Mae’n Ddiwrnod Iechyd y Geg y Byd heddiw (dydd Mercher, 20 Mawrth). Thema’r  ymgyrch eleni ydy “ceg hapus, corff hapus”. Yma mae’r fferyllydd o Gaerdydd, Irram Irshad, yn rhoi cyngor ar sut i gadw’r geg yn iach


Pam mae iechyd y geg yn bwysig?

Gall afiechydon y geg arwain at boen ac anghysur, diet gwael, ynysu cymdeithasol a cholli hunanhyder. Mae’n bosib atal y rhan fwyaf o afiechydon y geg gyda hylendid da a mynd at y deintydd yn rheolaidd.

Wrth i ni fynd yn hŷn, dyn ni’n dueddol o gael problemau iechyd y geg.  Mae cig y dannedd yn dechrau cilio, mae tyllau’n datblygu yn y dannedd, a gall rhai cyflyrau meddygol wneud yr esgyrn yn wan.

Gall rhai meddyginiaethau hefyd achosi i’r esgyrn deneuo (e.e. steroidau). Mae llawer o feddyginiaethau yn achosi ceg sych fel sgil-effaith.  Bwyd sy’n achosi’r difrod mwyaf, yn enwedig bwydydd llawn siwgr a diodydd pefriog.

Os nad ydym yn bwyta diet cytbwys iach, gall hyn achosi problemau pellach gydag organau eraill yn y corff ac achosi afiechydon.  Nid yw poen, gwaedu, a lympiau yn y geg yn normal a rhaid i chi weld eich deintydd ar frys.  Wrth gwrs, os ydych chi’n mynd at y deintydd yn rheolaidd, dych chi’n gallu dod o hyd i broblemau yn gynt a’u rheoli’n gyflym.

Beth ddylen ni wneud i gadw’r geg yn iach?

  • Brwsio eich dannedd ddwywaith y dydd, yn y bore a gyda’r nos. Defnyddiwch bast dannedd fflworid am tua 2 funud.  Gwnewch yn siŵr eich bod yn brwsio pob dant.  Mae angen brwsio gyda symudiadau cylchol. Mae hyn yn cael ei wneud yn awtomatig gyda brwsh dannedd trydan.
  • Peidiwch â rinsio’ch ceg yn syth ar ôl brwsio. Mae hyn yn golchi’r fflworid i ffwrdd. Y cwbl sydd angen ydy poeri unrhyw bast dannedd sydd ar ôl.
  • Defnyddiwch edau ddannedd ar ôl pob pryd bwyd i dynnu bwyd, a phlac sy’n sownd rhwng eich dannedd. Mae defnyddio edau ddannedd yn rheolaidd yn lleihau clefyd cig y dannedd a gwynt drwg.
  • Os ydych chi’n defnyddio cegolch, peidiwch â’i ddefnyddio’n syth ar ôl brwsio neu fe fydd yn golchi’r fflworid yn y past dannedd. Dewiswch amser arall i ddefnyddio cegolch e.e. ar ôl cinio. Peidiwch â bwyta nac yfed am 30 munud ar ôl defnyddio cegolch.
  • Trïwch beidio bwyta ac yfed bwydydd a diodydd llawn siwgr, gan gynnwys alcohol.
  • Peidiwch â dechrau ysmygu neu ddefnyddio fêps. Ewch i weld eich fferyllydd cymunedol lleol am gyngor am sut i roi’r gorau i ysmygu.
  • Pan fydd dannedd eich babi yn dod drwodd dechreuwch frwsio nhw yn syth. Mae’n well osgoi rhoi bwydydd a diodydd melys i fabi.
  • Gwnewch yn siwr bod eich plant yn dod i’r arfer o frwsio eu dannedd ddwywaith y dydd.
  • Sythu dannedd gyda sythwr dannedd.

Sgîl-effeithiau meddyginiaethau

Fel gwnes i son yn gynharach gall rhai meddyginiaethau achosi i’r esgyrn deneuo fel sgil-effaith, yn enwedig os dych chi’n cymryd nhw am amser hir.  Dylai eich meddyg teulu sicrhau bod gennych ddigon o galsiwm a fitamin D yn eich diet. Cyn belled â’n bod yn dilyn hylendid da, byddwn i gyd yn gwenu ar gyfer Diwrnod Iechyd y Geg y Byd!