Mae heddiw (8 Mawrth) yn Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod. Fel fferyllydd, dw i’n mynd i dalu gwrogaeth i’r fferyllwyr benywaidd arloesol a ddaeth o’m blaen i arwain y ffordd.
Fanny Deacon
Daeth Fanny yn fferyllydd benywaidd cyntaf Prydain yn 1870. Gweithiodd gyda’i thad, oedd yn fferyllydd. Er mwyn gwneud cais i sefyll yr arholiad yn 1869, nid oedd Fanny wedi datgelu ei bod yn fenyw. Roedd hi wedi arwyddo ei chais gyda’i henw morwynol F E Potter. Roedd y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol (CFF) yn caniatáu i fenywod gofrestru fel fferyllwyr. Ond nid oedd y CFF yn caniatáu i fenywod ddod yn aelodau. Felly dynion oedd yn parhau i ddrafftio’r holl reoliadau. Ond cafodd y polisi ei newid yn 1879 ac roedd y CFF yn derbyn menywod ar ôl hynny.
Yn 1875, roedd Fanny wedi priodi Abraham Deacon, gweinidog capel yn Fleckney. Agorodd Fanny ei fferyllfa ei hun yn 1 Lôn Wolsey yn Fleckney, drws nesaf i’r capel. Mae plac gwyrdd ar yr adeilad. Roedd Fanny wedi parhau i redeg ei fferyllfa tan ei marwolaeth yn 1930 yn 92 oed. Am fenyw anhygoel! Er dw i’n gobeithio ymddeol ymhell cyn yr oedran hwnnw!
Alice Vickery
Alice Vickery oedd y fenyw gyntaf i gymhwyso fel Cemegydd a Chyfreithiwr yn 1873. Roedd hi’n fydwraig hyfforddedig. Yn 1873, aeth i Baris i astudio meddygaeth.
Doedd dim ysgol feddygol Brydeinig yn derbyn menywod ar y pryd. Ond daeth Alice yn ôl yn 1877 i gwblhau ei hyfforddiant. Roedd Alice wedi brwydro dros hawliau menywod trwy gydol ei hoes.
Roedd hi wedi ymuno â’r Swffragetiaid a hyrwyddo dulliau atal-cenhedlu. Bu farw o niwmonia yn 1929.
Isabella Clarke-Keer
Cofrestrodd Isabella gyda’r Gymdeithas Fferyllol Frenhinol (CFF) yn 1875. Sefydlodd ei busnes ei hun yn Llundain ac roedd hi wedi hyfforddi myfyrwyr meddygol benywaidd ar gyfer eu cwrs dosbarthu. Daeth yn Diwtor mewn Fferylliaeth yn y Royal Free School of Medicine for Women. Cafodd ei hethol yn un o fenywod cyntaf y CFF yn 1879. Isabella oedd Llywydd cyntaf Cymdeithas Fferyllwyr Benywaidd yn 1905. Bu farw yn 1926, yn 84 oed.
Margaret Buchanan
Pan gofrestrodd Margaret gyda’r CFF yn 1886, ar y pryd hi oedd yr unig fenyw i ennill dwy anrhydedd yn yr arholiadau a chafodd Fedal Arian y CFF. Helpodd i hyfforddi fferyllwyr benywaidd eraill wrth redeg busnes. Sefydlodd Ysgol Fferylliaeth Gordon Hall ar gyfer menywod ym 1905. Yn 1918, cafodd ei hethol yn aelod benywaidd cyntaf i Gyngor CFF. Ymddeolodd yn 1924 a bu farw yn 1940.
