Mae hi’n Wythnos Ymwybyddiaeth Anhwylderau Bwyta rhwng 25 Chwefror a 2 Mawrth. Yma, mae’r fferyllydd o Gaerdydd Irram Irshad yn dweud mwy am y cyflwr… 

 Mae anhwylder bwyta yn gyflwr iechyd meddwl. Mae pobl yn bwyta gormod neu rhy ychydig i ymdopi â theimladau a sefyllfaoedd.

Mae tri phrif fath o anhwylderau bwyta:

  • Anorecsia Nervosa – ceisio rheoli eich pwysau drwy beidio â bwyta digon o fwyd ac ymarfer gormod.
  • Bwlimiacolli rheolaeth dros faint rydych chi’n ei fwyta ac yna cymryd camau llym, fel gorfodi eich hun i chwydu, er mwyn osgoi magu pwysau.
  • Anhwylder Gorfwyta mewn Pyliau – bwyta llawer iawn o fwyd nes eich bod yn teimlo’n anghyfforddus o lawn.

Mae dioddefwyr yn poeni’n gyson am eu pwysau a siâp y corff.  Yn aml iawn, byddan nhw’n cymryd gormod o garthyddion.  Mae ganddyn nhw arferion llym o amgylch bwyd. Byddan nhw’n aml yn gwrthod mynd i ddigwyddiadau cymdeithasol sy’n ymwneud â bwyd.  Efallai bod newidiadau yn eu hwyliau, e.e. bod yn bryderus, neu’n ddigalon.  Efallai eu bod yn teimlo cywilydd.

Mae symptomau eraill yn cynnwys:

  • Blinder
  • Pendro
  • Poenau, goglais neu ddiffyg teimlad yn y breichiau a’r coesau oherwydd cylchrediad gwael.
  • Pwls cyflym
  • Nid yw menywod yn cael eu mislif.

Pam mae pobl yn datblygu anhwylderau bwyta?

  • Gallai fod hanes teuluol o anhwylderau bwyta, iselder, neu gamddefnyddio alcohol neu gyffuriau.
  • Pwysau cyfoedion, pwysau yn yr ysgol neu’r gwaith, e.e. dawnswyr bale, modelau, athletwyr.
  • Maen nhw wedi cael eu beirniadu am eu pwysau neu siâp eu corff.
  • Hanes o gam-drin rhywiol.
  • Mae gan y person bryder a hunan-barch isel.

Yn aml, bydd pobl ag anhwylderau bwyta yn gwadu bod ganddyn nhw’r cyflwr, felly beth ddylai teulu a ffrindiau edrych amdano?

  • Colli pwysau dramatig.
  • Gwneud gormod o ymarfer corff.
  • Gwisgo dillad llac i guddio colli pwysau.
  • Bwyta llawer o fwyd yn gyflym iawn neu dorri bwyd yn ddarnau bach, a bwyta’n araf iawn.
  • Mynd i’r ystafell ymolchi llawer ar ôl bwyta.
  • Osgoi bwyta gydag eraill.
  • Dweud celwydd am faint a phryd maen nhw wedi bwyta.

Sut mae anhwylderau bwyta’n cael eu rheoli?

Mae’n rhaid i’r person gael ei annog/cynghori i weld ei feddyg teulu cyn gynted â phosibl.  Bydd y meddyg teulu yn gallu eu cyfeirio at wasanaethau arbenigol a fydd hefyd yn darparu cwnsela a Therapi Ymddygiad Gwybyddol. Bydd hyn yn helpu i ymdopi â theimladau a gwneud dewisiadau iach o ran bwyd.

Mae nifer o sefydliadau ac elusennau ar gael i roi cefnogaeth:

Beat –  www.beateatingdisorders.org.uk

Mind – www.mind.org.uk

Mae gan bob Bwrdd Iechyd yng Nghymru wasanaethau anhwylderau bwyta, felly mae cymorth ar gael ym mhob cornel o Gymru.  Os ydych chi’n dioddef eich hun neu’n adnabod rhywun sydd yn, cysylltwch â’r gweithwyr proffesiynol.