Mae Geraldine Swift yn dysgu Cymraeg ac yn byw yng Nghilgwri yn Lloegr. Mae hi’n aelod o’r grŵp ymgyrchu amgylcheddol Just Stop Oil. Yma, mae hi’n dweud pam wnaeth hi ymuno a’r grŵp…


Helo! Geraldine dw i.  Dw i’n dysgu Cymraeg ers tair blynedd – dw i’n dysgu ar-lein efo Popeth Cymraeg. Dw i’n byw efo fy ngŵr a fy mab fenga yng Nghilgwri – dw i’n gallu gweld Cymru dros yr Afon Dyfrdwy o fy ffenestr!

Yr olygfa o dŷ Geraldine yng Nghilgwri tuag at Gymru

Dw i’n gweithio llawn amser fel meddyg mewn ysbyty lleol – seiciatrydd dw i. Mae bywyd yn brysur ond dw i’n poeni mwy a mwy am beth dan ni’n ei wneud i’n planed ni – felly dw i’n aelod o Just Stop Oil.

Mi wnes i ymuno â Just Stop Oil (JSO) yn 2022.  Cyn hynny, ro’n i’n ceisio gwneud pethau’n wahanol ar fy mhen fy hun. Dw i’n bwyta bwyd llysieuol. Dw i’n ceisio peidio â defnyddio fy nghar. Dw i ddim yn hedfan. Dw i’n ysgrifennu at fy Aelod Seneddol yn aml (ac mae hi’n dda am gymryd diddordeb mewn materion gwyrdd).

Ond dydy hynny ddim yn teimlo’n ddigon.

Mae yna argyfwng triphlygnewid hinsawdd, colli bioamrywiaeth a llygredd. Dwi’n gweld bod yr argyfwng triphlyg yma yn effeithio ar iechyd pobl eisoes – iechyd meddwl, problemau ysgyfaint, a heintiau. Bydd hyn yn digwydd mwy a mwy. Bydd o’n effeithio ar y bobl fwya’ agored i niwed: yr hen, yr ifanc, y tlawd, pobl mewn gwledydd sy’n datblygu.  Dydy o ddim yn deg.

Mae pobl yn rhy werthfawr ac mae’r Ddaear yn rhy hyfryd i drin fel hyn.  Fel mam, fel meddyg, fel person, roedd rhaid i fi wneud rhywbeth.  Felly mi wnes i  ymuno â JSO.

‘Cael fy arestio’

Beth dw i wedi ei wneud? Dim llawer. Mi wnes i sawl taith gerdded araf yn Lerpwl a Llundain.  Mi ges i fy arestio unwaith ym mis Tachwedd y llynedd (dim ond am gerdded ar y stryd) – mae’n rhyfedd eistedd mewn cell heddlu am oriau! Dw i’n mynd i’r llys yn fuan a dw i’n nerfus. Ond bydda’i efo ffrindiau JSO ac maen nhw’n hyfryd – caredig, call, jyst yn wych. Pobl ifanc, myfyrwyr, athrawon, gwyddonwyr, pobl sy wedi ymddeol sy’n poeni am eu hwyrion, llawer o bobl.

Weithiau mae pobl yn dweud wrtha’i – “dw i’n cytuno bod ’na broblem ond dw i ddim yn cytuno efo beth wyt ti’n ei wneud”.  Dw i’n deall hynny.  Ond rhaid i ni gyd ofyn – “beth fasai’n well gwneud?” Mae cymdeithasegwyr yn siarad am “radical flank theory” – dyma’r effeithiau positif neu negyddol mae ymgyrchwyr radical dros achos yn eu cael ar bobl fwy cymedrol dros yr un achos. Dw i’n cytuno bod hi’n anodd profi.  Dw i’n meddwl bod y Blaid Lafur yn siarad mwy rŵan am eu cynlluniau ar gyfer chwyldro gwyrdd achos maen nhw’n gwybod bod hynny’n bwysig i bobl – ac mi wnaeth JSO wneud i bobl feddwl a phoeni am y sefyllfa.

Beth i wneud rwan? I fi, dw i’n dal i gefnogi JSO a dw i’n paratoi ar gyfer fy achos llys. A chi, pawb sy’n poeni am newid hinsawdd – rhieni, gwyddonwyr, gweithwyr iechyd, pobl eraill? Plîs, wnewch chi barhau i wneud y newidiadau y gallwch chi yn eich bywydau. Ac os dach chi’n chwilfrydig, edrychwch ar wefan JSO a Greenpeace: mi wnewch chi ffeindio pobl gyfeillgar, sy’n ceisio gwneud y peth iawn.