I ddathlu Sul y Cofio mae Irram Irshad, colofnydd Lingo360, yn dweud hanes Apêl Heddwch Merched Cymru. Mae Irram Irshad yn fferyllydd o Gaerdydd sy’n hoffi hanes ac wedi dysgu Cymraeg…
Mae obsesiwn gyda fi gydag Apêl Heddwch Merched Cymru 1923-24 ers blynyddoedd. Mae’r stori mor anhygoel am fenywod eithriadol o Gymru. Mae’r stori wedi dod yn ôl yn fyw yn ddiweddar ac mae’r llyfr bendigedig Yr Apêl-The Appeal yn dweud wrthon ni am yr amser gwefreiddiol yma yn hanes Cymru. Cafodd y llyfr ei golygu gan Mererid Hopwood a Jenny Mathers a’i chyhoeddi y llynedd.
Felly i ddathlu Sul y Cofio eleni, dyma hanes Apêl Heddwch Merched Cymru…
Cafodd 35,000 o filwyr Cymreig eu lladd yn ystod Y Rhyfel Mawr (1914-18). Mewn gwlad fach fel Cymru, cafodd effaith ddinistriol. Roedd llawer o bobl eisiau gweld rhyfela yn dod i ben. Cafodd y syniad o greu mudiad heddwch ei drafod ymysg merched Cymru yn gyntaf yn 1922 yn Llandrindod. Cafodd y syniad gefnogaeth gan y Parchedig Gwilym Davies. Fe oedd trefnydd Undeb Cynghrair y Cenhedloedd Cymru.
Cafodd pwyllgorau eu sefydlu yn Aberystwyth yn 1923. Roedd gwirfoddolwyr benywaidd wedi teithio ledled Cymru i gael llofnodion ar gyfer deiseb i geisio sicrhau heddwch byd. Roedden nhw eisiau enwau cymaint o fenywod o Gymru a phosibl ar y ddeiseb. Yn y diwedd cawson nhw bron i 400,000 o enwau – cyflawniad enfawr ar ran yr ymgyrchwyr.
Mynd i’r Unol Daleithiau
Y cam nesaf oedd mynd a’r Apêl i’r Unol Daleithiau. Roedden nhw’n galw ar yr Unol Daleithiau i ymuno ac arwain Cynghrair y Cenhedloedd.
Roedd pedair menyw o Gymru wedi mynd i’r Unol Daleithiau – Annie Hughes Griffiths (arweinydd yr ymgyrch), Mary Ellis (aeth hi i’r Unol Daleithiau yn 1923 i wneud gwaith paratoi), Eluned Prys a Gladys Thomas. Roedd y ddeiseb mewn cist dderw Gymreig wych.
Pan gyrhaeddodd y menywod yn Efrog Newydd ym mis Mawrth 1924, cawson nhw groeso cynnes iawn. Cafodd gwledd ei chynnal yn y Gwesty Biltmore. Un o’r gwesteion oedd Eleanor Roosevelt – daeth ei gŵr yn Arlywydd yr Unol Daleithiau yn 1933.
Roedd y menywod wedi cyfarfod a’r Arlywydd Calvin Coolidge yn y Tŷ Gwyn. Roedd e wedi trefnu bod y gist dderw yn cael ei chadw a’i harddangos yn Amgueddfa Genedlaethol Hanes America yn Washington. Wedyn, aeth Annie Hughes Griffiths ar daith o gwmpas yr Unol Daleithiau am ddeufis i ledaenu’r gair.
Trwy’r 1920au a 1930au roedd nifer o fudiadau heddwch wedi parhau i geisio datrys materion rhyngwladol yn ddiplomyddol. Ond roedd yr Ail Ryfel Byd wedi newid cyfeiriad hanes.
Y gist yn dychwelyd i Gymru
Roedd Yr Apêl wedi mynd yn angof hyd at 2014 pan gafodd dogfen ei ddarganfod yn y Deml Heddwch ac Iechyd yng Nghaerdydd. Cafodd y deml ei sefydlu i gofio’r rhai gafodd eu lladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd sawl sefydliad, gan gynnwys Llyfrgell Genedlaethol Cymru, wedi gweithio gyda’i gilydd i geisio dod o hyd i’r ddeiseb.
Yn rhyfeddol, roedd y gist yn dal i fod yn Amgueddfa Genedlaethol Hanes America ac mewn cyflwr perffaith. Roedd yr amgueddfa wedi cytuno i anfon y gist yn ôl i Gymru. Ei chartref newydd oedd Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae’r ddeiseb yn cael ei chatalogio a’i digido fel ein bod yn gallu chwilio am lofnodion ein cyndeidiau arni.
Mae’r gist ar daith ar hyn o bryd ledled Cymru. Bu’r arddangosfa yn Amgueddfa Sain Ffagan eleni am chwe mis. Roedd yn gymaint o anrhydedd a braint i’w gweld. Mae’r arddangosfa hefyd yn cynnwys gwybodaeth am yr orymdaith i Gomin Greenham yn 1981.
Mae merched Cymru wastad wedi bod ar flaen y gad o ran galw am heddwch. Pa mor lwcus ‘dyn ni Gymry i gael menywod fel hyn yn rhan o’n hanes ni?