Mae Irram Irshad yn fferyllydd sy’n caru hanes. Mae ei cholofn yn edrych ar rai o lefydd ac adeiladau hanesyddol Cymru. Y tro yma, mae hi wedi bod yn clywed hanes Banc Gogledd a De Cymru yn ystod ymweliad â Lerpwl…


Ym mis Mawrth, cefais ychydig ddyddiau hyfryd yn ymweld â Lerpwl gyda fy ffrind gorau i ddathlu ein pen-blwyddi.  Nid oedd yr un ohonom wedi bod i Lerpwl o’r blaen ac roedden ni wrth ein boddau yn mynd i’r amgueddfeydd, eglwysi cadeiriol, dringo i ben tŵr cloc y Royal Liver Building, a mwynhau gwrando ar gerddoriaeth fyw yng nghlwb y Cavern byd-enwog.

Fe wnaethon ni’r pethau twristaidd arferol gan gynnwys taith fws.  Dw i’n gwybod bod gan Lerpwl gymuned Gymraeg fawr, oherwydd ei bod yn agos at ogledd Cymru.  Doeddwn i ddim wedi meddwl gormod am y peth tan i Dave, y tywysydd ar y daith, ofyn a oedd unrhyw deithwyr o Gymru.  Wrth gwrs, ro’n i wedi codi fy llaw yn syth.  Wrth i ni basio adeilad mawr, gofynnodd Dave a oeddwn i’n gwybod beth oedd y llythrennau NSWB yn eu golygu.  Roeddem eisoes wedi pasio’r adeilad a stopiodd y bws wrth oleuadau traffig. Roedd yn hen adeilad yn sefyll ar ei ben ei hun, gyda simneiau uchel. Doeddwn i ddim yn gallu gweld y llythrennau oedd wedi’u cerfio arno, ond ro’n i’n gallu gweld arwydd yn dweud ‘The Wedding House’.  Yn wreiddiol, yr adeilad hwn oedd Banc Gogledd a De Cymru (North and South Wales Bank – NSWB).  Doeddwn i erioed wedi clywed am y banc yma ac, wrth gwrs, roedd yn rhaid i fi ddarganfod mwy!

Cafodd y banc ei sefydlu yn Lerpwl yn 1836. Sylfaenwyr y banc oedd Syr Love Parry Price Parry, Ambrose Lace a John Dean Case. Roedd y banc yn gwasanaethu Cymru a Lloegr ac yn rhoi arian Cymreig i gwsmeriaid!  Roedd 84 cangen o’r banc a 24 o is-ganghennau.

Y nod oedd cefnogi cwsmeriaid yn y meysydd mwyngloddio, gweithgynhyrchu ac amaethyddiaeth oedd heb fynediad hawdd at wasanaethau bancio.  Roedd y banc yn rhagweld y byddai canghennau ar draws Cymru, er gwaethaf yr heriau trafnidiaeth a chyfathrebu, gan nad oedd rheilffyrdd yng Nghymru ar y pryd.

 Roedd Banc Gogledd a De Cymru wedi cymryd drosodd sawl banc preifat yng ngogledd Cymru a hefyd rhai yn Lloegr.  Aeth Banc Gogledd a De Cymru o nerth i nerth yng Nghymru yn ogystal â’r canghennau yng Nglannau Mersi, Swydd Gaer a Swydd Amwythig.

Arian y banc

Erbyn mis Tachwedd 1908, pan unodd â Banc Canolbarth Lloegr, roedd gan Fanc Gogledd a De Cymru ganghennau yng Nghastell yr Esgob, Y Drenewydd, Powys, Trefyclo, Y Trallwng, Llanfyllin, Croesoswallt, Rhuthun, Yr Wyddgrug, Llanrwst, Caernarfon, Wrecsam, Aberystwyth, Y Rhyl, a Llangollen.  Yn 1908 cafodd yr arian Cymreig ei dynnu o gylchrediad.

Mae hen adeilad y banc yn Great George Place a daeth yn adeilad rhestredig Gradd II yn 1975. Mae’n sefyll ar ei ben ei hun gan fod pob adeilad cyfagos wedi diflannu (o bosibl yn ystod yr Ail Ryfel Byd pan gafodd Lerpwl ei bomio).  Mae’n enghraifft o adeilad yn yr arddull Gothig.  Ar ffrynt yr adeilad mae tarianau o Gymru, Lloegr, Lerpwl ac Iwerddon, a tharian ganolog gyda’r llythrennau NSWB.  Ar ôl i’r banc gau, ail-agorodd fel siop ddodrefn yn 1991 ac ers 2003 mae wedi bod yn siop The Wedding House. Mae sawl cwmni sy’n darparu gwasanaethau priodas wedi’u lleoli yno.

Mae tywyswyr teithiau Lerpwl a pherchnogion The Wedding House yn dal i geisio cadw hanes Banc Gogledd a De Cymru yn fyw.  Hoffwn ddiolch i berchnogion The Wedding House am eu caniatâd caredig i ddefnyddio eu lluniau.  Oes gennych chi unrhyw atgofion neu straeon am fanc yr NSWB, yn enwedig yng Nghymru? Beth am adael neges yn y sylwadau?