Janice gydag un o’r sgerbydau

Pryd wnaethoch chi ddechrau gwisgo fyny ar Nos Galan Gaeaf?

Janice: O, ‘dyn ni wastad wedi gwisgo lan!

Jason: Pan o’n ni’n byw ger Los Angeles, ro’n ni’n mynd i barti Calan Gaeaf mawr bob blwyddyn o’r enw “The Boo.” Erbyn i ni symud yma, Calan Gaeaf oedd “ein peth ni.” Nawr, dw i weithiau’n gwneud gwisgoedd mwy brawychus i’r plant hŷn!

 

Janice: Y flwyddyn y cafodd ein plant eu geni, ro’n nhw’n ddau fis a hanner ar Nos Galan Gaeaf. Felly gwnaethon ni wisgoedd diafol bach iddyn nhw, gyda Jason a fi wedi gwisgo fel angylion!

 

Ydy plant ifanc wedi cael eu dychryn?

 Jason: Ydyn! Bob blwyddyn mae un neu ddau o blant yn ofnus iawn. Weithiau mae plant yn dod rownd y gornel ac yn gweld un ohonon ni’n eistedd ar y porch ac yn meddwl, “Na, dw i ddim yn mynd i’r tŷ yna!”

Felly dw i fel arfer yn tynnu’r mwgwd i roi sicrwydd iddyn nhw ein bod ni’n gyfeillgar.

Ar ôl yr holl waith caled o ddathlu Nos Galan Gaeaf, sut dych chi’n dathlu Diolchgarwch a’r Nadolig?

 

Jason: Mae Diolchgarwch yn “hoe” i ni, felly dim ond un bocs o addurniadau sy gyda ni! Ond ‘dyn ni’n coginio pryd mawr ac yn agor ein tŷ ar gyfer pobl sydd heb deulu yn lleol, ac ati. Weithiau mae gyda ni chwech neu wyth o bobl yma ar gyfer Diolchgarwch, a ‘dyn ni wedi cael cymaint ag 20.

Janice: Wedyn adeg y Nadolig ‘dyn ni’n gwneud yr addurniadau eto – ond dim cymaint â Chalan Gaeaf – gyda gwahanol gymeriadau anifeiliaid sy’n symud yn yr iard, goleuadau Nadolig, ac ati.

 Diolch yn fawr iawn i Janice a Jason am y sgwrs a Nos Galan Gaeaf hapus o Galiffornia!

Yr addurniadau yn 2021