Jean Kennedy Irvine
Roedd Jean Irvine wedi cymhwyso fel fferyllydd yn 1900 yn Roxburghshire. Roedd ei swydd gyntaf gyda Chwmni Apothecariaid Glasgow, lle daeth yn Brif Fferyllydd. Yn 1916, daeth yn Uwch-arolygydd y pwyllgor ar gyfer Prisio Presgripsiynau, a bu yn y rôl honno am fwy na 30 mlynedd. Yn 1947, Jean oedd y fenyw gyntaf i ddod yn Llywydd y CFF yn 70 oed. Roedd hyn yn golygu bod gan y CFF fenyw wrth y llyw o’r diwedd ar ôl bron i 70 mlynedd ers caniatáu iddyn nhw fod yn aelodau. Ymddeolodd Jean yn 1952 a bu farw yn 85 oed yn 1962.
Marion Rawlings
Beth am fferyllydd benywaidd o Gymru? Roedd Marion Rawlings wedi sefydlu ei fferyllfa yng Nghaerdydd yn 1957 ac aros yna trwy ei gyrfa. Roedd hi’n Gadeirydd Pwyllgor Contractwyr Canolog Caerdydd ac Ysgrifennydd Pwyllgor Fferyllol Lleol De Morgannwg. Roedd Marion yn Llywydd y CFF rhwng 1989-90 a gwasanaethodd ar gyngor y CFF rhwng 1983-1995. Ymddeolodd yn 1990 a chafodd OBE am ei gwasanaethau i fferylliaeth.
Pwy yw fy arwres i? Pan oeddwn yn 16 oed, cefais fy swydd gyntaf mewn fferyllfa fel cynorthwyydd cownter a dosbarthwr dan hyfforddiant. Ro’n i’n gweithio i Millicent Rodrigues, perchennog Fferyllfa North Road yng Nghaerdydd. Roedd hi’n aml yn cellwair ei bod hi wedi cymhwyso yn yr un flwyddyn y cefais i fy ngeni (na, dw i ddim yn dweud wrthych chi pa flwyddyn oedd honno!). Roedd hi mor garedig a chymwynasgar i’w chleifion, yn aml yn danfon meddyginiaethau i gleifion oedrannus yn ei hawr ginio ac ar ôl gwaith. Roedd hi’n fentor mor hael wrth rannu ei gwybodaeth. Mae hi’n credu mewn rhoi cyfle i’w chydweithwyr benywaidd, rhywbeth, yn anffodus, dw i wedi profi’n anaml iawn ers hynny. Roedd caredigrwydd, gofal a phroffesiynoldeb Milly bob amser yn fy atgoffa o ba fath o fferyllydd yr wyf am fod, ac rwyf wedi aros yn driw i hynny, hyd yn oed os dyw rhai rheolwyr ar hyd y ffordd ddim wedi cytuno!
Agatha Christie
Yn olaf, hoffwn orffen drwy ddathlu nid fferyllydd, ond dosbarthwr enwoca’r byd, sydd hefyd yn digwydd bod yn hoff awdur i mi. Darllenais nofel Agatha Christie am y tro cyntaf pan oeddwn yn 10 oed ac rwyf wedi gwirioni ers hynny. Un o’m hatgofion hapusaf oedd ymweld â’i chartref, Greenway yn Nyfnaint, sydd bellach yn cael ei reoli gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Roedd llawer o wenwynau yn gyfrifol am lofruddiaethau yn ei nofelau a dysgodd am y rhain yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Gweithiodd fel nyrs am y tro cyntaf yn 1914-15, yna ymunodd â fferyllfa Ysbyty y Groes Goch yn Torquay lle hyfforddodd fel cynorthwyydd apothecari.
Ar ôl cwblhau arholiad Cymdeithas yr Apothecarïau yn Llundain ym 1917, paratôdd Agatha biliau, tonigau a golchdrwythau â llaw. Erbyn diwedd y rhyfel, roedd Agatha yn fferyllydd. Defnyddiodd ei gwybodaeth yn ei nofel gyntaf, The Mysterious Affair at Styles, gan gyflwyno’r ditectif Hercule Poirot.
Dw i wedi dod i’r casgliad bod pethau da yn dod o ddelio gyda chyffuriau!