Ges i ymweliad diddorol iawn â Chastell Cyfarthfa ar ddiwrnod hyfryd yn y gwanwyn. Roedd tiwlipau lliwgar yn yr ardd a’r llyn pysgota yn tywynnu yn yr haul.

Mae Castell Cyfarthfa yn nhref hanesyddol Merthyr Tudful.

Merthyr Tudful oedd prif dref haearn Cymru yn ystod y 19eg ganrif. Roedd pedwar o weithfeydd haearn mawr ym Merthyr.

Y Castell yw canolbwynt Parc Cyfarthfa sy’n cynnwys gerddi a pharc cyhoeddus.

Y golygfeydd o Gastell Cyfarthfa

Mae llawer i wneud yn y castell a’r parc – mae’r castell yn cynnwys amgueddfa, oriel gelf ac ystafell de hyfryd. Yn y parc mae teithiau cerdded, rheilffordd stêm fach, lle chwarae i blant, cwrs golff, bowlio a chyrtiau tenis. Mae’r parc yn lleoliad poblogaidd ar gyfer cyngherddau, sioeau ceir a sioeau ceffylau.

Hanes Castell Cyfarthfa

Cafodd Castell Cyfarthfa ei adeiladu yn 1824 fel cartref i deulu’r Crawshay. Roedden nhw’n deulu cyfoethog oedd yn berchen ar weithfeydd haearn Cyfarthfa. Dyma oedd gweithfeydd haearn mwyaf Prydain. Roedd y plasty mawr yma yn edrych dros y gweithfeydd haearn.

Mae’r plasty yn gymysgedd o arddulliau Tuduraidd a Gothig y tu mewn – a ro’n i wrth fy modd!

Y cyntedd oedd yr ystafell fwyaf yn y tŷ, lle’r oedd y Crawshays yn diddanu gwesteion.

Rhai o’r eitemau oedd yn berchen i’r teulu Crawshay

Roedd y teulu wedi aros yn y Castell tan 1908 pan gafodd ei werthu i’r cyngor lleol.  Penderfynodd y cyngor ddefnyddio rhan o’r llawr gwaelod fel amgueddfa sy’n dal i fod yno heddiw. Roedd gweddill yr adeilad yn ysgol uwchradd tan iddo gau yn 2013.

Mae’r Amgueddfa a’r oriel gelf yn cynnwys casgliad o gelf gain ac eitemau oedd yn berchen i’r teulu Crawshay. Ro’n i’n hapus i weld porslen Abertawe yno hefyd.

Mae sawl paentiad gan Penry Williams (1800-1885) yno. Roedd e’n artist o Ferthyr.

Cafodd ei gomisiynu gan y teulu Crawshay i baentio Castell Cyfarthfa a gweithfeydd haearn Cyfarthfa.

 

Dathlu pobl Merthyr

Mae’r amgueddfa hefyd yn dathlu’r peiriannydd Richard Trevithick (1771-1833). Roedd e’n dod o Gernyw yn wreiddiol.  Datblygodd yr injan stêm pwysedd uchel cyntaf a’r locomotif stêm gweithredol cyntaf oedd wedi teithio ar hyd tramffordd gweithfeydd haearn Penydarren ym Merthyr yn 1804.

Model o injan Richard Trevithick

Mae’r amgueddfa hefyd yn ein hatgoffa o gyfnod tywyll yn hanes y dref. Roedd Richard Lewis (1807-1831), neu Dic Penderyn fel roedd yn cael ei alw, yn löwr. Roedd yn rhan o Wrthryfel y Gweithwyr ym Merthyr yn 1831. Cafodd ei gyhuddo o drywanu milwr. Ond roedd pobl Merthyr yn amau ei fod yn euog ac wedi arwyddo deiseb i geisio ei ryddhau. Ond roedd Dic Penderyn wedi ei gael yn euog a chafodd ei grogi ar 13 Awst 1831. Ar ôl ei farwolaeth cafodd ei drin fel merthyr ledled Cymru.

Ffatri Hoover

Agorodd Ffatri Hoover, sydd ym Mhentrebach, yn 1948. Roedd yn cynhyrchu peiriannau golchi. Roedd fy ffrind, a oedd gyda fi yn ystod yr ymweliad, yn cofio cael twin tub yn debyg iawn i’r un sy’n cael ei arddangos yn yr amgueddfa! Erbyn y 1970au, roedd y ffatri yn cyflogi mwy na 5,000 o bobl. Roedd mawr angen gwaith yn yr ardal ar ôl dirywiad y diwydiant glo.

Y peiriant golchi twintub gan Hoover

Yn 1985, cafodd car C5 Syr Clive Sinclair ei lansio a’i gynhyrchu yn ffatri Hoover. Nid oedd yn llwyddiannus iawn ar y pryd ond erbyn hyn mae gan y C5 statws cwlt.

Mae’r amgueddfa hefyd yn dathlu dau o ddylunwyr byd-enwog Merthyr, Laura Ashley a Julien Macdonald. Roedd Laura Ashley wedi dechrau gwneud defnyddiau a dodrefn yn 1952, gan ehangu i wneud dillad yn y 1960au. Roedd ei siop gyntaf wedi agor ym Machynlleth ym 1961.

Mae’r dylunydd ffasiwn Julien Macdonald wedi gweithio i Givenchy a Chanel. Mae ei ddillad wedi cael eu gwisgo gan Kylie Minogue (fy hoff ganwr pop!), Beyonce, Jennifer Lopez, Joely Richardson a Girls Aloud.

Car C5 Syr Clive Sinclair

Mae’r safle bellach yn cael ei reoli gan Gyngor Sir Merthyr Tudful.  Dw i’n gobeithio y bydd cenedlaethau’r dyfodol yn parhau i drysori’r lle hanesyddol hwn.

Am ragor o fanylion ewch i’r wefan.