Y tro yma mae Irram Irshad, y fferyllydd o Gaerdydd, yn rhoi cyngor am gymryd fitaminau a mwynau… 

Ar yr adeg hon o’r flwyddyn, mae llawer o bobl yn cymryd fitaminau a mwynau i helpu eu system imiwnedd a chadw annwyd i ffwrdd.  Ond os oes gennych chi ddiet iach a chytbwys o’r holl grwpiau bwyd, does dim angen cymryd atchwanegiadau fitaminau.

Weithiau dydy pobl ddim yn gwybod eu bod angen atchwanegiadau fitaminau nes eu bod yn gweld eu meddyg teulu, yn aml oherwydd eu bod yn flinedig neu dan straen.

Mae profion gwaed yn dangos beth maen nhw ei angen, ac mae’r meddyg teulu yn rhoi presgripsiwn iddyn nhw.

Er nad yw cymryd fitaminau a mwynau bob dydd yn achosi unrhyw niwed yn y tymor hir, mae rhai atchwanegiadau dyn ni’n fwy tebygol o’u hangen.

Ond cyn i fi son am hynny, mae’n rhaid i fi roi rhybudd i un grŵp o bobl.  Os dych chi’n cymryd y gwrthgeulydd warfarin, ceisiwch osgoi unrhyw atchwanegiadau sy’n cynnwys fitamin K. Mae fitamin K yn achosi ceulo felly mae’n mynd yn groes i beth mae warfarin yn gwneud.

Fitamin D

Mae Cymru’n wlad o fryniau gwyrdd, cerddoriaeth, rygbi… ac ychydig iawn o haul!  Gall diffyg fitamin D (dyn ni’n ei gael o’r haul) wanhau’r esgyrn, gan arwain at osteoporosis.  Y cleifion sydd â risg uchel ydy’r henoed a phreswylwyr cartrefi gofal am eu bod nhw ddim yn mynd allan llawer. Fel arfer maen nhw’n cael dos uchel o galsiwm a fitamin D gan y meddyg teulu. Mae’r fitamin D yn helpu’r calsiwm i fynd i mewn i’r esgyrn. Dylai pob oedolyn gymryd fitamin D trwy fisoedd y gaeaf. Peidiwch â thalu gormod am y brandiau mawr, mae rhai siopau’n gwerthu’r un cynnyrch ond yn llawer rhatach.

Haearn

Dyw’r rhan fwyaf ohonon ni ddim angen haearn oni bai bod ein lefelau ferritin (y storfa haearn yn ein cyrff) yn isel.

Mae merched a menywod ifanc sy’n cael mislif trwm yn fwy tueddol o ddioddef anemia.

Felly os dych chi’n teimlo’n flinedig trwy’r amser, efallai y bydd tabled haearn dyddiol yn helpu. Os na, ewch i weld eich meddyg teulu.

Asid ffolig

Dylai unrhyw fenyw sydd eisiau beichiogi, neu sydd eisoes yn feichiog, gymryd 400 microgram o asid ffolig bob dydd cyn ac yn ystod beichiogrwydd.

Mae asid ffolig yn amddiffyn y babi rhag cyflyrau fel spina bifida.

Fitaminau ‘B’

Mae ein cyrff yn cael gwared a fitaminau ‘B’ yn gyflym. Mae gan fitaminau B sawl swyddogaeth bwysig yn y corff. Mae B1 (thiamin) yn aml yn cael ei roi i bobl sy’n yfed gormod o alcohol, i geisio amddiffyn yr iau. Ond os dych chi’n yfed mwy na 14 uned o alcohol yr wythnos yn rheolaidd, ewch i weld eich meddyg teulu, nyrs practis neu fferyllydd i gael cyngor.  Mae llinellau cymorth ar gael hefyd a grwpiau cymorth, e.e. Alcoholigion Anhysbys.

Mae rhagor o wybodaeth ar wefan GIG 111 Cymru: https://111.wales.nhs.uk, ac Alcohol Change UK: https://alcoholchange.org,uk.

Os dych chi am gymryd fitaminau a mwynau, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n eu prynu o ffynonellau dibynadwy, gydag enwau cydnabyddedig. Cymerwch ofal bob amser wrth brynu unrhyw beth ar-lein.