Yn ei cholofn y tro yma mae’r fferyllydd o Gaerdydd, Irram Irshad yn rhoi cyngor am sut i stopio smygu…
Yn fy ngholofnau, dw i wedi siarad am ffyrdd o fyw’n iach – bwyta’n iach ac ymarfer corff, a rhoi’r gorau i ysmygu ac yfed yn synhwyrol. Ar ddechrau blwyddyn newydd, dw i am edrych eto ar sut gallwch chi stopio ysmygu.
Dych chi wedi gwneud adduned blwyddyn newydd i roi’r gorau i ysmygu? Os dych chi, mae hynny’n fendigedig! Dych chi’n gwybod bod ysmygu yn gwneud i’ch croen a’ch gwallt arogli’n ddrwg, a’ch dannedd droi’n felyn. Mae’n debyg eich bod yn gwybod sut y gall ysmygu achosi clefyd y galon, clefyd yr ysgyfaint a llawer o ganserau. Gall effeithio eich iechyd meddwl, eich libido, ac os dych chi’n feichiog, gall effeithio eich babi.
Mae ysmygu hefyd yn costio llawer. Beth arall gallech chi wneud gyda’r arian dych chi’n ei arbed drwy beidio prynu sigaréts? Beth bynnag yw eich rhesymau dros geisio rhoi’r gorau i ysmygu, rhaid eich llongyfarch am gyrraedd y cam cyntaf hwn.
Felly sut dych chi’n rhoi’r gorau iddi?
- Penderfynwch ar ddyddiad pan fyddwch chi’n rhoi’r gorau iddi – ond peidiwch â’i adael yn rhy hir.
- Ar y dyddiad hwnnw, taflwch y sigaréts, ac unrhyw beth arall i’w wneud ag ysmygu, yn y bin.
- Gwnewch yn siŵr bod gennych chi ychydig o therapïau amnewid nicotin (NRT). Mae defnyddio NRT yn dyblu eich siawns o roi’r gorau iddi. Mae’n helpu gyda’r symptomau o stopio smygu fel iselder, pryder, rhwystredigaeth, ac aflonyddwch. Gall y rhan fwyaf o bobl eu defnyddio (siaradwch gyda’ch fferyllydd).
Sut fath o bethau NRT allwch chi eu defnyddio?
Clwt Nicotin
Mae dau fath o glwt:
- Clwt 24 awr (NiQuitin®, Nicotinell®), sy’n dda ar gyfer pobl sydd angen sigarét cyn gynted ag y byddan nhw’n deffro.
- Clwt 16 awr (Nicorette®), dych chi’n gallu ei dynnu i ffwrdd am 8 awr dros nos os yw’r clwt 24 awr yn achosi problemau cysgu.
Mae pob brand yn dod fel Cam 1, 2 a 3. Cam 1 yw’r cryfder uchaf, Cam 3 yr isaf. Os dych chi’n ysmygu mwy nag 20 sigarét y dydd, dechreuwch gyda Cham 1. Arhoswch ar gam 1 am 8 wythnos, yna ewch i lawr i Gam 2 am 2 wythnos, yna Cam 3 am 2 wythnos, yna stopio. Cwrs triniaeth gyflawn yw 12 wythnos.
Os dych chi’n ysmygu llai nag 20 sigarét y dydd, dechreuwch ar gam 2 am 8 wythnos, yna Cam 3 am 4 wythnos.
Mae’r clwt nicotin yn rhoi swm cyson o nicotin yn eich corff, ond dych chi dal yn gallu ysu am sigarét ac mae hyn yn gallu para am 5-6 munud. Y cyngor cyffredinol yw cadw eich hun yn brysur yn ystod yr amser hwnnw – gwnewch baned o de, golchi’r llestri, chwarae gêm ar eich ffôn. Os dych chi’n ei chael hi’n anodd cadw’ch hun yn brysur, yna triwch gwm cnoi nicotin neu losin pan fydd angen.
