Mae Eisteddfod Gadeiriol y Felinheli yng Ngwynedd wedi cael ei hatgyfodi am y tro cyntaf ers mwy na 50 mlynedd. Cafodd yr Eisteddfod ei chynnal y tro diwethaf yn y 1970au.
Mae’r trefnwyr eisiau annog dysgwyr Cymraeg yr ardal i gymryd rhan. Mae cystadleuaeth arbennig i ddysgwyr. Dach chi’n gallu ennill tlws arbennig a £30.
Mae Osian Wyn Owen yn fardd o’r Felinheli a hefyd yn un o’r trefnwyr. Mae o wedi bod yn ateb cwestiynau Lingo360…
Osian, pryd cafodd yr Eisteddfod gyntaf ei chynnal yn y Felinheli?
Mae’r Eisteddfod yn mynd nôl i’r 1890au. Roedd adroddiad am yr Eisteddfod ym mhapur newydd Cymraeg Y Werin ar 12 Medi 1891. Mae’n dweud eu bod nhw wedi codi pabell i gynnwys tua thair mil o bobl. Ia wir, tair mil o bobol ar gyfer eisteddfod fach leol. Mae’n anodd credu. Mae’n fwy na phoblogaeth gyfan y pentref erbyn hyn! Ond rydan ni’n siŵr y bydd digon o le i bawb yn Neuadd Goffa’r Felinheli ar 1 Chwefror y flwyddyn nesa.
Pryd ddaeth Eisteddfod y Felinheli i ben?
Daeth yr Eisteddfod i ben rywbryd yn y 1970au. Byddai’n dda os oes gan rywun yn y pentref (neu’r byd!) fwy o wybodaeth am yr Eisteddfod. Oherwydd y cyfnod hir sydd wedi mynd heibio ers yr un ddiwethaf does dim llawer o hanes gennym ni am yr Eisteddfod. Mae llun du a gwyn o’r Eisteddfod yn 1971/72 wedi dod gan Awen McDougall oedd yn dod o’r Felinheli. Dach chi’n nabod y wynebau? Os dach chi’n gallu helpu, anfonwch unrhyw luniau neu wybodaeth ar e-bost at eisteddfodfelinheli@gmail.com
Beth ydy hanes y Gadair sydd wedi cael ei rhoi i’r Eisteddfod?
Mae’r Gadair yn un o’r Eisteddfodau olaf y Felinheli yn 1973. Enillydd y Gadair oedd Meirion Hughes (Stryd Garnon, Caernarfon ar y pryd!). Y beirniad oedd Y Parchedig John Gwilym Jones. Roedd o wedi dod yn Brifardd yr Eisteddfod Genedlaethol ac yn Archdderwydd. Mae’r Gadair wedi cael ei rhoi gan nith yr enillydd, Anwen Lynne. Diolch Anwen!
Sut dach chi wedi codi arian ar gyfer yr Eisteddfod?
Gawson ni ocsiwn sydd wedi rhoi hwb mawr i goffrau’r Eisteddfod. Wnaethon ni godi £3,000. Mae pobl wedi bod mor hael.
Os dach chi’n fusnes neu’n unigolyn lleol sydd eisiau cyfrannu at ein gwaith, cysylltwch efo ni!
Mae llawer o bobl hefyd wedi gofyn “sut fedra’i helpu’r Eisteddfod?”. Felly dyma restr o bethau gallech chi wneud i helpu:
- Dewch yn ffrind i’r Eisteddfod drwy roi cyfraniad. Byddwn yn rhoi eich enw ar raglen yr Eisteddfod.
- Noddi cystadleuaeth er cof am un o’ch anwyliaid.
- Gwneud cacen ar gyfer diwrnod yr Eisteddfod.
- Stiwardio ar ddiwrnod yr Eisteddfod
Sut mae pobl yn gallu cystadlu yn yr Eisteddfod?
Y cystadlu ydy uchafbwynt pob Eisteddfod, wrth gwrs. Mae’r testunau ar wefan Cymdeithas Eisteddfodau Cymru. Hefyd, dach chi’n gallu cysylltu ar e-bost.
I gymryd rhan yng nghystadleuaeth Tlws y Dysgwyr, dach chi’n gallu ysgrifennu neu recordio proffil ohonoch chi eich hun ar gyfer papur bro Goriad a gwefan BangorFelin360.
Bydd angen i chi anfon eich gwaith erbyn dydd Sadwrn, 18 Ionawr.
Mae mwy o wybodaeth yma.
Eisteddfod Gadeiriol y Felinheli, Neuadd Goffa’r Felinheli, Dydd Sadwrn 1 Chwefror, 2025