Yma, mae Sonya Hill o Lanbedr ger Harlech yn dweud hanes y tŷ lle mae hi’n byw.  Mae Sonya yn dysgu Cymraeg ar-lein gyda Popeth Cymraeg a Phrifysgol Bangor.


Gŵr Sonya Hill a’u ci y tu allan i’w ty yn Llanbedr

Sonya dw i. Dw i’n dŵad o Walsall yn wreiddiol ond dw i’n byw yn Llanbedr ger Harlech rŵan. Mi wnes i symud i Gymru gyda fy ngŵr i ac ein ci ni yn 2016.

Roedd gen i gymydog hyfryd oedd yn byw ar draws y ffordd ac er ei bod hi yn ei nawdegau roedd ei chof yn ardderchog.

Roedd hi’n dal i fyw yn yr un tŷ lle cafodd hi ei geni a wnaeth hi ddweud llawer wrtha’i am hanes ein tŷ ni.

Hwyl – y comic Cymraeg cyntaf erioed i blant

Yn ystod y 1930au a’r 1940au roedd prifathro ysgol y pentref yn byw yn ein tŷ ni.

Ei enw oedd D J Williams.  Ysgrifennodd D J Williams nifer o lyfrau Cymraeg i blant ac yn 1949 cyhoeddodd y comic Cymraeg cyntaf i blant o’r enw ‘Hwyl’.

D J Williams gyda’i wraig, Lena, a’i fab Llion yn y 1940au

Yn anffodus bu farw fy nghymydog ym mis Ionawr eleni ond dw i mor ddiolchgar fy mod i wedi cwrdd â hi a dw i wrth fy modd bod ‘Tad y comic Hwyl‘ yn arfer byw yn ein tŷ ni.

Plac tu allan i ysgol gynradd Llanbedr

Beth am ysgrifennu at Lingo360 i ddweud pam mae’ch tŷ chi yn arbennig i chi? Dach chi’n byw mewn tŷ diddorol? Mae Lingo360 eisiau clywed gennych chi ar gyfer cyfres Ein tŷ ni. Anfonwch ebost at lingonewydd@golwg.cymru