Dyw rhai pobl ddim yn gallu defnyddio clwt nicotin oherwydd ecsema. Dyw rhai pobl ddim yn gallu defnyddio’r gwm cnoi oherwydd dannedd gosod, a gallai’r gwm a’r losin effeithio eich stumog os oes gennych wlserau.
Beth arall sydd ar gael?
- Anadlyddion – sigaréts plastig y gallwch eu rhoi mewn cetris ail-lenwi a ‘mwg‘ pan fyddwch chi eisiau ysmygu.
- Chwistrellau trwynol a chwistrellau ceg – mae’r rhain yn gweithio’n gyflym, yn dda iawn i ysmygwyr trwm (eto, byddwch yn ofalus os oes gennych wlserau).
Gallwch brynu NRT o fferyllfeydd / archfarchnadoedd neu eu cael am ddim gan wasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu o fferyllfeydd.
Beth am Champix®?
Mae Champix® (enw cyffuriau Varenicline) yn gweithio trwy rwystro’r derbynyddion nicotin ac mae’n effeithiol iawn. Mae’n feddyginiaeth bresgripsiwn, ond gallwch chi ei gael gan fferyllfeydd penodol sy’n cymryd rhan yn y gwasanaeth rhoi’r gorau i ysmygu. Fel arall, trefnwch apwyntiad gyda’ch meddyg teulu. Mae rhai cleifion sydd ddim yn gallu cymryd Champix® – rhai ar feddyginiaethau sy’n gweithio ar y system nerfol ganolog yn bennaf, e.e. gwrthiselyddion a gwrthseicotigau.
Beth am fêps?
Gwerthwyd fêps fel dewis arall ‘diogel‘ yn lle sigaréts a hyd yn oed NRT. Ond dydy’r gwneuthurwyr ddim yn cael eu rheoleiddio. Dyn ni ddim yn gwybod yn iawn beth sydd ynddyn nhw. Mae yna lawer o adroddiadau eu bod yn effeithio’r ysgyfaint, yn gwneud i bobl fod yn gaeth iddyn nhw, ac yn achosi trawiadau a llosgiadau. Mae epidemig tawel o fêpio yn lledaenu ymhlith pobl sydd erioed wedi ysmygu ond oedd yn meddwl y byddai’n hwyl. Fel gweithiwr gofal iechyd proffesiynol, dw i’n cynghori’n gryf i osgoi fêps.
Pethau eraill i helpu i roi’r gorau i ysmygu
Dywedwch wrth eich teulu a’ch ffrindiau eich bod yn rhoi’r gorau iddi a’ch bod eisiau eu cefnogaeth. Os ydyn nhw’n ysmygu hefyd, anogwch nhw i roi’r gorau iddi gyda chi. Gofynnwch iddyn nhw beidio ag ysmygu pan dych chi yno.
Osgoi mannau lle mae ysmygwyr. Mae hyn yn llawer haws nawr mewn sawl man cyhoeddus diolch i’r gwaharddiad ar ysmygu yng Nghymru ers 2007.
Bydd rhoi’r gorau i ysmygu yn gwella eich synnwyr arogli a blasu. Mae’n golygu y bydd eich archwaeth yn gwella. Cofiwch fwyta’n iach a chadw pwysau iach (BMI 20-25).
Yn olaf, gall gymryd sawl ymgais i roi’r gorau iddi. Peidiwch â bod yn rhy galed arnoch chi’ch hun os na fydd yn digwydd ar y cynnig cyntaf.
Pob lwc, mae’r hyn dych chi’n ei wneud yn anhygoel, a bydd yn arwain at wella eich iechyd – a gallwch chi fwynhau gwario’r arian ychwanegol!
Blwyddyn Newydd Dda!
Adnoddau:
Helpa fi i stopio – www.helpafiistopio.cymru/www.helpmequit.wales