Dyma fy nhrydedd golofn a’r olaf yn fy nghyfres am Covid Hir. Y tro yma dw i’n parhau â fy sgwrs gyda Gareth Yanto Evans.
Mae Gareth yn byw gyda’r cyflwr Covid Hir ac yn ymddiriedolwr yr elusen Long Covid Support (LCS).
Yn y golofn yma dw i’n edrych ar sut y cafodd y pandemig ei drin a beth rydyn ni wedi’i ddysgu o’r Ymchwiliad Covid.
Pan ges i gyfle i siarad efo Gareth, roedd yr Ymchwiliad Covid yng Nghaerdydd hanner ffordd drwodd. Roedd Gareth hefyd wedi mynd i’r Ymchwiliad Covid yn Llundain. Roedd yno pan oedd cyn-Brif Weinidog y Deyrnas Unedig, Boris Johnson, yn rhoi tystiolaeth. Roedd Gareth yn ei chael hi’n anodd bod yn yr un ystafell ag ef.
Gofynnwyd i’r grwpiau cymorth Covid Hir a’r elusen Long Covid Support i gyflwyno cwestiynau i’r ymchwiliad yn Llundain, ond nid yr un yng Nghymru. Mae Long Covid SOS yn cynrychioli’r holl grwpiau sy’n galw am atebion i Covid Hir. Yn ystod yr ymchwiliad fe fu arweinydd Long Covid SOS yn siarad am ei phrofiad hi gyda Covid Hir. Roedd dau wyddonydd o Gaerlŷr wedi sôn am effeithiau Covid Hir. Ond roedd Boris Johnson wedi diystyru’r cyflwr.
Roedd llawer o bethau wedi dod i’r amlwg yn ystod yr ymchwiliad yn Llundain:
- Roedd yn cynnwys diffyg paratoi a gweithredu. Clywodd yr ymchwiliad bod Boris Johnson heb fynd i bum cyfarfod COBRA.
- Roedd y cyn-Ysgrifennydd Iechyd, Matt Hancock, wedi gwthio’r syniad o adael i bobl gael eu heintio er mwyn hybu’r economi er nad oedd tystiolaeth wyddonol i ddangos bod hyn yn gweithio. Roedd hyn wedi arwain at brognosis gwaeth i’r economi yn y tymor hir.
- Roedd taith Dominic Cummings i Gastell Barnard a phartïon yn Downing Street yn dangos nad oedd rhai yn y llywodraeth yn dilyn y canllawiau. Y gwyddonwyr oedd yn cael y bai am fethiant y llywodraeth.
‘Difaterwch ac anwybodaeth’
Fel rhywun sy’n gweithio i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) mae llawer o’r pethau gafodd eu gwneud adeg y pandemig wedi fy nghorddi. Un enghraifft oedd diffyg PPE [Personal Protective Equipment].
Pe bai’r mesurau rhagofal cywir wedi cael eu gwneud pan wnaeth Llywodraeth Theresa May gynnal ymarfer o sut i ddelio gyda pandemig nôl yn 2016, byddai nifer y marwolaethau ddim wedi bod mor uchel.
“Roedd yna ddifaterwch ac anwybodaeth gan lywodraeth y DU ar y dechrau oherwydd doedd Boris Johnson ddim yn credu y byddai Covid yn dod i’r DU,” meddai Gareth.
Mae Gareth yn teimlo nad oedd y llywodraethau wedi gweithredu’n ddigon cyflym i atal digwyddiadau torfol cyn y cyfnod clo cyntaf, fel Rasys Cheltenham a chyngerdd y Stereophonics yng Nghaerdydd. Mae Llywodraeth Cymru ei hun wedi cael ei beirniadu yn ystod yr ymchwiliad yng Nghaerdydd.
Roedd methiannau sylweddol gyda’r Sector Gofal, wrth i Covid ledaenu mewn cartrefi gofal. Ac mae’r diffyg cefnogaeth i gleifion Covid Hir yng Nghymru yn poeni Gareth.
“Roedd yr ymchwiliad wedi gofyn i’r cyn-Brif Weinidog, Mark Drakeford, pam nad oedd clinigau Covid Hir yng Nghymru. Ei ymateb oedd y byddai cleifion ddim yn gallu teithio’n bell oherwydd blinder. Gallen nhw fod wedi ystyried gwasanaethau symudol.”
Hyd yn hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi £8.3 miliwn i’w rannu rhwng saith bwrdd iechyd ar gyfer helpu cleifion efo Covid Hir. Mae’n rhaid i’r byrddau iechyd hynny benderfynu beth i’w wneud gydag ychydig dros £1m yr un. Gall yr arian yma gynnwys helpu gyda ffisiotherapi ac iechyd galwedigaethol. Mae llawer i’w wneud gyda swm bach.
Beth mae Gareth yn gobeithio fydd yn dod o’r Ymchwiliad Covid?
Mae’n gobeithio y bydd pobl yn cael eu dwyn i gyfrif am eu gweithredoedd (neu eu diffyg gweithredu).
Mae eisiau i lywodraethau’r dyfodol gynllunio’n ofalus cyn pandemig arall.
Mae e eisiau gweld cefnogaeth briodol ar gyfer rheoli a chefnogi dioddefwyr Covid Hir a’u bod nhw ddim yn cael eu hanghofio.
Er mwyn gwneud gwir wahaniaeth i gleifion Covid Hir, mae’n rhaid i’r bobl sy’n gyfrifol wrando ar y rhai sydd wedi cael eu heffeithio fwyaf gan y cyflwr, meddai Gareth.
Fel fferyllydd, byddwn yn hapus i glywed gan unrhyw un sy’n byw gyda Covid Hir, yn enwedig am unrhyw astudiaethau rydych chi’n ymwneud â nhw, ac unrhyw grwpiau cymorth dych chi’n perthyn iddyn nhw. Gobeithio bod y colofnau yma wedi bod yn ddefnyddiol.